Llongddrylliadau Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 14: Llinell 14:


Mawrth 1842: [[Brig yr "Heron"]] yn taro'r lan ger [[Clynnog Fawr]]. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.
Mawrth 1842: [[Brig yr "Heron"]] yn taro'r lan ger [[Clynnog Fawr]]. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.
Ionawr 1843: [[Stemar y ''Monk'']] oedd yn hwylio o Bortinlläen am Lerpwl (gweler isod).


Ionawr 1845: y barc ''William Turner'' o Felffast, yn cludo gwano o Dde Amerig i Lerpwl yn cael ei dryllio ar far Caernarfon, a'r criw i gyd yn boddi.
Ionawr 1845: y barc ''William Turner'' o Felffast, yn cludo gwano o Dde Amerig i Lerpwl yn cael ei dryllio ar far Caernarfon, a'r criw i gyd yn boddi.
Llinell 28: Llinell 30:


Mae David Thomas yn nodi dau beth diddorol: bod llawer o longau wedi eu dryllio ar Far Caernarfon, sef ceg y Fenai, rhwng banc tywod y de a banc tywod y gogledd, cyn cyrraedd [[Abermenai]] ei hun. Yn ail, mae'n nodi bod llawer o longau yn ceisio cyrraedd Portinlläen ac yn cysgodi yno gan ei fod yn harbwr diogel pan oedd corwynt o'r gorllewin.<ref>David Thomas, ''Hen Longau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.141-3</ref>
Mae David Thomas yn nodi dau beth diddorol: bod llawer o longau wedi eu dryllio ar Far Caernarfon, sef ceg y Fenai, rhwng banc tywod y de a banc tywod y gogledd, cyn cyrraedd [[Abermenai]] ei hun. Yn ail, mae'n nodi bod llawer o longau yn ceisio cyrraedd Portinlläen ac yn cysgodi yno gan ei fod yn harbwr diogel pan oedd corwynt o'r gorllewin.<ref>David Thomas, ''Hen Longau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.141-3</ref>
Trychineb arall a ddigwyddodd oddi ar arfordir Uwchgwyrfai oedd llongddrylliad y stemar fechan, ''The Monk'', ar 7 Ionawr 1843, a bu [[Eben Fardd]] yn dyst iddo, fel y noda yn ei ddyddiadur am y diwrnod hwnnw. Roedd y llong wedi cychwyn o Bortinllaen tua 3 o'r gloch y p'nawn hwnnw ac yn hwylio am Lerpwl gyda llwyth o foch a chynnyrch fferm o Lŷn - roedd llawer o deithiau o'r fath rhwng Lerpwl a phorthladdoedd bychain Llŷn yn y cyfnod hwnnw nes i oes y trên eu disodli. Yn ogystal â chriw y llong, roedd nifer o bobl leol ar ei bwrdd hefyd gyda'u cynnyrch. Aeth y llong i drafferthion ym Mae Caernarfon mewn gwynt cryf ac nid oedd ei hinjan fechan yn ddigonol i'w chadw ar ei llwybr. Dywed Eben iddi gael ei dryllio ar far gogleddol Caernarfon tua 7.00p.m. a phan aeth ef i'r ffynnon ([[Ffynnon Beuno]] mae'n debyg) i nôl dŵr tuag wyth roedd goleuadau yn ei rigin i'w gweld o hyd. Dywed fod pawb ar ei bwrdd wedi boddi, heblaw am 6 a achubwyd.<ref> ''Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd'', E.G. Millward (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), t.141.</ref> (Ymhlith y rhai a gollwyd, roedd bachgen ifanc 17 oed, Philip Parry o Tan-y-ffynnon, Dinas, a oedd wedi mynd ar y daith i gynorthwyo efo'r moch. Roedd yn frawd i hen, hen daid i awdur y pwt yma.) Yn unol ag arfer y cyfnod cyfansoddwyd mwy nag un faled i gofio llongddrylliad y ''Monk'', ac enwir y rhai a gollwyd ynddynt. Hefyd pan gynhaliwyd ymchwiliad yn ddiweddarach i'r drychineb, nodwyd bod y llong mewn cyflwr cyffredinol wael, ei bod yn gollwng a hefyd ei bod wedi ei gorlwytho fel ei bod yn rhy isel yn y dŵr. 


Yn ddi-os, rhestr fer o rai longddrylliau yn unig sydd yma; ni chofnodwyd llawer ohonynt, yn arbennig cyn canol y 18g.
Yn ddi-os, rhestr fer o rai longddrylliau yn unig sydd yma; ni chofnodwyd llawer ohonynt, yn arbennig cyn canol y 18g.

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:23, 19 Mehefin 2024

Cymharol ychydig o longddrylliadau a ddigwyddodd ar arfordir Uwchgwyrfai ar lan Bae Caernarfon. Mae'r arfordir ei hun wedi ei gysgodi i ryw raddau bach oddi wrth stormydd o'r cyfeiriad arferol, sef y de-orllewin, gan fynyddoedd Yr Eifl, ac os oedd gwyntoedd cryfion yn gyrru llongau hwylio o'u blaen, tueddai'r llongau hynny i daro'r lan ar arfordir Môn o Landdwyn tua'r Gogledd.

Serch hynny, gwyddom am nifer o gychod a llongau a suddwyd oddi ar arfordir y cwmwd:

1760: dwy long yn suddo ar far Caernarfon, a 14 yn colli eu bywydau.[1]

1795: Cwch pysgota a'i griw i gyd wedi ei golli oddi ar draeth Trefor

1 Medi 1829: y brig Swallow, ar ei ffordd i Newfoundland o Lerpwl, yn taro'r lan ger Dinas Dinlle

18 Mehefin 1840: y barc Jane o Orleans Newydd, yn cario bwndeli o gotwm i Lerpwl yn mynd i lawr ar far Caernarfon. Achubwyd y criw i gyd.

Ebrill 1841: y Strathmore, llong o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, yn cael ei dryllio ar greigiau Trwyn y tâl

Mawrth 1842: Brig yr "Heron" yn taro'r lan ger Clynnog Fawr. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.

Ionawr 1843: Stemar y ''Monk'' oedd yn hwylio o Bortinlläen am Lerpwl (gweler isod).

Ionawr 1845: y barc William Turner o Felffast, yn cludo gwano o Dde Amerig i Lerpwl yn cael ei dryllio ar far Caernarfon, a'r criw i gyd yn boddi.

Ionawr 1846: Llong o America, yn hwylio o Lerpwl am Orleans Newydd, yn cael ei dryllio ar arfordir y bae ger Clynnog Fawr

11 Medi 1847: y sgwner Vine o Nefyn yn suddo ar far Caernarfon, a dim ond un yn cael ei achub.

Ionawr 1863: y llong Pamela Flood o Efrog Newydd yn suddo yng nghanol y bae, 12 milltir o Gaergybi ac yn nes o dipyn i Glynnog. Achubwyd neb oddi ar ei bwrdd heblaw am y capten, John R. Anderson, a lwyddodd i gydio mewn darn mawr o bren o'r llong ac a gafodd ei olchi i'r lan ger Tŷ Mawr, Clynnog Fawr.[2]

12 Rhagfyr 1883: Y Lady Hincks, yn cario coed o America i Lerpwl, eto'n taro creigiau Trwyn y tâl. Achubwyd pawb oddi ar ei bwrdd.[3]

1971: cerbyd amffibaidd (DUKW) Bill Parry y suddo oddi ar Dinas Dinlle wedi taro cefnen o dywod. Cerddodd Mr Parry i'r lan.[4]

Mae David Thomas yn nodi dau beth diddorol: bod llawer o longau wedi eu dryllio ar Far Caernarfon, sef ceg y Fenai, rhwng banc tywod y de a banc tywod y gogledd, cyn cyrraedd Abermenai ei hun. Yn ail, mae'n nodi bod llawer o longau yn ceisio cyrraedd Portinlläen ac yn cysgodi yno gan ei fod yn harbwr diogel pan oedd corwynt o'r gorllewin.[5]

Yn ddi-os, rhestr fer o rai longddrylliau yn unig sydd yma; ni chofnodwyd llawer ohonynt, yn arbennig cyn canol y 18g.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.141
  2. Lewis Lloyd,The Port of Caernarfon, 1793-1900 (Caernarfon, 1989), tt.129-141
  3. Henry Parry, Wreck and Rescue on the Coast of Wales, Cyf. I (Truro, 1969), t.63-68.
  4. Rhodri Prys Jones, Chwadan Bil Parry, (Caernarfon, 1980).
  5. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.141-3