William Hughes, Bryn Beddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''William Hughes''', Brynbeddau, (1767-1846) yn un o brif ddylanwadau yn nhwf enwad yr Annibynwyr yn [[Sir Gaernarfon]].
Roedd '''William Hughes''', Brynbeddau, (1767-1846) yn un o brif ddylanwadau yn nhŵf enwad yr Annibynwyr yn [[Sir Gaernarfon]].


Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben [[Dyffryn Gwyrfai]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac erbyn iddo fod yn 21 fe ddechreuodd bregethu. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith yr oedd wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, canolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ôl pum mlynedd trôdd ei sylw at Eifionydd ac Uwchgwyrfai lle'r oedd yn gyfangwbl, neu'n rannol gyfrifol am sefydlu achosion [[Capel Saron (A)|Saron]], [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn|Tal-y-sarn]], Rhoslan, Pentrefelin a [[Capel Bethlehem (A), Trefor| Trefor]].
Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben [[Dyffryn Gwyrfai]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac erbyn iddo fod yn 21 fe ddechreuodd bregethu. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith yr oedd wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, fe ganolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ôl pum mlynedd trôdd ei sylw at Eifionydd ac [[Uwchgwyrfai]] lle'r oedd yn gyfangwbl, neu'n rannol, gyfrifol am sefydlu achosion [[Capel Saron (A)|Saron]], [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn|Tal-y-sarn]], Rhoslan, Pentrefelin a [[Capel Bethlehem (A), Trefor| Trefor]].


Tua 1812, cymerodd achos Saron at ei galon, gan fod yn gyfrifol am godi'r capel ac wedyn ni fu mor barod i deithio ac efengylu. Parhaodd i ffermio Brynbeddau hyd nes iddo fod bron yn 60 oed, a'r pryd hynny fe'i "urddwyd" gan Eglwys Saron - sef yw, fe'i ordeiniwyd ef yn swyddogol yn weinidog rhag i'r aelodau orfod teithioi i Gaernarfon i dderbyn y cymun. Wedyn ni fu mor barod i deithio ac efengylu. Rhoddodd y gorau i ffermio, gan symud i dŷ wrth y capel a oedd wedi'i godi ar gyfer gweinidog . Fodd bynnag, yn ôl ei gofiannydd Owen Jones,"bernir gan lawer oedd mewn cyfle i farnu fod ynddo fwy o gymhwyster at Efengylu na bugeilio. Yr oedd yn well at blannu na dyfrhau." Dywedwyd amdano, er nad oedd yn huawdl nac yn ddifyr i wrando arno, fod ei bregethu'n ddifrifol ond yn "felus" yng nghlustiau'r ffyddloniaid, fel bod croeso iddo yn y capeli bob amser.
Bu'n meithrin achos yng ngwaelodion plwyf Llanwnda a phlwyf Llanfaglan ers blynyddoedd, yn cynnal ysgol Sul a chyfarfodydd efengylu a gweddïo mewn tai. Tua 1812, fe gododd y capel Saron cyntaf. Tra'n barhau i amaethu, daliai ymlaen fel pregethwr cynorthwyol gan agnolbwyntio ar Saron. Parhaodd i ffermio Brynbeddau hyd nes iddo fod bron yn 60 oed, a'r pryd hynny fe'i "hurddwyd" gan Eglwys Saron - sef yw, fe'i hordeiniwyd ef yn swyddogol yn weinidog rhag i'r aelodau orfod teithio i Gaernarfon i dderbyn y cymun. Wedyn ni fu mor barod i deithio ac efengylu. Rhoddodd y gorau i ffermio, gan symud i dŷ wrth y capel a oedd wedi'i godi ar gyfer gweinidog . Fodd bynnag, yn ôl ei gofiannydd Owen Jones,"bernir gan lawer oedd mewn cyfle i farnu fod ynddo fwy o gymhwyster at Efengylu na bugeilio. Yr oedd yn well at blannu na dyfrhau." Dywedwyd amdano, er nad oedd yn huawdl nac yn ddifyr i wrando arno, fod ei bregethu'n ddifrifol ond yn "felus" yng nghlustiau'r ffyddloniaid, fel bod croeso iddo yn y capeli bob amser.


Yn y man, cododd anghydfod rhyngddo ac aelodau Capel Saron, yn bennaf gan y tybient ei fod yn tueddu at "henaduriaeth", sef cadw'r prif ddyletswyddau a phenderfyniadau ymysg swyddogion yr achos yn hytrach na chaniatáu i'r holl aelodau fod â llais llawn yn rhediad yr achos. Fe symudodd ei aelodaeth i gapel Annibynwyr y Bontnewydd lle bu hyd ei farw ar 5 Mawrth 1846, ac yntau'n 79 oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanwnda a chodwyd carreg ar ei fedd gan Ysgolion Sabothol Dosbarth Bethel. Dywedir iddo gofnodi llawer am ei weithgareddau cynnar fel pregethwr ac am achos Saron, ond mae'r papurau i gyd wedi mynd i ddifancoll oherwydd iddo eu rhoi dan ofal ryw Mr Jones o Dreffynnon a farwodd cyn gwneud dim efo nhw.<ref>Ysgrif gofiannol gan Owen Jones, Gallt-y-foel, wedi'i hargraffu yn T.Rees  a J. Thomas, ‘’Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru’’ (Lerpwl, 1873), tt.247-8</ref>
Yn y man, cododd anghydfod rhyngddo ac aelodau Capel Saron, yn bennaf gan y tybient ei fod yn tueddu at "henaduriaeth", sef cadw'r prif ddyletswyddau a phenderfyniadau ymysg swyddogion yr achos yn hytrach na chaniatáu i'r holl aelodau fod â llais llawn yn rhediad yr achos. Fe symudodd ei aelodaeth at gapel Annibynwyr y Bontnewydd lle bu'n aelod hyd ei farw ar 5 Mawrth 1846, ac yntau'n 79 oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanwnda a chodwyd carreg ar ei fedd gan Ysgolion Sabothol Dosbarth Bethel. Dywedir iddo gofnodi llawer am ei weithgareddau cynnar fel pregethwr ac am achos Saron, ond mae'r papurau i gyd wedi mynd i ddifancoll oherwydd iddo eu rhoi dan ofal ryw Mr Jones o Dreffynnon a farwodd cyn gwneud dim efo nhw.<ref>Ysgrif gofiannol gan Owen Jones, Gallt-y-foel, wedi'i hargraffu yn T.Rees  a J. Thomas, ‘’Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru’’ (Lerpwl, 1873), tt.247-8</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 13:54, 6 Ebrill 2021

Roedd William Hughes, Brynbeddau, (1767-1846) yn un o brif ddylanwadau yn nhŵf enwad yr Annibynwyr yn Sir Gaernarfon.

Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben Dyffryn Gwyrfai ym mhlwyf Llanwnda. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac erbyn iddo fod yn 21 fe ddechreuodd bregethu. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith yr oedd wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, fe ganolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ôl pum mlynedd trôdd ei sylw at Eifionydd ac Uwchgwyrfai lle'r oedd yn gyfangwbl, neu'n rannol, gyfrifol am sefydlu achosion Saron, Tal-y-sarn, Rhoslan, Pentrefelin a Trefor.

Bu'n meithrin achos yng ngwaelodion plwyf Llanwnda a phlwyf Llanfaglan ers blynyddoedd, yn cynnal ysgol Sul a chyfarfodydd efengylu a gweddïo mewn tai. Tua 1812, fe gododd y capel Saron cyntaf. Tra'n barhau i amaethu, daliai ymlaen fel pregethwr cynorthwyol gan agnolbwyntio ar Saron. Parhaodd i ffermio Brynbeddau hyd nes iddo fod bron yn 60 oed, a'r pryd hynny fe'i "hurddwyd" gan Eglwys Saron - sef yw, fe'i hordeiniwyd ef yn swyddogol yn weinidog rhag i'r aelodau orfod teithio i Gaernarfon i dderbyn y cymun. Wedyn ni fu mor barod i deithio ac efengylu. Rhoddodd y gorau i ffermio, gan symud i dŷ wrth y capel a oedd wedi'i godi ar gyfer gweinidog . Fodd bynnag, yn ôl ei gofiannydd Owen Jones,"bernir gan lawer oedd mewn cyfle i farnu fod ynddo fwy o gymhwyster at Efengylu na bugeilio. Yr oedd yn well at blannu na dyfrhau." Dywedwyd amdano, er nad oedd yn huawdl nac yn ddifyr i wrando arno, fod ei bregethu'n ddifrifol ond yn "felus" yng nghlustiau'r ffyddloniaid, fel bod croeso iddo yn y capeli bob amser.

Yn y man, cododd anghydfod rhyngddo ac aelodau Capel Saron, yn bennaf gan y tybient ei fod yn tueddu at "henaduriaeth", sef cadw'r prif ddyletswyddau a phenderfyniadau ymysg swyddogion yr achos yn hytrach na chaniatáu i'r holl aelodau fod â llais llawn yn rhediad yr achos. Fe symudodd ei aelodaeth at gapel Annibynwyr y Bontnewydd lle bu'n aelod hyd ei farw ar 5 Mawrth 1846, ac yntau'n 79 oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanwnda a chodwyd carreg ar ei fedd gan Ysgolion Sabothol Dosbarth Bethel. Dywedir iddo gofnodi llawer am ei weithgareddau cynnar fel pregethwr ac am achos Saron, ond mae'r papurau i gyd wedi mynd i ddifancoll oherwydd iddo eu rhoi dan ofal ryw Mr Jones o Dreffynnon a farwodd cyn gwneud dim efo nhw.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Ysgrif gofiannol gan Owen Jones, Gallt-y-foel, wedi'i hargraffu yn T.Rees a J. Thomas, ‘’Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru’’ (Lerpwl, 1873), tt.247-8