Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 2: Llinell 2:


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==
Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr; y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ger [[Bwlch Siwncwl]]; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi [[Pont-y-gydros]].
Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr; y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ger Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi [[Pont-y-gydros]].


Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal [[Cwm Coryn]] ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger [[Elernion]], ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.
Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal [[Cwm Coryn]] ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger [[Elernion]], ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.
Llinell 9: Llinell 9:


==Yr eglwys a'i sant==
==Yr eglwys a'i sant==
Eglwys hynafol y plwyf yw [[Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn|Eglwys Sant Aelhaearn]] a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei hehangu a'i hail-doi mor ddiweddar â 1892.
Eglwys hynafol y plwyf yw [[Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn|Eglwys Sant Aelhaearn]], sant a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei ehangu a'i ail-doi mor ddiweddar â 1892.


Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd [[Aelhaearn Sant|Sant Aelhaearn]], a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.
Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd [[Aelhaearn Sant|Sant Aelhaearn]], a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.


==Tai pwysig ac enwogion==
==Tai pwysig ac enwogion==
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. [[Elernion]], plasty a fu yn eiddo i aelodau o deulu [[Glynllifon]] ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. [[Elernion]], plasty a fu'n eiddo i aelodau o deulu [[Glynllifon]] ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.


Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:
Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:
* [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] pregethwr ac arlunydd.
* [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] pregethwr ac arlunydd.
* [[Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)]] (1852-1943, awdures ac ymgyrchydd dros hawliau merched.  
* [[Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)]] (1852-1943), awdures, ymgyrchydd dros hawliau merched ac un o brif hyrwyddwyr y mudiad dirwest.  
* Syr [[David Hughes Parry]] (1893–1973), bargyfriethiwr, Athro'r Gyfraith ac Is-ganghellor Prifysgol  
* Syr [[David Hughes Parry]] (1893–1973), bargyfreithiwr, Athro'r Gyfraith ac Is-ganghellor Prifysgol  
Llundain.
Llundain.
* [[R. L. Gapper|Robert Lambert Gapper]] cerflunydd
* [[Alun Jones]], llenor.
* [[Alun Jones]], llenor.
* [[Geraint Jones]], llenor, ymgyrchydd, a bandfeistr.
* [[Geraint Jones]], llenor, ymgyrchydd, a bandfeistr.
Llinell 26: Llinell 27:


==Y pentref==
==Y pentref==
Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Yr Eifl a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Erbyn hyn dim ond modurdy a'r ysgol sydd yn agored. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf.
Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Y Rivals Inn (neu'r "Ring" i bobl leol) a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Hefyd, ysywaeth, caeodd ysgol y pentref yn 2020. (Bu bron i'r ysgol hon â chael ei chau nôl yn y 1970au heblaw am ddycnwch y pentrefwyr a fynnodd iddi gael ei harbed. Fodd bynnag, erbyn 2020, a nifer y disgyblion wedi gostwng ymhellach, caewyd ei drysau'n derfynol.) Erbyn hyn dim ond modurdy sy'n agored yn Llanaelhaearn. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf.


==Nodweddion eraill y plwyf==
==Nodweddion eraill y plwyf==
Llinell 32: Llinell 33:


==Hanes diweddar==
==Hanes diweddar==
Yma ceir adeilad [[Antur Aelhaearn]],a sefydlwyd i ddod agwaith i'r ardal.  
Yma ceir adeilad [[Antur Aelhaearn]],a sefydlwyd i ddod a gwaith i'r ardal.  


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:50, 27 Mawrth 2022

Llanaelhaearn yw'r plwyf mwyaf deheuol yn Uwchgwyrfai. Mae'n cynnwys dau bentref, sef Llanaelhaearn a Threfor, ac mae Trefor ei hun yn greadigaeth y 19g pan dyfodd y chwarel yno. Ffermydd gwasgaredig ac ambell i dŷ moel yw gweddill anheddau'r plwyf.

Ffiniau a thirwedd

Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf Clynnog Fawr i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr; y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ger Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi Pont-y-gydros.

Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal Cwm Coryn ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger Elernion, ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.

Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant

Eglwys hynafol y plwyf yw Eglwys Sant Aelhaearn, sant a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei ehangu a'i ail-doi mor ddiweddar â 1892.

Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd Sant Aelhaearn, a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Elernion, plasty a fu'n eiddo i aelodau o deulu Glynllifon ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.

Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:

Llundain.

Y pentref

Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Y Rivals Inn (neu'r "Ring" i bobl leol) a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Hefyd, ysywaeth, caeodd ysgol y pentref yn 2020. (Bu bron i'r ysgol hon â chael ei chau nôl yn y 1970au heblaw am ddycnwch y pentrefwyr a fynnodd iddi gael ei harbed. Fodd bynnag, erbyn 2020, a nifer y disgyblion wedi gostwng ymhellach, caewyd ei drysau'n derfynol.) Erbyn hyn dim ond modurdy sy'n agored yn Llanaelhaearn. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf.

Nodweddion eraill y plwyf

Heb os, bryngaer sylweddol ac arwyddocaol Tre'r Ceiri yw prif nodwedd y plwyf.

Hanes diweddar

Yma ceir adeilad Antur Aelhaearn,a sefydlwyd i ddod a gwaith i'r ardal.

Cyfeiriadau

Wicipedia: erthygl ar bentref Trefor. Cyrchwyd 05.01.2018