Tudur Goch ap Grono: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 3: Llinell 3:
Roedd o'n ddisgynydd i [[Cilmin Droed-ddu|Gilmin Droed-ddu]], trwy [[Ystrwyth ab Ednywain]]. Ym 1352,<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.262.</ref> fe briododd â'i chweched chyfnither, Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy [[Morgeneu Ynad]]; daeth honno â thiroedd Glynllifon iddo. Roedd yn dad i [[Hwlcyn Llwyd]], y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng [[Glynllifon|Nglynllifon]]. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu [[Cwellyn]] a William.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 172</ref>

Cafodd Tudur Goch ei eni tua 1310-20, a dywedir iddo arwain mintai gref, meddir, o 12000 o Gymry i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson dan y Brenin Iorwerth III ym mrwydr Crécy (1346) - er i haneswyr modern amcangyfrif mai tua 10-11000 oedd cyfanswm byddin Lloegr yno<ref>Wikipedia[https://en.wikipedia.org/wiki/Battle_of_Cr%C3%A9cy], adalwyd 19.07.2018</ref>; bu hefyd efo'r Tywysog Du ym 1356 mewn ymgyrch ym Mhoitiers, Ffrainc. Oherwydd ei deyrngarwch fe gafodd chwe chyfer o dir ym Maladeulyn, [[Nantlle]], tir a gipiwyd oddi ar Tudur ap Einion gan Iorwerth I yn ystod rhyfeloedd 1282-4. <ref>W. Gilbert Williams, ''Glyniaid Glynllifon'' (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33</ref> ac fe gododd hwnnw gartref iddo fo ei hun, sef Plas Nantlle.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.26</ref>
Cafodd Tudur Goch ei eni tua 1310-20, a dywedir iddo arwain mintai gref, meddir, o 12000 o Gymry i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson dan y Brenin Iorwerth III ym mrwydr Crécy (1346) - er i haneswyr modern amcangyfrif mai tua 10-11000 oedd cyfanswm byddin Lloegr yno<ref>Wikipedia[https://en.wikipedia.org/wiki/Battle_of_Cr%C3%A9cy], adalwyd 19.07.2018</ref>; bu hefyd efo'r Tywysog Du ym 1356 mewn ymgyrch ym Mhoitiers, Ffrainc. Oherwydd ei deyrngarwch fe gafodd chwe "carucate" neu efallai 720 erw o dir ym [[Llys Baladeulyn|Maladeulyn]], [[Nantlle]], tir a gipiwyd oddi ar Tudur ap Einion gan Iorwerth I yn ystod rhyfeloedd 1282-4. <ref>W. Gilbert Williams, ''Glyniaid Glynllifon'' (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33</ref> ac fe gododd hwnnw gartref iddo fo ei hun, sef Plas Nantlle.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.26</ref>

[[Delwedd:Brwydr Crécy.jpg|bawd|300px|de|Brwydr Crécy. Y Cymry yw'r milwyr gyda bwâu saethu hir ar y dde]]
[[Delwedd:Brwydr Crécy.jpg|bawd|300px|de|Brwydr Crécy. Y Cymry yw'r milwyr gyda bwâu saethu hir ar y dde]]
Credir iddo godi plasty ar y tir hwn a ddaeth yn gartref cangen Nantlle o deulu Glynniaid ymhen canrifoedd.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.172.</ref> Mae'r tŷ presennol ar y safle, Tŷ Mawr, Nantlle, yn olynydd i dŷ Tudur Goch, a godwyd tua 1545.<ref>Gwefan Discovering Old Welsh Houses [http://discoveringoldwelshhouses.co.uk/library/Hhistory/cae%20014_HH_17_Ty-Mawr-Nanttle.pdf], adalwyd 19.07.2018</ref>

{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:41, 7 Ionawr 2021

Roedd Tudur Goch ap Grono (neu Goronwy) yn un o briodorion (deiliaid tir) Gwely Wyrion Ystrwyth yn nhrefgordd Dinlle, gan ei fod wedi ei enwi felly mewn stent (arolwg) o Uwchgwyrfai dyddiedig 13 Gorffennaf 1352.[1]

Roedd o'n ddisgynydd i Gilmin Droed-ddu, trwy Ystrwyth ab Ednywain. Ym 1352,[2] fe briododd â'i chweched chyfnither, Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy Morgeneu Ynad; daeth honno â thiroedd Glynllifon iddo. Roedd yn dad i Hwlcyn Llwyd, y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng Nglynllifon. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu Cwellyn a William.[3]

Cafodd Tudur Goch ei eni tua 1310-20, a dywedir iddo arwain mintai gref, meddir, o 12000 o Gymry i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson dan y Brenin Iorwerth III ym mrwydr Crécy (1346) - er i haneswyr modern amcangyfrif mai tua 10-11000 oedd cyfanswm byddin Lloegr yno[4]; bu hefyd efo'r Tywysog Du ym 1356 mewn ymgyrch ym Mhoitiers, Ffrainc. Oherwydd ei deyrngarwch fe gafodd chwe "carucate" neu efallai 720 erw o dir ym Maladeulyn, Nantlle, tir a gipiwyd oddi ar Tudur ap Einion gan Iorwerth I yn ystod rhyfeloedd 1282-4. [5] ac fe gododd hwnnw gartref iddo fo ei hun, sef Plas Nantlle.[6]

Brwydr Crécy. Y Cymry yw'r milwyr gyda bwâu saethu hir ar y dde

Credir iddo godi plasty ar y tir hwn a ddaeth yn gartref cangen Nantlle o deulu Glynniaid ymhen canrifoedd.[7] Mae'r tŷ presennol ar y safle, Tŷ Mawr, Nantlle, yn olynydd i dŷ Tudur Goch, a godwyd tua 1545.[8]

Cyfeiriadau

  1. W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956), t.248.
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262.
  3. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172
  4. Wikipedia[1], adalwyd 19.07.2018
  5. W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33
  6. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.26
  7. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.172.
  8. Gwefan Discovering Old Welsh Houses [2], adalwyd 19.07.2018