Ysgol Babanod Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Agorwyd Ysgol Babanod Y Groeslon ym 1926 mewn adeilad newydd ym mhentref Y Groeslon er mwyn darparu addysg ar gyfer dosbarthiadau Safon 1 a 2 a oedd gynt yn Ysgol Penfforddelen. Roedd adeilad yr ysgol honno'n gynyddol anaddas a gorlawn, a phenderfynodd Rheolwyr yr Ysgol greu ysgol i'r babanod yn Y Groeslon, ac un arall yng Ngharmel. Roedd rhieni'r Groeslon wedi mynegi eu bwriad i beidio ag anfon eu plant i adeilad Penfforddelen hyd nes gwnaed gwelliannau i'r cyflenwad dŵr a'r toiledau. Symudodd Miss S.A. Gray, yr athrawes ar fabanod Penfforddelen, i'r ysgol newydd fel pennaeth. Roedd hi wedi bod ym Mhenfforddelen er 1895 - merch yn wreiddiol o Lanelli ydoedd.

Un o'r plant cyntaf i gychwyn yn yr ysgol newydd oedd Mr Leslie Williams, a fu, wedi iddo dyfu i fyny, yn bostfeistr y pentref am flynyddoedd lawer. Mae ganddo atgof o ba mor lân oedd yr adeilad newydd, ac o'r gwersi byd natur yng nghae'r ysgol.

Ymddeolodd Miss Gray ym 1934, ac fe'i holynwyd gan Miss Margaret Thomas, Penbryn Ffatri, Pen-y-groes, a ymunodd â'r athrawes arall, Miss Jennie Powell Parry, i ddarparu addysg i'r babanod. Roedd Miss Parry'n credu'n gryf mewn dysgu elfennau cerddoriaeth, gan drefnu cyngherddau Gŵyl Dewi a dramâu bach ar gyfer y rhieni. Roedd Miss Thomas, fel Miss Gray o'i blaen, yn credu mewn addysg byd natur, ac aeth ati'n syth i greu gardd y gallai'r plant ei thrin o flaen yr ysgol. Ym 1938 cafodd yr ysgol ei harolygu, a'r arolygwyr yn dod i'r casgliad fod yr athrawon yn ddwy dda iawn, yr adeilad yn olau a hwylus a'r plant yn rhai siriol!

Yn ôl yr hanes, cafwyd cyfnod pur anodd ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd gyda nifer o "faciwîs" a'u hathrawon yn cyrraedd o Lerpwl, a bu'n anodd cael lle iddynt. Nid oedd eu glanweithdra'n amlwg ac yr oedd rhai'n sâl - heb sôn am y problemau a ddeuai o gymysgu dwy iaith.

Trefnwyd cinio ysgol am y tro cyntaf ym 1943, a phenodwyd cogyddes a chynorthwywraig - Mrs Katie Williams, Grugan Ganol a Miss Gwen Williams, Tal-y-llyn Bach.

Ymddeolodd Miss Thomas ym 1957 a daeth Miss Jennie Price, Pant-glas, yn ei lle, hyd nes i'r ysgol babanod gau fel sefydliad ar wahân ym 1962. Y flwyddyn honno, caewyd Ysgol Penfforddelen hefyd, symudodd y plant hŷn naill ai i Ysgol y Groeslon, sef Ysgol Bro Llifon fel yr adwaenir hi bellach, neu i Ysgol Carmel - yr oedd plant hŷn, dros 11 oed, eisoes wedi symud i Ysgol Dyffryn Nantlle ym 1952. Yn achos Y Groeslon, cadwyd hen adeilad y babanod, gan ychwanegu ato neuadd a ystafelloedd dosbarth newydd. Eironi'r sefyllfa yw hyn: erbyn ail ddegawd yr 21g., roedd toeau fflat a waliau pren yr estyniadau newydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes ac yr oedd angen dybryd am adeilad newydd ar gyfer yr ysgol. Serch hynny, roedd adeilad yr hen ysgol fabanod yn dal yn ddigon cadarn i'w ymgorffori yn yr ysgol newydd fodern a godwyd.[1]

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr erthygl ar Hanes y Groeslon (Caernarfon, 2000), tt.76-85