Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Eisteddfod Gadeiriol Tal-y-sarn tua 1869[1] ac fe'i cynhaliwyd ar Ddydd Iau Dyrchafael bob blwyddyn. Fe'i sefydlwyd yn y lle cyntaf gan Ysgol Sul y Methodistiaid ym mhentref Tal-y-sarn, ond ym 1878 fe agorwyd y cystadlaethau i bobl eraill - er honnwyd gan rai nad oedd y gwobrau'n deilwng o achlysur 'cyhoeddus'.[2] Daeth yn arfer i chwareli Dyffryn Nantlle i gyd gau am y diwrnod er mwyn caniatáu i'r chwarelwyr fynychu sesiynau'r pnawn a nos. Nid oedd yr Eisteddfod ar ei newydd wedd yn rhy lewyrchus ar y cychwyn, mae'n debyg: ym 1877 honnodd un sylwebydd nad oedd hi'n "ddim amgen na'r hyn a elwir mewn ardaloedd eraill yn gyfarfod llenyddol."[3] Bu'r Eisteddfod yn parhau tan o leiaf 1914, er (a barnu oddi wrth ddyddiadau hysbysebion y rhestr destunau a ymddangosodd yn aml yn y wasg leol), ni chynhaliwyd yr eisteddfod bob blwyddyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cambrian News 28.5.1909, t.6
  2. Y Genedl Gymreig, 19.12.1878, t.7
  3. Llais y Wlad, 5.10.1877, t.6