Tirfeddianwyr mwyaf Uwchgwyrfai yn yr 17g.: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae rhestr o'r rhai a aseswyd fel y '''prif dirfeddianwyr''' yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]] yn y flwyddyn 1664 ar gael yn yr Archifdy Gwladol.<ref>Archifdy Gwladol, E179/220/161.</ref>
Mae rhestrau o'r rhai a aseswyd fel '''y prif dirfeddianwyr''' a oedd yn gorfod talu trethi (a elwid yn ‘sybsidïau’) i gwrdd ag anghenion cyllidol brenin Lloegr ar gael yn yr Archifdy Gwladol. Yn eu mysg mae rhestrau ar gyfer y blynyddoedd 1641 a 1664, lle cawn weld pwy oedd yn gorfod talu’r cyfryw drethi yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]].


Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu treth a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynnol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth [[Thomas Bulkeley]] lofnodi rhestr Uwchgwyrfai.
==Rhestr 1641==


Prif dirfeddianwyr y cwmwd, mae'n ymddangos o'r rhestr, oedd Thomas Bulkeley, yswain, [[Dinas]] a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am [[Ystad Glynllifon]]. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n anarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.<ref>Mae'r enwau wedi eu copio o waith y diweddar Leonard Owen yn Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgau Bangor 13491. Ychwanegwyd enw ystad neu eiddo ambell un o J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), ''passim''. </ref> Dyma'r enwau darllenadwy:
Gan droi’n gyntaf at restr 1641<ref>Archifdy Gwladol, E179/220/158</ref>, cawn gip ar rai mwyaf cefnog y cwmwd gwta blwyddyn cyn cychwyn cythrwfl mawr Rhyfel y Pleidiau Seisnig (y cyfeirir ato fel y Rhyfel Cartref yn Saesneg). Rhestrwyd pedwar yswain (armiger) ymysg y tri ar hugain o drethdalwyr, ac o leiaf dri ar ddeg o fonheddwyr (generosus), tair gwraig weddw oedd â thir, ac un offeiriad. Dyma’r rhestr yn llawn:
 
[[Thomas Glynn]], yswain, [[Glynllifon]]
Thomas Glynn, yswain, [[Plas Newydd]]
William Glynn, [[Lleuar Fawr|Lleuar]]
Hugh Gwynne, [[Pengwern]]
Henry Humphreys, bonwr, [[Pant Du]]
Richard Glynne, bonwr, [[Bryn Gwydion]]
David Lloyd ap William
Hugh John ap Hugh, bonwr
William Lewis ap William, bonwr
David ap John ap William, [[Bodychen]], bonwr
Edward Lloyd, Cwmgware, bonwr
Owen Meredydd
Griffith ap William, bonwr
Dorothy Griffith, gweddw, [ [[Llethr Ddu]], [[Llanaelhaearn]], o bosibl]
Elizabeth ferch Richard Rowland, gweddw
Morgan Lewis, clerc
Rowland Morgan, bonwr
Owen Griffith, bonwr
Evan Hughes, bonwr
Mary Lloyd, gweddw
John Owen a’i fam, [Tŷ’n-y-coed, Clynnog, o bosibl]
William Glynne, bonwr, [o blwyf Clynnog, o bosibl]
Evan ap John Thomas
 
Disgwylwyd i Thomas Glynn, Glynllifon, dyn cyfoethocaf y cwmwd yng ngolwg yr asesydd, dalu £3 fel ei randaliad cyntaf a phedwar swllt ar hugain fel ail ddaliad (ac roedd disgwyl iddo dalu dau randaliad arall nad ydynt yn cael eu rhestru. Roedd tri yswain arall y cwmwd yn gorfod talu £2 ac un swllt ar bymtheg, a’r bonheddwyr £1 ac wyth swllt fel eu dau rhandaliad cyntaf.
 
Rhaid oedd i Babyddion dalu’r dreth hefyd, os oedd modd ganddynt, ac yr oedd un gŵr yn Uwchgwyrfai, Robert ap Rees Wynne, ynghyd â’i wraig Catherine, yn glynu at y ffydd Babyddol, a rhaid oedd iddynt hwy dalu un geiniog ar bymtheg yr un yn y lle cyntaf, er pe na chydymffurfiant trwy fynychu eglwys y plwyf, ordeiniwyd fod rhaid iddynt dalu dau swllt ac wyth ceiniog y pen fel ail ddaliad. Dyna’r wladwriaeth yn mynnu lladd dau aderyn gydag un ergyd – sef cynyddu’r trethi a gasglwyd a rhoi pwysau ar Babyddion i roi gorau i’w ffydd.
 
==Rhestr 1664==
 
Mae rhestr o'r rhai a aseswyd fel y '''prif dirfeddianwyr''' yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]] yn y flwyddyn 1664 hefyd ar gael yn yr Archifdy Gwladol.<ref>Archifdy Gwladol, E179/220/161.</ref>
 
Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu 'sybsidi' (neu fath o dreth wladol) a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth [[Thomas Bulkeley]] lofnodi rhestr Uwchgwyrfai.
 
Mae'n ymddangos o'r rhestr mai prif dirfeddianwyr y cwmwd oedd Thomas Bulkeley, yswain, [[Dinas]] a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am [[Ystad Glynllifon]] - ei fam yn talu cyfran oherwydd ei bod (fel pob gweddw) yn cael hanner ystad ei gŵr am ei hoes wedi iddo farw. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n annarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.<ref>Mae'r enwau wedi eu copïo o waith y diweddar Leonard Owen yn Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgau Bangor 13491. Ychwanegwyd enw ystad neu eiddo ambell un o J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), ''passim''. </ref> Dyma'r enwau darllenadwy:


  Thomas Glynn, yswain,
  Thomas Glynn, yswain,
Llinell 9: Llinell 45:
  Richard Glynn, yswain, [[Elernion]]
  Richard Glynn, yswain, [[Elernion]]
  Edmund Glynn, [[Bryn Gwydion]]
  Edmund Glynn, [[Bryn Gwydion]]
  William Wynne, Llanfair
  William Wynne, ?[[Pengwern]]
  Richard ?Ellis, bon[heddwr]
  Richard ?Ellis, bon[heddwr]
  [enw annarllenadwy]
  [enw annarllenadwy]
Llinell 15: Llinell 51:
  Jane Glynn, gweddw [[Clynnog Fawr]]
  Jane Glynn, gweddw [[Clynnog Fawr]]
  Hugh Lewis, bon
  Hugh Lewis, bon
  Owen Hughes, bon
  Owen Hughes, bon, o bosibl o [[Bodaden|Fodaden]]
  John Williams, bon
  John Williams, bon
  Jane ...., gweddw ac etifeddes .... ap Richard
  Jane ...., gweddw ac etifeddes .... ap Richard
Llinell 24: Llinell 60:
  Lewis Williams
  Lewis Williams
  [enw annarllenadwy]
  [enw annarllenadwy]
  Robert Griffith
  Robert Griffith, [[Llethr Ddu]], [[Llanaelhaearn]]


Cael eu hasesu am dir yn y cwmwd oedd y rhain, mae'n amlwg, gan fod William Wynne yn eu mysg. Roedd yn sgweier Llanfair Isgaer, yr ochr draw i dref Caernarfon, ond roedd gan Ystad Llanfair Isgaer diroedd ym mhlwyf [[Llandwrog]], yn ardal [[Y Groeslon]] heddiw.
Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hynny gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Nghymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf.


Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hyn gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Ngymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf.
Mae rhestr o'r rhai oedd yn gorfod talu'r [[Treth Aelwyd 1662|Dreth Aelwyd]] ym 1662 yn rhoi cymaint â 370 o enwau, ac ma'n werth cymharu'r enwau sydd yno a faint o aelwydydd oedd anggynt gyda'r rhstrau uchod.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 34: Llinell 70:
[[Categori:Tirfeddianwyr]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]
[[Categori:Ystadau]]
[[Categori:Ystadau]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:20, 25 Mehefin 2024

Mae rhestrau o'r rhai a aseswyd fel y prif dirfeddianwyr a oedd yn gorfod talu trethi (a elwid yn ‘sybsidïau’) i gwrdd ag anghenion cyllidol brenin Lloegr ar gael yn yr Archifdy Gwladol. Yn eu mysg mae rhestrau ar gyfer y blynyddoedd 1641 a 1664, lle cawn weld pwy oedd yn gorfod talu’r cyfryw drethi yng nghwmwd Uwchgwyrfai.

Rhestr 1641

Gan droi’n gyntaf at restr 1641[1], cawn gip ar rai mwyaf cefnog y cwmwd gwta blwyddyn cyn cychwyn cythrwfl mawr Rhyfel y Pleidiau Seisnig (y cyfeirir ato fel y Rhyfel Cartref yn Saesneg). Rhestrwyd pedwar yswain (armiger) ymysg y tri ar hugain o drethdalwyr, ac o leiaf dri ar ddeg o fonheddwyr (generosus), tair gwraig weddw oedd â thir, ac un offeiriad. Dyma’r rhestr yn llawn:

Thomas Glynn, yswain, Glynllifon
Thomas Glynn, yswain, Plas Newydd
William Glynn, Lleuar
Hugh Gwynne, Pengwern
Henry Humphreys, bonwr, Pant Du
Richard Glynne, bonwr, Bryn Gwydion
David Lloyd ap William 
Hugh John ap Hugh, bonwr
William Lewis ap William, bonwr
David ap John ap William, Bodychen, bonwr
Edward Lloyd, Cwmgware, bonwr
Owen Meredydd
Griffith ap William, bonwr
Dorothy Griffith, gweddw, [ Llethr Ddu, Llanaelhaearn, o bosibl]
Elizabeth ferch Richard Rowland, gweddw
Morgan Lewis, clerc
Rowland Morgan, bonwr
Owen Griffith, bonwr
Evan Hughes, bonwr
Mary Lloyd, gweddw
John Owen a’i fam, [Tŷ’n-y-coed, Clynnog, o bosibl]
William Glynne, bonwr, [o blwyf Clynnog, o bosibl]
Evan ap John Thomas

Disgwylwyd i Thomas Glynn, Glynllifon, dyn cyfoethocaf y cwmwd yng ngolwg yr asesydd, dalu £3 fel ei randaliad cyntaf a phedwar swllt ar hugain fel ail ddaliad (ac roedd disgwyl iddo dalu dau randaliad arall nad ydynt yn cael eu rhestru. Roedd tri yswain arall y cwmwd yn gorfod talu £2 ac un swllt ar bymtheg, a’r bonheddwyr £1 ac wyth swllt fel eu dau rhandaliad cyntaf.

Rhaid oedd i Babyddion dalu’r dreth hefyd, os oedd modd ganddynt, ac yr oedd un gŵr yn Uwchgwyrfai, Robert ap Rees Wynne, ynghyd â’i wraig Catherine, yn glynu at y ffydd Babyddol, a rhaid oedd iddynt hwy dalu un geiniog ar bymtheg yr un yn y lle cyntaf, er pe na chydymffurfiant trwy fynychu eglwys y plwyf, ordeiniwyd fod rhaid iddynt dalu dau swllt ac wyth ceiniog y pen fel ail ddaliad. Dyna’r wladwriaeth yn mynnu lladd dau aderyn gydag un ergyd – sef cynyddu’r trethi a gasglwyd a rhoi pwysau ar Babyddion i roi gorau i’w ffydd.

Rhestr 1664

Mae rhestr o'r rhai a aseswyd fel y prif dirfeddianwyr yng nghwmwd Uwchgwyrfai yn y flwyddyn 1664 hefyd ar gael yn yr Archifdy Gwladol.[2]

Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu 'sybsidi' (neu fath o dreth wladol) a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth Thomas Bulkeley lofnodi rhestr Uwchgwyrfai.

Mae'n ymddangos o'r rhestr mai prif dirfeddianwyr y cwmwd oedd Thomas Bulkeley, yswain, Dinas a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am Ystad Glynllifon - ei fam yn talu cyfran oherwydd ei bod (fel pob gweddw) yn cael hanner ystad ei gŵr am ei hoes wedi iddo farw. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n annarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.[3] Dyma'r enwau darllenadwy:

Thomas Glynn, yswain,
George Twistleton, yswain, Lleuar Fawr
Richard Glynn, yswain, Elernion
Edmund Glynn, Bryn Gwydion
William Wynne, ?Pengwern
Richard ?Ellis, bon[heddwr]
[enw annarllenadwy]
Jane Glynn, gweddw Plas Newydd 
Jane Glynn, gweddw Clynnog Fawr
Hugh Lewis, bon
Owen Hughes, bon, o bosibl o Fodaden
John Williams, bon
Jane ...., gweddw ac etifeddes .... ap Richard
Randulph ....
Henry Glynn, Plas Nantlle, bon
Hugh Roberts a'i fab
Hugh Johnson, bon, [o blwyf Clynnog Fawr]
Lewis Williams
[enw annarllenadwy]
Robert Griffith, Llethr Ddu, Llanaelhaearn

Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hynny gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Nghymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf.

Mae rhestr o'r rhai oedd yn gorfod talu'r Dreth Aelwyd ym 1662 yn rhoi cymaint â 370 o enwau, ac ma'n werth cymharu'r enwau sydd yno a faint o aelwydydd oedd anggynt gyda'r rhstrau uchod.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwladol, E179/220/158
  2. Archifdy Gwladol, E179/220/161.
  3. Mae'r enwau wedi eu copïo o waith y diweddar Leonard Owen yn Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgau Bangor 13491. Ychwanegwyd enw ystad neu eiddo ambell un o J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), passim.