Maestryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Maestryfan''' yn bentrefan ym mhlwyf a chymuned [[Llandwrog]], lle bu ffatri ŵlan ar un adeg, sef [[Ffatri Tryfan]]. Mae [[Afon Llifon]] yn rhedeg trwy'r dreflan mewn ceunant sy'n dyfnhau i gyfeiriad y môr. Prin bod hanner dwsin o dai yma nes i'r cyngor dosbarth lleol, [[Cyngor Dosbarth Gwyrfai]], godi cilfach o dai cyngor yng nghanol ffermydd ar gyfer gweision fferm yr ardal, a hynny yn y 1930au. Ni arddelid yr enw ''Maestryfan'' ar fapiau Ordnans mor ddiweddar â 1949. Y mae un ffordd o Faestryfan yn arwain at y lôn bost ger [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Capel Bryn'rodyn]], un arall i gyfeiriad [[Penfforddelen]], a'r llall i gyfeiriad [[Rhos-isaf]]. Roedd nifer o lwybrau hefyd yn cwrdd ar gyffordd y ffyrdd hyn, ac mae'n amlwg bod yr holl ffyrdd a llwybrau hyn yn dangos bod Maestryfan yn gyrchfan oherwydd y felin oedd yma gynt.
Mae '''Maestryfan''' yn bentrefan ym mhlwyf a chymuned [[Llandwrog]], lle bu ffatri ŵlan ar un adeg, sef [[Ffatri Tryfan]]. Mae [[Afon Llifon]] yn rhedeg trwy'r dreflan mewn ceunant sy'n dyfnhau i gyfeiriad y môr. Prin bod hanner dwsin o dai yma nes i'r cyngor dosbarth lleol, [[Cyngor Dosbarth Gwledig Gwyrfai]], godi cilfach o dai cyngor yng nghanol ffermydd ar gyfer gweision fferm yr ardal, a hynny yn y 1930au. Ni arddelid yr enw ''Maestryfan'' ar fapiau Ordnans mor ddiweddar â 1949. Daeth yr enw a roddwyd ar yr ystad fechan o dai cyngor, gan gyfeirio at hen enw ar y rhan hon o blwyf Llandwrog, sef [[Tryfan]]. Mae [[Plas Tryfan]] a Thryfan Uchaf nid nepell o'r fan hon ar draws y caeau.
 
Y mae un ffordd o Faestryfan yn arwain at y lôn bost ger [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Capel Bryn'rodyn]], un arall i gyfeiriad [[Penfforddelen]], a'r llall i gyfeiriad [[Rhos-isaf]]. Roedd nifer o lwybrau hefyd yn cwrdd ar gyffordd y ffyrdd hyn, ac mae'n amlwg bod yr holl ffyrdd a llwybrau hyn yn dangos bod Maestryfan yn gyrchfan oherwydd y felin oedd yma gynt.


{{eginyn}}
{{eginyn}}


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:02, 24 Mawrth 2020

Mae Maestryfan yn bentrefan ym mhlwyf a chymuned Llandwrog, lle bu ffatri ŵlan ar un adeg, sef Ffatri Tryfan. Mae Afon Llifon yn rhedeg trwy'r dreflan mewn ceunant sy'n dyfnhau i gyfeiriad y môr. Prin bod hanner dwsin o dai yma nes i'r cyngor dosbarth lleol, Cyngor Dosbarth Gwledig Gwyrfai, godi cilfach o dai cyngor yng nghanol ffermydd ar gyfer gweision fferm yr ardal, a hynny yn y 1930au. Ni arddelid yr enw Maestryfan ar fapiau Ordnans mor ddiweddar â 1949. Daeth yr enw a roddwyd ar yr ystad fechan o dai cyngor, gan gyfeirio at hen enw ar y rhan hon o blwyf Llandwrog, sef Tryfan. Mae Plas Tryfan a Thryfan Uchaf nid nepell o'r fan hon ar draws y caeau.

Y mae un ffordd o Faestryfan yn arwain at y lôn bost ger Capel Bryn'rodyn, un arall i gyfeiriad Penfforddelen, a'r llall i gyfeiriad Rhos-isaf. Roedd nifer o lwybrau hefyd yn cwrdd ar gyffordd y ffyrdd hyn, ac mae'n amlwg bod yr holl ffyrdd a llwybrau hyn yn dangos bod Maestryfan yn gyrchfan oherwydd y felin oedd yma gynt.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma