Mynachdy Gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:
[[Delwedd:Monachdy Gwyn o'r allt.jpg|bawd|300px|de|Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir]]
[[Delwedd:Monachdy Gwyn o'r allt.jpg|bawd|300px|de|Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir]]


Mae '''Mynachdy Gwyn''', hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]], nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau [[Bwlch Mawr]]  ger fferm [[Cwm]]. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan ddisgybl i [[Sant Beuno]] o’r enw [[Gwyddaint]]. Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, sydd mewn pant cyfforddus wedi ei warchod gan y [[Bwlch Mawr]] a Phen y Gaer, gyda’r [[Afon Wen]] yn treiglo heibio a sylfaen o garreg oddi tani.
Saif '''Mynachdy Gwyn''', hen gartref teulu'r Meredyddiaid yn y 16-18g, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]nid nepell o'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau [[Bwlch Mawr]]  ger fferm [[Cwm]]. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan [[Gwyddaint]], disgybl (yr honnir) i [[Sant Beuno]] . Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, mewn pant cysgodol wedi ei warchod gan y [[Bwlch Mawr]] a [[Pen-y-gaer|Phen y Gaer]], gyda’r [[Afon Wen]] yn llifo heibio.


Adnewyddwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwyn.  Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn 979 OC.
Ailsefydlwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwyn.  Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn 979 OC.


Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd erbyn hyn yn berchen ar diroedd trefgordd [[Cwm]] a oedd yn cynnwys Hengwm, Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r Gyfelog.  Fe’i rhoddodd i’r mynaich yn Abaty Aberconwy.   
Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd erbyn hyn yn berchen ar diroedd trefgordd [[Cwm]] a oedd yn cynnwys [[Hengwm]], Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r [[Gyfelog]]Rhoddodd Llywelyn y safle i’r mynaich yn Abaty Aberconwy.   


Ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd yn 1536, rhoddwyd y faenor gan y Goron i Syr John Puleston.  Ar yr un adeg fodd bynnag, roedd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys wedi prynu les ar drefgordd Cwm ac wedi symud yno gyda’i deulu i fyw.  Byddai ei ddisgynyddion ef yn ymgartrefu ym Mynachdy. Yn gynnar yn y 17g, ceir hanes [[Humphrey Meredydd]], sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw ym Mynachdy. Bu ef yn siryf ar y sir yn 1614. Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg All Souls gan ennill gradd BD yn 1591.  Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod o hyd oddi fewn i Eglwys Llanwnda yn Dinas. Mae cofebion i ddau arall o'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]].<ref>CHC, ''op.cit.'', t.40</ref>  
Ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd ym 1536, rhoddodd y Goron y faenor i Syr John Puleston.  Ar yr un adeg fodd bynnag, roedd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys wedi prynu les ar drefgordd Cwm ac wedi symud yno gyda’i deulu i fyw.  Yn y man, ymgartrefodd ei ddisgynyddion ef ym Mynachdy. Yn gynnar yn y 17g, ceir hanes [[Humphrey Meredydd]], sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw ym Mynachdy. Bu ef yn siryf Sir Gaernarfon ym 1614. Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg yr Holl Saint, Rhydychen, gan ennill gradd BD ym 1591.  Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod oddi fewn i Eglwys Llanwnda o hyd. Mae cofebion i ddau arall o'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]].<ref>CHC, ''op.cit.'', t.40</ref>  


Roedd y teulu'n dirfeddianwyr o sylwedd, ond heb fod ymysg y rhai mwyaf sylweddol. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o un o deuluoedd mwyaf y fro, sef [[Teulu Glyn (Glynllifon)]], [[Pennarth]] a Madryn, efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.  
Roedd y teulu'n berchnogion tiroedd eithaf sylweddol, ond prin yr ystyriwyd y teulu ymysg y rheng uchaf yn y sir. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o teuluoedd mwyaf y fro, sef [[Teulu Glyn (Glynllifon)]], [[Pennarth]] a Madryn, priodasau a drefnwyd efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.  


Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol, ac yn dyddio'n ôl i'r 16g.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf. 2, t. 45</ref>  
Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol sydd yn dyddio'n ôl i'r 16g.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf. 2, t. 45</ref>  


Dros amser, daeth ffermio yn rhan sylfaenol o fodolaeth ym Mynachdy ac ystad Aberdeunant a oedd yn berchen arno olaf. Dywedir ar lafar fod cyfamod na ddylid aredig un cae arbennig ac ni wnaed hyn ers i Sarach Davies symud yno ym 1935.<ref>Mae llawer o'r erthygl hon wedi ei gymryd o nodiadau a wnaed gan Sarach Davies ar gyfer arddangosfa yng [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai|Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai]].</ref>
Dros gyfnod o amser, disgynnodd pwysigrwydd Mynachdy Gwyn fel nad oedd yn fwy na fferm ar ystad Aberdeunant,Beddgelert. Dywedir ar lafar fod cyfamod na ddylid aredig un cae arbennig ac ni wnaed hyn ers i Sarach Davies symud yno ym 1935.<ref>Mae llawer o'r erthygl hon wedi ei gymryd o nodiadau a wnaed gan Sarach Davies ar gyfer arddangosfa yng [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai|Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai]].</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 16:27, 7 Ionawr 2022

Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir

Saif Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu'r Meredyddiaid yn y 16-18g, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawrnid nepell o'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Cwm. Dywedir bod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd mynachlog yno gan Gwyddaint, disgybl (yr honnir) i Sant Beuno . Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, mewn pant cysgodol wedi ei warchod gan y Bwlch Mawr a Phen y Gaer, gyda’r Afon Wen yn llifo heibio.

Ailsefydlwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwyn. Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng Nghlynnog yn 979 OC.

Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd erbyn hyn yn berchen ar diroedd trefgordd Cwm a oedd yn cynnwys Hengwm, Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r Gyfelog. Rhoddodd Llywelyn y safle i’r mynaich yn Abaty Aberconwy.

Ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd ym 1536, rhoddodd y Goron y faenor i Syr John Puleston. Ar yr un adeg fodd bynnag, roedd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys wedi prynu les ar drefgordd Cwm ac wedi symud yno gyda’i deulu i fyw. Yn y man, ymgartrefodd ei ddisgynyddion ef ym Mynachdy. Yn gynnar yn y 17g, ceir hanes Humphrey Meredydd, sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw ym Mynachdy. Bu ef yn siryf Sir Gaernarfon ym 1614. Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg yr Holl Saint, Rhydychen, gan ennill gradd BD ym 1591. Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod oddi fewn i Eglwys Llanwnda o hyd. Mae cofebion i ddau arall o'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[1]

Roedd y teulu'n berchnogion tiroedd eithaf sylweddol, ond prin yr ystyriwyd y teulu ymysg y rheng uchaf yn y sir. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o teuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glyn (Glynllifon), Pennarth a Madryn, priodasau a drefnwyd efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol sydd yn dyddio'n ôl i'r 16g.[2]

Dros gyfnod o amser, disgynnodd pwysigrwydd Mynachdy Gwyn fel nad oedd yn fwy na fferm ar ystad Aberdeunant,Beddgelert. Dywedir ar lafar fod cyfamod na ddylid aredig un cae arbennig ac ni wnaed hyn ers i Sarach Davies symud yno ym 1935.[3]

Cyfeiriadau

  1. CHC, op.cit., t.40
  2. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. 2, t. 45
  3. Mae llawer o'r erthygl hon wedi ei gymryd o nodiadau a wnaed gan Sarach Davies ar gyfer arddangosfa yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai.