Isaac B. Williams (Llew Deulyn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Llew Deulyn)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd cyngherddau ac eisteddfodau yn Nyffryn Nantlle tua dechrau'r ganrif ddiwethaf oedd Isaac B. Williams, Nantlle (1871-1932). Fe'i hadwaenid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd led-led y sir a chyn belled â Lerpwl i ganu ac adrodd mewn cyngherddau ac eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych. Cyhoeddodd rywfaint o farddoniaeth ddigon trefnus, os braidd yn ystrydebol a rhigymllyd.[1]

Fe'i ganed, mae'n debyg, mewn tŷ yn Rhesdai Pen-yr-orsedd, Nantlle ym 1871, yn fab i Thomas B. a Hannah Williams. Roedd ei dad yn chwarelwr ac yn is-bostfeistr Nantlle, swyddi a ddaliodd am ugain mlynedd a mwy. Ar ôl tyfu'n ddigon hen, aeth Isaac i'r chwarel hefyd. Fe briododd â Mary Jones, dynes yr un oed ag ef, ac o'r un ardal, ym 1893, gan ymgartrefu yn 7 Rhesdai Nantlle; yn y man, symudodd y teulu i 18 Rhes Victoria.[2] Parhaodd i weithio yn y chwarel, gan ddod yn lladmerydd dros chwareli llechi ac yn gryn arbenigwr ar eu ffyniant.[3]

Canodd G.W. Francis englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y Dinesydd ym 1919:

Llith i'r Llew
Llew i'n deffro, Llew ein Dyffryn – Llew doeth
Llew dewr i'n hamddiffyn,
Llew mawr gwlad, Llew mwya'r glyn,
Llew dwywlad yw Llew Deulyn."
G.W. Francis[4]

Cyfeiriadau

  1. Er enghraifft, "Dial y Cam", Yr Herald Cymraeg, 17.1.1914, t.7
  2. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1911; Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, 1893; gwefan FindMyPast
  3. Gweler, er enghraifft, Cambrian News, 19.5.1916, t.5, lle sonnir am lythyr gan Llew Deulyn am "Slate Quarrying and Science".
  4. Y Dinesydd Cymreig, 17.12.1919, t.2