Chwarel yr Hen Fraich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarel lechi ger y [[Fron]] oedd chwarel yr '''Hen Fraich''' (neu '''Braichrydd''').  
Chwarel lechi ger y [[Fron]] oedd chwarel yr '''Hen Fraich''', '''Chwarel Fraich''' (neu '''Fraichrydd''').  


Mae'r chwarel hon yn cael ei hystyried fel y twll hynaf yn ardal Dyffryn Nantlle. Yn 1868, unwyd hi a chwarel y [[Chwarel y Fron|Fron]], ac roedd yn weithredol hyd at 1951.
Mae'r chwarel hon yn cael ei hystyried fel y twll hynaf yn ardal Dyffryn Nantlle yn ôl rhai.<ref>Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007) </ref>. Roedd gwaith chwarelu ar y safle ym 1787 gan bartneriaeth o bump o ddynion; a thua 1800 mae'n bosibl fod John Griffith, [[Plas Tryfan]] wedi cymryd prydles. Erbyn 1817, roedd yn cael ei gweithio gan Gwmni Cilgwyn.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.221-2</ref> Mae Jean Lindsay, fodd bynnag, yn ei dyddio i 1830. Fe gafodd ei hailagor ym 1860 gan gwmni preifat ac erbyn 1873 roedd 140 o ddynion yn gweithio yno. Chwarel un twll oedd hon, er bod tair lefel iddi. Roedd ganddi dramffordd (sef [[Tramffordd John Robinson]] a gludai llechi Braich ar hyd ochr [[Chwarel Cilgwyn]] tan 1881, pan agorwyd [[Tramffordd y Fron]]).
 
Ym 1882, fe'i hunwyd gyda [[Chwarel y Fron]] i ffurfio'r ''Old Braich Slate Quarries Company Ltd.'', gyda chyfalaf o £15000, ac roedd yn weithredol hyd at 1951 (meddai Dewi Tomos) er mai Jean Lindsay yn dweud 1914.<ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', (Newton Abbot, 1974), t.311.</ref>
 
{{eginyn}}


==Ffynhonnell==
==Ffynhonnell==


Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
{{cyfeiriadau}}
 


[[Categori: Chwareli]]
[[Categori: Chwareli llechi]]
[[Categori: Diwydiant a Masnach]]
[[Categori: Diwydiant a Masnach]]
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:49, 20 Ionawr 2019

Chwarel lechi ger y Fron oedd chwarel yr Hen Fraich, Chwarel Fraich (neu Fraichrydd).

Mae'r chwarel hon yn cael ei hystyried fel y twll hynaf yn ardal Dyffryn Nantlle yn ôl rhai.[1]. Roedd gwaith chwarelu ar y safle ym 1787 gan bartneriaeth o bump o ddynion; a thua 1800 mae'n bosibl fod John Griffith, Plas Tryfan wedi cymryd prydles. Erbyn 1817, roedd yn cael ei gweithio gan Gwmni Cilgwyn.[2] Mae Jean Lindsay, fodd bynnag, yn ei dyddio i 1830. Fe gafodd ei hailagor ym 1860 gan gwmni preifat ac erbyn 1873 roedd 140 o ddynion yn gweithio yno. Chwarel un twll oedd hon, er bod tair lefel iddi. Roedd ganddi dramffordd (sef Tramffordd John Robinson a gludai llechi Braich ar hyd ochr Chwarel Cilgwyn tan 1881, pan agorwyd Tramffordd y Fron).

Ym 1882, fe'i hunwyd gyda Chwarel y Fron i ffurfio'r Old Braich Slate Quarries Company Ltd., gyda chyfalaf o £15000, ac roedd yn weithredol hyd at 1951 (meddai Dewi Tomos) er mai Jean Lindsay yn dweud 1914.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonnell

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.221-2
  3. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t.311.