Ysgol Gynradd Bro Llifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Agorwyd '''Ysgol Bro Lleu''' yn Y Groeslon] yn 2015, gan uno Ysgol Gynradd y Groeslon, Ysgol Gynradd Carmel ac Ysgol Gynradd Bron-y-foel y...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Ysgol Bro Llifon''' yn 2016 ym mhentref [[Y Groeslon]] i gymryd lle [[Ysgol Carmel]], [[Ysgol Bron-y-foel]] yn Y Fron, ac [[Ysgol Y Groeslon]]. Roedd adeilad (cymharol ddiweddar) Ysgol Y Groeslon wedi cyrraedd diwedd ei oes ac roedd rheidrwydd ar [[Cyngor Gwynedd|Gyngor Gwynedd]] i godi ysgol newydd ond, oherwydd polisïau Cynulliad Cymru ar y pryd, nid oedd arian ar gael oni bai bod y Cyngor yn crynhoi darpariaeth addysg yn y fro, ac yn cau ysgolion bach lle roedd gormod o leoedd gweigion. | |||
Yn naturiol, nid oedd hyn yn dderbyniol gan drigolion [[Carmel]] a'r [[Fron]] a chafwyd llawer o wrthwynebiad. Fodd bynnag, caewyd y ddwy ysgol leiaf yn llwyr - ac Ysgol Y Groeslon hefyd mewn enw - gan ddarparu adeilad sylweddol modern gyda'r adnoddau gorau ar safle'r hen ysgol. Eironig braidd oedd y ffaith y bu'n bosib ymgorffori'r adeilad hynaf ar y safle, sef [[Ysgol Babanod Y Groeslon|hen ysgol fach y babanod]], fel rhan o'r adeilad newydd. Serch yr adeilad newydd, bu cryn anniddigrwydd ym mhentrefi [[Carmel]] a'r [[Y Fron|Fron]] ac anfonwyd nifer o blant y pentrefi hynny i ysgolion eraill yn yr ardal. | |||
Penodwyd Swyn Maelor fel pennaeth cyntaf yr ysgol newydd, a godwyd ar safle hen Ysgol y Groeslon. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Ysgolion]] | [[Categori:Ysgolion]] | ||
[[Categori:Addysg]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:46, 7 Tachwedd 2022
Sefydlwyd Ysgol Bro Llifon yn 2016 ym mhentref Y Groeslon i gymryd lle Ysgol Carmel, Ysgol Bron-y-foel yn Y Fron, ac Ysgol Y Groeslon. Roedd adeilad (cymharol ddiweddar) Ysgol Y Groeslon wedi cyrraedd diwedd ei oes ac roedd rheidrwydd ar Gyngor Gwynedd i godi ysgol newydd ond, oherwydd polisïau Cynulliad Cymru ar y pryd, nid oedd arian ar gael oni bai bod y Cyngor yn crynhoi darpariaeth addysg yn y fro, ac yn cau ysgolion bach lle roedd gormod o leoedd gweigion.
Yn naturiol, nid oedd hyn yn dderbyniol gan drigolion Carmel a'r Fron a chafwyd llawer o wrthwynebiad. Fodd bynnag, caewyd y ddwy ysgol leiaf yn llwyr - ac Ysgol Y Groeslon hefyd mewn enw - gan ddarparu adeilad sylweddol modern gyda'r adnoddau gorau ar safle'r hen ysgol. Eironig braidd oedd y ffaith y bu'n bosib ymgorffori'r adeilad hynaf ar y safle, sef hen ysgol fach y babanod, fel rhan o'r adeilad newydd. Serch yr adeilad newydd, bu cryn anniddigrwydd ym mhentrefi Carmel a'r Fron ac anfonwyd nifer o blant y pentrefi hynny i ysgolion eraill yn yr ardal.
Penodwyd Swyn Maelor fel pennaeth cyntaf yr ysgol newydd, a godwyd ar safle hen Ysgol y Groeslon.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma