Owen Edwards (Anant): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd ‘’’Owen Edwards (Anant)’’’ (?1855-1918) yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn fardd gwlad nodedig yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Mab i Owen a Laura Edwards oedd o, y tad o blwyf [[Llanllyfni]] a’r fam o  blwyf [[Llanaelhaearn]], ac er i Owen y mab gan ei enw yng Ngarndolbenmaen, erbyn iddo fod yn 16 oed roedd y teulu wedi hen ymsefydlu yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Cyn belled ag y gellir ei ddeall o’r Cyfrifiad, ni symudodd o’r pentref hwnnw, gan briodi ei wraig Catherine (oedd yn dair blynedd yn iau nag ef) a magu chwech o blant yno. Gweithiodd fel chwarelwr ar hyd ei oes, gan fyw erbyn 1901 yn 56 Ffordd Hyfrydle, lle bu farw ym 1918. Ond eto, mae hi wedi bod yn amhosibl canfod ei enw yn nogfennau Cyfrifiad 1891,<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-1911, a mynegai Find My Past dan Owen Edwards trwy Brydain</ref> ac o gwmpas yr adeg honno bu’n cystadlu’n aml yn eisteddfodau Cwm Rhondda a’r ardal ar yr englyn, gan ennill ambell i dro, e.e.:
Roedd '''Owen Edwards (Anant) (?1855–1918)''' yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn fardd gwlad nodedig yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Mab i Owen a Laura Edwards ydoedd, y tad o blwyf [[Llanllyfni]] a’r fam o  blwyf [[Llanaelhaearn]]. Er i Owen y mab gan ei eni yng Ngarndolbenmaen, erbyn iddo fod yn 16 oed roedd y teulu wedi hen ymsefydlu yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Magodd chwech o blant gyda'i wraig Catherine, a oedd dair blynedd yn iau nag ef. Gweithiai fel chwarelwr ar hyd ei oes.
 
Mae Cyfrifiad 1891 yn dangos ei fod yn lletya (heb ei deulu) yn 23 Gelligaled Road, Ystrad Rhondda, ac yn 'Quarryman' o ran galwedigaeth. O gwmpas yr adeg honno bu’n cystadlu’n aml yn eisteddfodau Cwm Rhondda a’r ardal ar yr englyn, gan ennill ambell dro, e.e. yma yn 1893:


::::::'''DR JONES MORRIS, TYLORSTOWN'''
::::::'''DR JONES MORRIS, TYLORSTOWN'''
:::::: ‘’Llenor o gryn enwogrwydd—yw Morris,''     
:::::: ‘’Llenor o gryn enwogrwydd — yw Morris,''     
:::::::: ‘’Mawr mewn caredigrwydd;''   
:::::::: ‘’Mawr mewn caredigrwydd;''   
::::::: ‘’Cawr i gyflyd cwrs aflwydd,— ''  
::::::: ‘’Cawr i gyflyd cwrs aflwydd,— ''  
::::::: ‘’Edwina haint yn ei ŵydd.''."''
::::::: ‘’Edwina haint yn ei ŵydd''."''
::::::::::::: Anant, Talysarn.<ref>‘’Y Genedl Gymreig’’ 1.8.1893 t.6.</ref>  
::::::::::::: Anant, Talysarn.<ref>‘’Y Genedl Gymreig’’ 1.8.1893 t.6.</ref>  
Tybed a yw’r ffaith fod “Talysarn” wedi ei roi ar ôl ei enw yn awgrymu ei fod wedi dychwelyd adref ond yn dal mewn cysylltiad efo’r De.  
Tybed a yw’r ffaith fod “Talysarn” wedi ei roi ar ôl ei enw yn awgrymu ei fod wedi dychwelyd adref ond yn dal mewn cysylltiad â’r De? Yn sicr, erbyn Cyfrifiad 1901 roedd yn ôl yn Nhal-y-sarn ac yn byw gyda'i deulu yn 56 Ffordd Hyfrydle, lle bu farw ym 1918.
 
Arbenigai, yn wir, yn ffurf yr englyn ac mae sawl enghraifft o’i waith i’w gweld ym mynwentydd y dyffryn.<ref>Gweler enghreifftiau yn Geraint Llewelyn Jones, ‘’Lloffion o’r Llan – Casgliad o Englynion o fynwentydd Cwmwd Uwch-Gwyrfai’’, (Caernarfon, 1982).</ref> Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i golofnau barddol y papurau lleol, megis ‘’Y Genedl Gymreig’’, ‘’Yr Herald Cymraeg’’ a’r papur mwy lleol yn y dyffryn, ‘’Y Sylwedydd’’.  Gellid, yn wir, ei alw’n fardd at iws gwlad.


Arbenigai, yn wir, yn ffurf yr englyn ac mae sawl enghraifft o’i waith i’w gweld ym mynwentydd y dyffryn.<ref>Gweler enghreifftiau yn Geraint Llewelyn Jones, ‘’Lloffion o’r Llan – Casgliad o Englynion o fynwentydd Cwmwd Uwch-Gwyrfai’’, (Caernarfon, 1982)</ref> Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i golofnau barddol y papurau lleol, megis ‘’Y Genedl Gymreig’’, ‘’Yr Herald Cymraeg’’ a’r papur mwy lleol yn y dyffryn, ‘’Y Sylwedydd’’.  Gellid, yn wir, ei alw’n fardd at iws gwlad.
Roedd yn barddoni’n llwyddiannus mor gynnar â diwedd yr 1870au pan oedd yn ei ugeiniau cynnar a pharhaodd trwy ei oes. Nid oedd unrhyw lewyrch neilltuol i’w waith wrth ei gloriannu yn erbyn cynnyrch ein beirdd mwyaf, ond cafodd ddigon o gomisiynau gan bobl leol, ac enillodd yn gyson mewn eisteddfodau lleol, weithiau’n cofnodi a chanmol llwyddiannau eraill, er enghraifft, yn yr englyn canlynol i’r peiriannydd Mr Winnard, a greodd wely newydd i [[Afon Llyfni]], pan wasanaethai hwnnw fel llywydd [[Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn]]:


Roedd yn barddoni’n llwyddiannus mor gynnar â diwedd yr 1870au pan oedd yn ei ugeiniau cynnar a pharhaodd trwy ei oes. Nid oedd unrhyw lewyrch neilltuol i’w waith wrth ei gloriannu yn erbyn cynnyrch ein beirdd mwyaf, ond cafodd ddigon o gomisiynau gan bobl leol, ac enillodd yn gyson mewn eisteddfodau lleol, weithiau’n cofnodi a chanmol llwyddiannau eraill, er enghraifft, yn yr englyn canlynol i’r peiriannydd Mr Winnard, a greodd wely newydd i [[Afon Llyfni]], pan wasanaethodd hwnnw fel llywydd [[Eisteddfod Tal-y-sarn]]:
::::::'''MR. WINNARD'''
:::::: ‘’Goleu a nerth ein gŵyl ni-yw Winnard,''     
:::::: ‘’Goleu a nerth ein gŵyl ni - yw Winnard,''     
:::::::: ‘’Sai'i enw tra'r Lyfni; ''   
:::::::: ‘’Sai'i enw tra'r Lyfni; ''   
::::::: ‘’Drwy hwn, yr holl drueni ''  
::::::: ‘’Drwy hwn, yr holl drueni ''  
Llinell 26: Llinell 30:
:::::::::::::Anant <ref> ‘’Y Sylwedydd’’, dyfynnwyd gan Ffion Owen mewn cyflwyniad, [https://prezi.com/gbhrz0e0yr7m/039a-ddaw-lleu-i-ddyffryn-nantlleu039n-ol/], cyrchwyd 3.2.2022</ref>
:::::::::::::Anant <ref> ‘’Y Sylwedydd’’, dyfynnwyd gan Ffion Owen mewn cyflwyniad, [https://prezi.com/gbhrz0e0yr7m/039a-ddaw-lleu-i-ddyffryn-nantlleu039n-ol/], cyrchwyd 3.2.2022</ref>


Mae ffasiwn mewn barddoniaeth fel mewn pob dim arall, a rhaid gochel rhag defnyddio safonau a chwaeth heddiw i gloriannu llenorion y gorffennol, ac mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried llenorion yr ail reng! Yn ffodus, gellir gweld sut yr edrychodd ei gyd feirdd arno ar y pryd oherwydd cyhoeddodd rhywun a alwodd ei hun “Y Pwyswr” dabl o’r deunaw uchaf ymysg beirdd y dyffryn, gan roi sgôr rhwng 0 a 20 i bob un mewn pedwar maes, sef awen, barn, dysg a chynghanedd.<ref> ‘’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7</ref>
Mae ffasiwn mewn barddoniaeth fel mewn pob dim arall, a rhaid gochel rhag defnyddio safonau a chwaeth heddiw i gloriannu llenorion y gorffennol, ac mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried llenorion yr ail reng! Yn ffodus, gellir gweld sut yr edrychodd ei gyd feirdd arno ar y pryd oherwydd cyhoeddodd rhywun, a alwodd ei hun “Y Pwyswr”, dabl o’r deunaw uchaf ymysg beirdd y dyffryn, gan roi sgôr rhwng 0 a 20 i bob un mewn pedwar maes, sef awen, barn, dysg a chynghanedd.<ref> ‘’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7</ref>
Gellir o’r hyn fod Y Pwyswr yn ystyried Anant yn chweched orau, gyda sgôr o 46 allan o 80 – a’r bardd lleol gorau yn ei farn ef, [[William John Davies (Glan Llyfnwy)]], yn sgorio 69. Maes cryfaf Anant oedd y gynghanedd, lle sgoriodd 14 allan o 20 – a Glan Llyfnwy’n sgorio 19!  
Gellir gweld o'r tabl hwn fod “Y Pwyswr” yn ystyried Anant yn chweched orau, gyda sgôr o 46 allan o 80 – a’r bardd lleol gorau yn ei farn ef, [[William John Davies (Glan Llyfnwy)]], yn sgorio 69. Maes cryfaf Anant oedd y gynghanedd, lle sgoriodd 14 allan o 20 – a Glan Llyfnwy’n sgorio 19!  


[[Delwedd:Tabl beirdd.png|400px|bawd|canol]]
[[Delwedd:Tabl beirdd.png|400px|bawd|canol]]


Anodd gwybod faint o bwys i’w roi ar farn Y Pwyswr, ond nodwyd ganddo nad oedd yn adnabod yr un o'r deunaw bardd yn y cnawd.
Anodd gwybod faint o bwys i’w roi ar farn “Y Pwyswr”, ond nodwyd ganddo nad oedd yn adnabod yr un o'r deunaw bardd yn y cnawd.


Ei lwyddiant barddonol mwyaf heb os oedd derbyn y gadair yn Eisteddfod Deiniolen, 1911, gyda’r Athro John Morris-Jones yn beirniadu; ond efallai ei gamp fwyaf oll oedd, ynghyd â [[Hywel Cefni]], bardd lleol arall, ddysgu anghenion y gynghanedd i’r [[R. Williams Parry]] ifanc, a oedd yn byw ar yr un stryd.
Ei lwyddiant barddonol mwyaf heb os oedd derbyn y gadair yn Eisteddfod Deiniolen, 1911, gyda’r Athro John Morris-Jones yn beirniadu; ond efallai mai ei gamp fwyaf oll oedd iddo, ynghyd â [[H.E. Jones (Hywel Cefni)]], (bardd lleol arall o'r un safon ag Anant), ddysgu anghenion y gynghanedd i’r [[R. Williams Parry]] ifanc, a oedd yn byw yn yr un stryd.


O ran crefydd yr oedd yn Fedyddiwr ac yn flaenor amlwg yng [[Capel Salem (B), Tal-y-sarn|nghapel Salem]]. Ym 1902, fe’i dewiswyd yn Llywydd Cymanfa Bedyddwyr Llŷn ac Eifionydd. <ref>’’Seren Cymru’’, 4.7.1902, t.12</ref>
O ran crefydd roedd yn Fedyddiwr ac yn ddiacon amlwg yng [[Capel Salem (B), Tal-y-sarn|nghapel Salem]]. Ym 1902, fe’i dewiswyd yn Llywydd Cymanfa Bedyddwyr Llŷn ac Eifionydd.<ref>’’Seren Cymru’’, 4.7.1902, t.12.</ref>


Yn ogystal â barddoni, fe’i cyfrifwyd ymysg adroddwyr gorau’r dyffryn yn ei gyfnod. Bu’n beirniadu’n gyson mewn eisteddfodau, ac fe oedd yn hyfforddi rhai o adroddwyr mwyaf llwyddiannus y cylch, fel y tystia’r llythyr canlynol a ymddangosodd yn y wasg:
Yn ogystal â barddoni, fe’i cyfrifwyd ymysg adroddwyr gorau’r dyffryn yn ei gyfnod. Bu’n beirniadu’n gyson mewn eisteddfodau, ac ef oedd yn hyfforddi rhai o adroddwyr mwyaf llwyddiannus y cylch, fel y tystia’r llythyr canlynol a ymddangosodd yn y wasg:


  '''NID DA I ŴR GLOD ARALL.'''
  '''NID DA I ŴR GLOD ARALL.'''
Llinell 43: Llinell 47:
  Syr,-Yn eich rhifyn diweddaf, dan y pennawd "Cymry ar Wasgar," dywed gohebydd o West Pawlet i Mr Henry J. Williams, Carmel, Arfon, ennill cadair am adrodd drannoeth wedi ei gyrhaeddiad i Granville, America, o'r Hen Wlad. Y darn ardderchog, "Carwn ein Gwlad," a'i fod wedi ei ddisgyblu gan yr adroddwr Llew Deulyn, Nantlle. Dymunaf gywiro y gohebydd parthed athraw H. J. Williams, trwy ei hysbysu mai Anant, Talysarn, bia'r clod, os oes clod i ail berson. Efe, hefyd, yw disgyblwr yr adroddwyr penigamp John a D. Owen, Carmel; L. Blodwen Hughes, Talysarn, a lluaws ereill. "Clod i'r hwn mae clod yn ddyledus."-Ydwyf, etc., Darllenydd.<ref>’’Yr Herald Cymraeg’’, 1.7.1909, t.7</ref>
  Syr,-Yn eich rhifyn diweddaf, dan y pennawd "Cymry ar Wasgar," dywed gohebydd o West Pawlet i Mr Henry J. Williams, Carmel, Arfon, ennill cadair am adrodd drannoeth wedi ei gyrhaeddiad i Granville, America, o'r Hen Wlad. Y darn ardderchog, "Carwn ein Gwlad," a'i fod wedi ei ddisgyblu gan yr adroddwr Llew Deulyn, Nantlle. Dymunaf gywiro y gohebydd parthed athraw H. J. Williams, trwy ei hysbysu mai Anant, Talysarn, bia'r clod, os oes clod i ail berson. Efe, hefyd, yw disgyblwr yr adroddwyr penigamp John a D. Owen, Carmel; L. Blodwen Hughes, Talysarn, a lluaws ereill. "Clod i'r hwn mae clod yn ddyledus."-Ydwyf, etc., Darllenydd.<ref>’’Yr Herald Cymraeg’’, 1.7.1909, t.7</ref>


Bu farw 25 Mawrth 1918, gan adael ei wraig a phedwar o’i blant ar ei ôl. <ref>’’Y Drych’’, 2.5.1918.</ref> Cafwyd teyrnged fer iddo yn ‘’Y Dinesydd Cymreig’’ y mis dilynol:
Bu farw 25 Mawrth 1918, gan adael ei wraig a phedwar o’i blant ar ei ôl.<ref>’’Y Drych’’, 2.5.1918.</ref> Cafwyd teyrnged fer iddo yn ‘’Y Dinesydd Cymreig’’ y mis dilynol:
  A ni bron heb orffen sychu ein hysgrif bin i ddymuno adferiad buan ein hannwyl gyfaill Anant, Talysarn, wele y gorchwyl prudd gennym yr wythnos hon o gofnodi ei farwolaeth, yr hyn gymerodd le ddydd Llun ac yntau yn 62 mlwydd oed. Bu Anant yn ddiacon ffyddlon yn eglwys Salem (B.), Talysarn, lle mae congl wag ar ei ôl, ac anhawdd synio nad yw ef mwy. Hoff fyddem bob amser o'i gwmni diddan. Rhoddodd lawer iawn o adroddwyr ar ben y ffordd i gychwyn adrodd, a chwith gennym feddwl na cheir ei hyfforddiant mwy. Nawn Sadwrn daeth tyrfa barchus i dalu'i gymwynas olaf iddo. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym [[Mynwent Macpelah|Macpelah]], [[Pen-y-groes|Penygroes]]. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch R. Edwards, Penygroes, yn effeithiol iawn Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'i briod ac a'r plant, un o'r rhai sydd yn yr America. Canwyd hoff emyn Anant ar lan y bedd: "Derfydd i mi deithio'r ddaear." <ref>’’Y Dinesydd Cymreig’’, 3.4.1918, t.5</ref>
  A ni bron heb orffen sychu ein hysgrif bin i ddymuno adferiad buan ein hannwyl gyfaill Anant, Talysarn, wele y gorchwyl prudd gennym yr wythnos hon o gofnodi ei farwolaeth, yr hyn gymerodd le ddydd Llun ac yntau yn 62 mlwydd oed. Bu Anant yn ddiacon ffyddlon yn eglwys Salem (B.), Talysarn, lle mae congl wag ar ei ôl, ac anhawdd synio nad yw ef mwy. Hoff fyddem bob amser o'i gwmni diddan. Rhoddodd lawer iawn o adroddwyr ar ben y ffordd i gychwyn adrodd, a chwith gennym feddwl na cheir ei hyfforddiant mwy. Nawn Sadwrn daeth tyrfa barchus i dalu'i gymwynas olaf iddo. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym [[Mynwent Macpela|Macpelah]], [[Pen-y-groes|Penygroes]]. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch R. Edwards, Penygroes, yn effeithiol iawn. Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'i briod ac a'r plant, un o'r rhai sydd yn yr America. Canwyd hoff emyn Anant ar lan y bedd: "Derfydd i mi deithio'r ddaear." <ref>’’Y Dinesydd Cymreig’’, 3.4.1918, t.5.</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:21, 14 Medi 2023

Roedd Owen Edwards (Anant) (?1855–1918) yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn fardd gwlad nodedig yn Nyffryn Nantlle. Mab i Owen a Laura Edwards ydoedd, y tad o blwyf Llanllyfni a’r fam o blwyf Llanaelhaearn. Er i Owen y mab gan ei eni yng Ngarndolbenmaen, erbyn iddo fod yn 16 oed roedd y teulu wedi hen ymsefydlu yn Nhal-y-sarn. Magodd chwech o blant gyda'i wraig Catherine, a oedd dair blynedd yn iau nag ef. Gweithiai fel chwarelwr ar hyd ei oes.

Mae Cyfrifiad 1891 yn dangos ei fod yn lletya (heb ei deulu) yn 23 Gelligaled Road, Ystrad Rhondda, ac yn 'Quarryman' o ran galwedigaeth. O gwmpas yr adeg honno bu’n cystadlu’n aml yn eisteddfodau Cwm Rhondda a’r ardal ar yr englyn, gan ennill ambell dro, e.e. yma yn 1893:

DR JONES MORRIS, TYLORSTOWN
‘’Llenor o gryn enwogrwydd — yw Morris,
‘’Mawr mewn caredigrwydd;
‘’Cawr i gyflyd cwrs aflwydd,—
‘’Edwina haint yn ei ŵydd."
Anant, Talysarn.[1]

Tybed a yw’r ffaith fod “Talysarn” wedi ei roi ar ôl ei enw yn awgrymu ei fod wedi dychwelyd adref ond yn dal mewn cysylltiad â’r De? Yn sicr, erbyn Cyfrifiad 1901 roedd yn ôl yn Nhal-y-sarn ac yn byw gyda'i deulu yn 56 Ffordd Hyfrydle, lle bu farw ym 1918.

Arbenigai, yn wir, yn ffurf yr englyn ac mae sawl enghraifft o’i waith i’w gweld ym mynwentydd y dyffryn.[2] Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i golofnau barddol y papurau lleol, megis ‘’Y Genedl Gymreig’’, ‘’Yr Herald Cymraeg’’ a’r papur mwy lleol yn y dyffryn, ‘’Y Sylwedydd’’. Gellid, yn wir, ei alw’n fardd at iws gwlad.

Roedd yn barddoni’n llwyddiannus mor gynnar â diwedd yr 1870au pan oedd yn ei ugeiniau cynnar a pharhaodd trwy ei oes. Nid oedd unrhyw lewyrch neilltuol i’w waith wrth ei gloriannu yn erbyn cynnyrch ein beirdd mwyaf, ond cafodd ddigon o gomisiynau gan bobl leol, ac enillodd yn gyson mewn eisteddfodau lleol, weithiau’n cofnodi a chanmol llwyddiannau eraill, er enghraifft, yn yr englyn canlynol i’r peiriannydd Mr Winnard, a greodd wely newydd i Afon Llyfni, pan wasanaethai hwnnw fel llywydd Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn:

MR. WINNARD
‘’Goleu a nerth ein gŵyl ni - yw Winnard,
‘’Sai'i enw tra'r Lyfni;
‘’Drwy hwn, yr holl drueni
‘’Gwyd o'r Hyn, aiff gyda'r lli'."
Anant[3]

Enghraifft arall o’i waith yw’r englyn yn canmol ffidlwr ifanc:

‘‘Heno’r ffidil brophwyda - oriau llwydd,’’
‘’I’r llanc ieuanc yma;’’
‘’Yn fuan gyda’i fwa’’
‘’A’i grwth, yn wir, gwyrthia wna.’’
Anant [4]

Mae ffasiwn mewn barddoniaeth fel mewn pob dim arall, a rhaid gochel rhag defnyddio safonau a chwaeth heddiw i gloriannu llenorion y gorffennol, ac mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried llenorion yr ail reng! Yn ffodus, gellir gweld sut yr edrychodd ei gyd feirdd arno ar y pryd oherwydd cyhoeddodd rhywun, a alwodd ei hun “Y Pwyswr”, dabl o’r deunaw uchaf ymysg beirdd y dyffryn, gan roi sgôr rhwng 0 a 20 i bob un mewn pedwar maes, sef awen, barn, dysg a chynghanedd.[5] Gellir gweld o'r tabl hwn fod “Y Pwyswr” yn ystyried Anant yn chweched orau, gyda sgôr o 46 allan o 80 – a’r bardd lleol gorau yn ei farn ef, William John Davies (Glan Llyfnwy), yn sgorio 69. Maes cryfaf Anant oedd y gynghanedd, lle sgoriodd 14 allan o 20 – a Glan Llyfnwy’n sgorio 19!

Anodd gwybod faint o bwys i’w roi ar farn “Y Pwyswr”, ond nodwyd ganddo nad oedd yn adnabod yr un o'r deunaw bardd yn y cnawd.

Ei lwyddiant barddonol mwyaf heb os oedd derbyn y gadair yn Eisteddfod Deiniolen, 1911, gyda’r Athro John Morris-Jones yn beirniadu; ond efallai mai ei gamp fwyaf oll oedd iddo, ynghyd â H.E. Jones (Hywel Cefni), (bardd lleol arall o'r un safon ag Anant), ddysgu anghenion y gynghanedd i’r R. Williams Parry ifanc, a oedd yn byw yn yr un stryd.

O ran crefydd roedd yn Fedyddiwr ac yn ddiacon amlwg yng nghapel Salem. Ym 1902, fe’i dewiswyd yn Llywydd Cymanfa Bedyddwyr Llŷn ac Eifionydd.[6]

Yn ogystal â barddoni, fe’i cyfrifwyd ymysg adroddwyr gorau’r dyffryn yn ei gyfnod. Bu’n beirniadu’n gyson mewn eisteddfodau, ac ef oedd yn hyfforddi rhai o adroddwyr mwyaf llwyddiannus y cylch, fel y tystia’r llythyr canlynol a ymddangosodd yn y wasg:

NID DA I ŴR GLOD ARALL.
(At Olygydd yr "Herald Cymraeg.") 
Syr,-Yn eich rhifyn diweddaf, dan y pennawd "Cymry ar Wasgar," dywed gohebydd o West Pawlet i Mr Henry J. Williams, Carmel, Arfon, ennill cadair am adrodd drannoeth wedi ei gyrhaeddiad i Granville, America, o'r Hen Wlad. Y darn ardderchog, "Carwn ein Gwlad," a'i fod wedi ei ddisgyblu gan yr adroddwr Llew Deulyn, Nantlle. Dymunaf gywiro y gohebydd parthed athraw H. J. Williams, trwy ei hysbysu mai Anant, Talysarn, bia'r clod, os oes clod i ail berson. Efe, hefyd, yw disgyblwr yr adroddwyr penigamp John a D. Owen, Carmel; L. Blodwen Hughes, Talysarn, a lluaws ereill. "Clod i'r hwn mae clod yn ddyledus."-Ydwyf, etc., Darllenydd.[7]

Bu farw 25 Mawrth 1918, gan adael ei wraig a phedwar o’i blant ar ei ôl.[8] Cafwyd teyrnged fer iddo yn ‘’Y Dinesydd Cymreig’’ y mis dilynol:

A ni bron heb orffen sychu ein hysgrif bin i ddymuno adferiad buan ein hannwyl gyfaill Anant, Talysarn, wele y gorchwyl prudd gennym yr wythnos hon o gofnodi ei farwolaeth, yr hyn gymerodd le ddydd Llun ac yntau yn 62 mlwydd oed. Bu Anant yn ddiacon ffyddlon yn eglwys Salem (B.), Talysarn, lle mae congl wag ar ei ôl, ac anhawdd synio nad yw ef mwy. Hoff fyddem bob amser o'i gwmni diddan. Rhoddodd lawer iawn o adroddwyr ar ben y ffordd i gychwyn adrodd, a chwith gennym feddwl na cheir ei hyfforddiant mwy. Nawn Sadwrn daeth tyrfa barchus i dalu'i gymwynas olaf iddo. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym Macpelah, Penygroes. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch R. Edwards, Penygroes, yn effeithiol iawn. Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'i briod ac a'r plant, un o'r rhai sydd yn yr America. Canwyd hoff emyn Anant ar lan y bedd: "Derfydd i mi deithio'r ddaear." [9]

Cyfeiriadau

  1. ‘’Y Genedl Gymreig’’ 1.8.1893 t.6.
  2. Gweler enghreifftiau yn Geraint Llewelyn Jones, ‘’Lloffion o’r Llan – Casgliad o Englynion o fynwentydd Cwmwd Uwch-Gwyrfai’’, (Caernarfon, 1982).
  3. ‘’Y Genedl Gymreig’’ 24.7.1894 t.6
  4. ‘’Y Sylwedydd’’, dyfynnwyd gan Ffion Owen mewn cyflwyniad, [1], cyrchwyd 3.2.2022
  5. ‘’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7
  6. ’’Seren Cymru’’, 4.7.1902, t.12.
  7. ’’Yr Herald Cymraeg’’, 1.7.1909, t.7
  8. ’’Y Drych’’, 2.5.1918.
  9. ’’Y Dinesydd Cymreig’’, 3.4.1918, t.5.