Capel Garmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Saif murddyn a elwir yn [[Capel Garmon|Gapel Garmon]] tua chanllath o [[Ffynnon Garmon]] ar lethrau dwyreiniol [[Moel Smytho]]. Er i'r llecyn fod bellach ym mhlwyf [[Betws Garmon]], arferai fod ym mhlwyf [[Llanwnda]], ac eglwys Betws Garmon yn weddol agos yr ochr arall i ffin [[Uwchgwyfai]]. Dichon bod hyn yn awgrymu i'r cysylltiad ag enw [[Sant Garmon]] fynd yn ôl i gyfnod cyn sefydlogi ffiniau'r plwyfi, a ddigwyddodd, medd rhai, yn ystod y 13g.
Saif murddun a elwir yn [[Capel Garmon|Gapel Garmon]] tua chanllath i'r gorllewin o [[Ffynnon Garmon]] ar lethrau dwyreiniol [[Moel Smytho]]. Er i'r llecyn fod bellach ym mhlwyf [[Betws Garmon]], arferai fod ym mhlwyf [[Llanwnda]], ac eglwys Betws Garmon yn weddol agos yr ochr arall i ffin [[Uwchgwyrfai]]. Dichon bod hyn yn awgrymu i'r cysylltiad ag enw [[Garmon Sant|Sant Garmon]] fynd yn ôl i gyfnod cyn sefydlogi ffiniau'r plwyfi, a ddigwyddodd, medd rhai, yn ystod y 13g.


Er nad oes sicrwydd bod yr adeilad wedi bod â diben crefyddol, mae'r enw traddodiadol a'r agosrwydd at ffynnon rinweddol os nad sanctaidd yn awgrymu defnydd o'r fath.
Er nad oes sicrwydd i'r adeilad fod â diben crefyddol iddo, mae'r enw traddodiadol a'r agosrwydd at ffynnon rinweddol, os nad sanctaidd, yn awgrymu defnydd o'r fath. Un drws yn unig sydd i'r adeilad, a'i hyd yw 23' a'i led 12.5'.<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Betws_Garmon]</ref> Roedd haneswyr eglwysi Eryri, Harold Hughes a H.L. North, yn ystyried yr adeilad yn gapel o ryw fath, a'i ddyddio i ddechrau'r 16g.<ref>Harold Hughes a H.L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, 1984), t.229.</ref> Mae aliniad ac ansawdd da y gwaith adeiladu'n tueddu i gefnogi barn Hughes a North, ond mae Comisiwn Henebion Cymru wedi dewis ei gategoreiddio fel 'adeilad seciwlar'. Nodir yn ei restr o adeiladau ei fod yn gorwedd ar aliniad Gorllewin - Dwyrain, ar blatfform wedi ei lefelu ar ochr y bryn, gyda waliau tua 3 tr. o drwch. Mae'r adeilad yn mesur 23 tr. wrth 12tr. 6 modfedd.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, (Llundain, 1960) t.33.</ref>
 
{eginyn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:43, 4 Ionawr 2022

Saif murddun a elwir yn Gapel Garmon tua chanllath i'r gorllewin o Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Er i'r llecyn fod bellach ym mhlwyf Betws Garmon, arferai fod ym mhlwyf Llanwnda, ac eglwys Betws Garmon yn weddol agos yr ochr arall i ffin Uwchgwyrfai. Dichon bod hyn yn awgrymu i'r cysylltiad ag enw Sant Garmon fynd yn ôl i gyfnod cyn sefydlogi ffiniau'r plwyfi, a ddigwyddodd, medd rhai, yn ystod y 13g.

Er nad oes sicrwydd i'r adeilad fod â diben crefyddol iddo, mae'r enw traddodiadol a'r agosrwydd at ffynnon rinweddol, os nad sanctaidd, yn awgrymu defnydd o'r fath. Un drws yn unig sydd i'r adeilad, a'i hyd yw 23' a'i led 12.5'.[1] Roedd haneswyr eglwysi Eryri, Harold Hughes a H.L. North, yn ystyried yr adeilad yn gapel o ryw fath, a'i ddyddio i ddechrau'r 16g.[2] Mae aliniad ac ansawdd da y gwaith adeiladu'n tueddu i gefnogi barn Hughes a North, ond mae Comisiwn Henebion Cymru wedi dewis ei gategoreiddio fel 'adeilad seciwlar'. Nodir yn ei restr o adeiladau ei fod yn gorwedd ar aliniad Gorllewin - Dwyrain, ar blatfform wedi ei lefelu ar ochr y bryn, gyda waliau tua 3 tr. o drwch. Mae'r adeilad yn mesur 23 tr. wrth 12tr. 6 modfedd.[3]

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia [1]
  2. Harold Hughes a H.L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, 1984), t.229.
  3. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, (Llundain, 1960) t.33.