Cromlech Pennarth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae cromlech Pennarth yn heneb gyn hanesyddol yn [[Aberdesach]] ger Clynnog yng Nghwmwd [[Uwchgwyrfai]]. Credir | Mae '''cromlech Pennarth''' yn heneb gyn hanesyddol yn [[Aberdesach]] ger [[Clynnog Fawr]] yng Nghwmwd [[Uwchgwyrfai]]. Credir ei bod yn dyddio o Oes y Cerrig (Neolithig), neu'r Oes Efydd. Nid yw mewn cyflwr cystal o bell fordd â chromlech Bachwen ar gyrion Clynnog gan fod capfaen cromlech Pennarth wedi syrthio i ganol y meini ar eu cyllyll a oedd yn ei gynnal. Hefyd mae rheiliau haearn wedi eu gosod o amgylch [[Cromlech Bachwen]] i'w gwarchod tra nad oes rhai o amgylch cromlech Pennarth. Y cyfeirnod grid yw SH42995107 ac mae i'w gweld yn glir o'r ffordd fechan sy'n mynd heibio iddi. | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:47, 26 Mawrth 2022
Mae cromlech Pennarth yn heneb gyn hanesyddol yn Aberdesach ger Clynnog Fawr yng Nghwmwd Uwchgwyrfai. Credir ei bod yn dyddio o Oes y Cerrig (Neolithig), neu'r Oes Efydd. Nid yw mewn cyflwr cystal o bell fordd â chromlech Bachwen ar gyrion Clynnog gan fod capfaen cromlech Pennarth wedi syrthio i ganol y meini ar eu cyllyll a oedd yn ei gynnal. Hefyd mae rheiliau haearn wedi eu gosod o amgylch Cromlech Bachwen i'w gwarchod tra nad oes rhai o amgylch cromlech Pennarth. Y cyfeirnod grid yw SH42995107 ac mae i'w gweld yn glir o'r ffordd fechan sy'n mynd heibio iddi.