Llongddrylliadau Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
| Llinell 8: | Llinell 8: | ||
1 Medi 1829: y brig ''Swallow'', ar ei ffordd i Newfoundland o Lerpwl, yn taro'r lan ger [[Dinas Dinlle]] | 1 Medi 1829: y brig ''Swallow'', ar ei ffordd i Newfoundland o Lerpwl, yn taro'r lan ger [[Dinas Dinlle]] | ||
26 Chwefror 1833: y slŵp ''Hopewell'' yn hwylio o Gaernarfon i Borthdinlläen gyda chargo o garreg galch wedi ei golli ar Far Caernarfon, 'r criw o dri wedi boddi er i griw brig arall a oedd wedi angori ger [[Belan]] wedi gweld y cyfan roeddynt yn methu helpu. Roedd llong arall, y ''William and Mary'', yn hwylio gyda'r ''Hopewell'' ar yr un perwyl, ond llwyddodd honno i gliriio'r bar a chael lloches ger traeth [[Llanaelhaearn]] yng nghysgod [[Yr Eifl]].<ref>''The Cambrian'', 2.3.1833, t.3</ref> | |||
11 Mehefin 1833: Storm fawr a gwynt uchel annisgwyl yn ystod y dydd ym Mae Caernarfon. Mae'r papur newydd yn adrodd am lawer o gychod yn mynd i drybini, sydd yn rhoi darlun o'r holl fasnach ar y dŵr a hynny'n lleol. Aeth 11 o gychod masnach bach yn sownd ar draeth [[Llanaelhaearn]], hynny yw y man a elwir yn draeth Trefor heddiw. O leiaf dwy o'r llongau bychain hyn wedi eu malu'n rhacs yno, sef yr ''Elizabeth'', capten John Jones, yn hwylio o Draeth Coch i Abersoch gyda llwyth o garreg galch, a'r ''Indefatigable'' yn hwylio o'r un man i Borthdinlläen, eto efo cargo o garreg galch. Roedd y ''Llansantffraid Trader'' yn cludo cargo o geirch i'r Bermo pan gafodd ei chwythu i'r lan yno ond y gobaith oedd ei chael i arnofio'n ddiogel ac y byddai'n mynd ar ei ffordd. Roedd y ''Providence'' o Aberdyfi, efo llwyth o garreg galch o Draeth Coch, wedi ei chwythu i'r lan ger Tŷ Mawr, [[Clynnog]], ac er ei bod wedi medru hwylio'n ôl i Gaernarfon, roedd prif astell gwaelod y llong wedi ei malurio'n ddrwg. Roedd y papur newydd hefyd yn nodi bod saith llong arall oedd heb eu henwi yn eistedd ar y traeth yn Llanaelhaearn, a bod dau gwch pysgota lleol wedi colli eu rhwydau. Er yr holl ddifrod a thrafferth, ni noidwyd bod unrhyw un o'r morwyr wedi dioddef anaf neu waeth.<ref>''Carnarvon Herald'', 11.6.1833, t.3</ref> | |||
18 Mehefin 1840: y barc ''Jane'' o Orleans Newydd, yn cario bwndeli o gotwm i Lerpwl yn mynd i lawr ar far Caernarfon. Achubwyd y criw i gyd. | 18 Mehefin 1840: y barc ''Jane'' o Orleans Newydd, yn cario bwndeli o gotwm i Lerpwl yn mynd i lawr ar far Caernarfon. Achubwyd y criw i gyd. | ||
7 Ebrill 1841: y ''Strathmore'', brig 198 tunnell o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, gyda llwyth o siwgr, cotwm a rhosbren yn cael ei dryllio ar greigiau [[Trwyn y tâl]]<ref>'' | 7 Ebrill 1841: y ''Strathmore'', brig 198 tunnell o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, gyda llwyth o siwgr, cotwm a rhosbren yn cael ei dryllio ar greigiau [[Trwyn y tâl]]<ref>''Monmouthshire Merlin'', 17.4.1841, t.2</ref> | ||
11.12.1841: y slŵp ''Luna'', Aberystwyth, yn hwylio o Doolish (''Douglas'' , Ynys Manaw) yn cario 160 baril o benwaig yn mynd ar y lan yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]] ar ol i'r hwyl rwygo. Achubwyd 139 o'r barilau o benwaig yn ogystal â'r criw, ond malwyd y llong.<ref>''The Welshman'', 17.12.1841, t.2</ref>. | |||
Mawrth 1842: [[Brig yr "Heron"]] yn taro'r lan ger [[Clynnog Fawr]]. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio. | Mawrth 1842: [[Brig yr "Heron"]] yn taro'r lan ger [[Clynnog Fawr]]. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio. | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:10, 3 Chwefror 2026
Cymharol ychydig o longddrylliadau a ddigwyddodd ar arfordir Uwchgwyrfai ar lan Bae Caernarfon. Mae'r arfordir ei hun wedi ei gysgodi i ryw raddau bach oddi wrth stormydd o'r cyfeiriad arferol, sef y de-orllewin, gan fynyddoedd Yr Eifl, ac os oedd gwyntoedd cryfion yn gyrru llongau hwylio o'u blaen, tueddai'r llongau hynny i daro'r lan ar arfordir Môn o Landdwyn tua'r Gogledd.
Serch hynny, gwyddom am nifer o gychod a llongau a suddwyd oddi ar arfordir y cwmwd:
1760: dwy long yn suddo ar far Caernarfon, a 14 yn colli eu bywydau.[1]
1795: Cwch pysgota a'i griw i gyd wedi ei golli oddi ar draeth Trefor
1 Medi 1829: y brig Swallow, ar ei ffordd i Newfoundland o Lerpwl, yn taro'r lan ger Dinas Dinlle
26 Chwefror 1833: y slŵp Hopewell yn hwylio o Gaernarfon i Borthdinlläen gyda chargo o garreg galch wedi ei golli ar Far Caernarfon, 'r criw o dri wedi boddi er i griw brig arall a oedd wedi angori ger Belan wedi gweld y cyfan roeddynt yn methu helpu. Roedd llong arall, y William and Mary, yn hwylio gyda'r Hopewell ar yr un perwyl, ond llwyddodd honno i gliriio'r bar a chael lloches ger traeth Llanaelhaearn yng nghysgod Yr Eifl.[2]
11 Mehefin 1833: Storm fawr a gwynt uchel annisgwyl yn ystod y dydd ym Mae Caernarfon. Mae'r papur newydd yn adrodd am lawer o gychod yn mynd i drybini, sydd yn rhoi darlun o'r holl fasnach ar y dŵr a hynny'n lleol. Aeth 11 o gychod masnach bach yn sownd ar draeth Llanaelhaearn, hynny yw y man a elwir yn draeth Trefor heddiw. O leiaf dwy o'r llongau bychain hyn wedi eu malu'n rhacs yno, sef yr Elizabeth, capten John Jones, yn hwylio o Draeth Coch i Abersoch gyda llwyth o garreg galch, a'r Indefatigable yn hwylio o'r un man i Borthdinlläen, eto efo cargo o garreg galch. Roedd y Llansantffraid Trader yn cludo cargo o geirch i'r Bermo pan gafodd ei chwythu i'r lan yno ond y gobaith oedd ei chael i arnofio'n ddiogel ac y byddai'n mynd ar ei ffordd. Roedd y Providence o Aberdyfi, efo llwyth o garreg galch o Draeth Coch, wedi ei chwythu i'r lan ger Tŷ Mawr, Clynnog, ac er ei bod wedi medru hwylio'n ôl i Gaernarfon, roedd prif astell gwaelod y llong wedi ei malurio'n ddrwg. Roedd y papur newydd hefyd yn nodi bod saith llong arall oedd heb eu henwi yn eistedd ar y traeth yn Llanaelhaearn, a bod dau gwch pysgota lleol wedi colli eu rhwydau. Er yr holl ddifrod a thrafferth, ni noidwyd bod unrhyw un o'r morwyr wedi dioddef anaf neu waeth.[3]
18 Mehefin 1840: y barc Jane o Orleans Newydd, yn cario bwndeli o gotwm i Lerpwl yn mynd i lawr ar far Caernarfon. Achubwyd y criw i gyd.
7 Ebrill 1841: y Strathmore, brig 198 tunnell o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, gyda llwyth o siwgr, cotwm a rhosbren yn cael ei dryllio ar greigiau Trwyn y tâl[4]
11.12.1841: y slŵp Luna, Aberystwyth, yn hwylio o Doolish (Douglas , Ynys Manaw) yn cario 160 baril o benwaig yn mynd ar y lan yn Ninas Dinlle ar ol i'r hwyl rwygo. Achubwyd 139 o'r barilau o benwaig yn ogystal â'r criw, ond malwyd y llong.[5].
Mawrth 1842: Brig yr "Heron" yn taro'r lan ger Clynnog Fawr. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.
Ionawr 1843: Stemar y ''Monk'' oedd yn hwylio o Bortinlläen am Lerpwl (gweler isod).
Ionawr 1845: y barc William Turner o Felffast, yn cludo gwano o Dde Amerig i Lerpwl yn cael ei dryllio ar far Caernarfon, a'r criw i gyd yn boddi.
Ionawr 1846: y Scotland, llong o America, dan law 'r Capten Snow, yn hwylio o Lerpwl am Orleans Newydd mewn balast, yn cael ei dryllio ar arfordir y bae ger Clynnog Fawr, ar ôl llusgo ei hangor ger Porthdinlläen.[6]
11 Medi 1847: y sgwner Vine o Nefyn yn suddo ar far Caernarfon, a dim ond un yn cael ei achub.
Ionawr 1863: y llong Pamela Flood o Efrog Newydd yn suddo yng nghanol y bae, 12 milltir o Gaergybi ac yn nes o dipyn i Glynnog. Achubwyd neb oddi ar ei bwrdd heblaw am y capten, John R. Anderson, a lwyddodd i gydio mewn darn mawr o bren o'r llong ac a gafodd ei olchi i'r lan ger Tŷ Mawr, Clynnog Fawr.[7]
Tachwedd 1877: y barc Witness o Sunderland a ddrylliwyd yn Aberdesach gyda chargo o lo a werthwyd wedyn ar y traeth, 6 Rhagfyr.[8] Gwnaed cadair eisteddfodol allan o beth o goed y llong ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Llanllyfni, Ebrill 1878.[9]
12 Rhagfyr 1883: Y Lady Hincks, yn cario coed o America i Lerpwl, eto'n taro creigiau Trwyn y tâl. Achubwyd pawb oddi ar ei bwrdd.[10]
1971: cerbyd amffibaidd (DUKW) Bill Parry y suddo oddi ar Dinas Dinlle wedi taro cefnen o dywod. Cerddodd Mr Parry i'r lan.[11]
Mae David Thomas yn nodi dau beth diddorol: bod llawer o longau wedi eu dryllio ar Far Caernarfon, sef ceg y Fenai, rhwng banc tywod y de a banc tywod y gogledd, cyn cyrraedd Abermenai ei hun. Yn ail, mae'n nodi bod llawer o longau yn ceisio cyrraedd Portinlläen ac yn cysgodi yno gan ei fod yn harbwr diogel pan oedd corwynt o'r gorllewin.[12]
Yn ddi-os, rhestr fer o rai longddrylliau yn unig sydd yma; ni chofnodwyd llawer ohonynt, yn arbennig cyn canol y 18g.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.141
- ↑ The Cambrian, 2.3.1833, t.3
- ↑ Carnarvon Herald, 11.6.1833, t.3
- ↑ Monmouthshire Merlin, 17.4.1841, t.2
- ↑ The Welshman, 17.12.1841, t.2
- ↑ Pembrokeshire Herald, 30.1.1846, t.3
- ↑ Lewis Lloyd,The Port of Caernarfon, 1793-1900 (Caernarfon, 1989), tt.129-141
- ↑ North Wales Chronicle, 8.12.1877, t.4
- ↑ Y Goleuad, 13.4.1878, t.13
- ↑ Henry Parry, Wreck and Rescue on the Coast of Wales, Cyf. I (Truro, 1969), t.63-68.
- ↑ Rhodri Prys Jones, Chwadan Bil Parry, (Caernarfon, 1980).
- ↑ David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.141-3