William Hughes, Bryn Beddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''William Hughes''', Brynbeddau, (1767-1846) yn un o'r prif ddylanwadau yn nhwf enwad yr Annibynwyr yn [[Sir Gaernarfon]].
Roedd '''William Hughes''', [[Bryn Beddau, Llanwnda|Brynbeddau]], (1767-1846) yn un o'r prif ddylanwadau yn nhwf enwad yr Annibynwyr yn [[Sir Gaernarfon]].

Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben [[Dyffryn Gwyrfai]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac erbyn iddo fod yn 21 fe ddechreuodd bregethu. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith yr oedd wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, fe ganolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ôl pum mlynedd trodd ei sylw at Eifionydd ac [[Uwchgwyrfai]] lle'r oedd yn gyfan gwbl, neu'n rhannol, gyfrifol am sefydlu achosion [[Capel Saron (A)|Saron]], [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn|Tal-y-sarn]], Rhoslan, Pentrefelin a [[Capel Bethlehem (A), Trefor| Trefor]].
Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben [[Dyffryn Gwyrfai]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac fe ddechreuodd bregethu pan oedd yn 21 oed. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith y bu wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, fe ganolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ôl pum mlynedd trodd ei sylw at Eifionydd ac [[Uwchgwyrfai]] lle'r oedd yn gyfan gwbl, neu'n rhannol, gyfrifol am sefydlu achosion [[Capel Saron (A)|Saron]], [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn|Tal-y-sarn]], Rhos-lan, Pentrefelin a [[Capel Bethlehem (A), Trefor|  
Capel Bethlehem (A) Trefor]].

Bu'n meithrin achos yng ngwaelodion plwyf Llanwnda a phlwyf Llanfaglan ers blynyddoedd, yn cynnal ysgol Sul a chyfarfodydd efengylu a gweddïo mewn tai. Tua 1812, fe gododd y capel Saron cyntaf. Tra'n parhau i amaethu, daliai ymlaen fel pregethwr cynorthwyol gan ganolbwyntio ar Saron. Parhaodd i ffermio Brynbeddau nes iddo fod bron yn 60 oed, a'r pryd hynny fe'i "hurddwyd" gan Eglwys Saron - hynny yw, fe'i hordeiniwyd ef yn swyddogol yn weinidog rhag i'r aelodau orfod teithio i Gaernarfon i dderbyn y cymun. Wedyn ni fu mor barod i deithio ac efengylu. Rhoddodd y gorau i ffermio, gan symud i dŷ wrth y capel a oedd wedi'i godi ar gyfer gweinidog. Fodd bynnag, yn ôl ei gofiannydd, Owen Jones,"bernir gan lawer oedd mewn cyfle i farnu fod ynddo fwy o gymhwyster at Efengylu na bugeilio. Yr oedd yn well at blannu na dyfrhau." Dywedwyd amdano, er nad oedd yn huawdl nac yn ddifyr i wrando arno, fod ei bregethu'n ddifrifol ond yn "felus" yng nghlustiau'r ffyddloniaid, fel bod croeso iddo yn y capeli bob amser. Roedd yn hoff o gyfansoddi emynau, gan dreuliai oriau wedi gorffen oedfa weithiau yn canu rhai ohonynt, yn ôl yr hanes.
Bu'n meithrin achos yng ngwaelodion plwyf Llanwnda a phlwyf Llanfaglan ers blynyddoedd, yn cynnal ysgol Sul a chyfarfodydd efengylu a gweddïo mewn tai. Tua 1812, fe gododd y capel Saron cyntaf. Tra'n parhau i amaethu, daliai ymlaen fel pregethwr cynorthwyol gan ganolbwyntio ar Saron. Parhaodd i ffermio Brynbeddau nes iddo fod bron yn 60 oed, a'r pryd hynny fe'i "hurddwyd" gan Eglwys Saron - hynny yw, fe'i hordeiniwyd ef yn swyddogol yn weinidog rhag i'r aelodau orfod teithio i Gaernarfon i dderbyn y cymun. Wedyn ni fu mor barod i deithio ac efengylu. Rhoddodd y gorau i ffermio, gan symud i dŷ wrth y capel a oedd wedi'i godi ar gyfer gweinidog. Fodd bynnag, yn ôl ei gofiannydd, Owen Jones,"bernir gan lawer oedd mewn cyfle i farnu fod ynddo fwy o gymhwyster at Efengylu na bugeilio. Yr oedd yn well at blannu na dyfrhau." Dywedwyd amdano, er nad oedd yn huawdl nac yn ddifyr i wrando arno, fod ei bregethu'n ddifrifol ond yn "felus" yng nghlustiau'r ffyddloniaid, fel bod croeso iddo yn y capeli bob amser. Roedd yn hoff o gyfansoddi emynau, gan dreulio oriau wedi gorffen oedfa weithiau yn canu rhai ohonynt, yn ôl yr hanes.

Yn y man, cododd anghydfod rhyngddo ag aelodau Capel Saron, yn bennaf gan y tybient ei fod yn tueddu at drefn "henaduriaeth" o weithredu, sef cadw'r prif ddyletswyddau a phenderfyniadau ymysg swyddogion yr achos yn hytrach na chaniatáu i'r holl aelodau fod â llais llawn yn y ffordd roedd yr achos yn cael ei weithredu. Fe symudodd ei aelodaeth i gapel Annibynwyr Y Bontnewydd lle bu'n aelod hyd ei farw ar 5 Mawrth 1846, ac yntau'n 79 oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanwnda a chodwyd carreg ar ei fedd gan Ysgolion Sabothol Dosbarth Bethel. Dywedir iddo gofnodi llawer am ei weithgareddau cynnar fel pregethwr ac am achos Saron, ond mae'r papurau i gyd wedi mynd i ddifancoll oherwydd iddo eu rhoi dan ofal rhyw Mr Jones o Dreffynnon a fu farw cyn gwneud dim efo nhw.<ref>Ysgrif gofiannol gan Owen Jones, Gallt-y-foel, wedi'i hargraffu yn T.Rees  a J. Thomas, ‘’Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru’’ (Lerpwl, 1873), tt.247-8</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:20, 5 Mehefin 2024

Roedd William Hughes, Brynbeddau, (1767-1846) yn un o'r prif ddylanwadau yn nhwf enwad yr Annibynwyr yn Sir Gaernarfon.

Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben Dyffryn Gwyrfai ym mhlwyf Llanwnda. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac fe ddechreuodd bregethu pan oedd yn 21 oed. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith y bu wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, fe ganolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ôl pum mlynedd trodd ei sylw at Eifionydd ac Uwchgwyrfai lle'r oedd yn gyfan gwbl, neu'n rhannol, gyfrifol am sefydlu achosion Saron, Tal-y-sarn, Rhos-lan, Pentrefelin a Capel Bethlehem (A) Trefor.

Bu'n meithrin achos yng ngwaelodion plwyf Llanwnda a phlwyf Llanfaglan ers blynyddoedd, yn cynnal ysgol Sul a chyfarfodydd efengylu a gweddïo mewn tai. Tua 1812, fe gododd y capel Saron cyntaf. Tra'n parhau i amaethu, daliai ymlaen fel pregethwr cynorthwyol gan ganolbwyntio ar Saron. Parhaodd i ffermio Brynbeddau nes iddo fod bron yn 60 oed, a'r pryd hynny fe'i "hurddwyd" gan Eglwys Saron - hynny yw, fe'i hordeiniwyd ef yn swyddogol yn weinidog rhag i'r aelodau orfod teithio i Gaernarfon i dderbyn y cymun. Wedyn ni fu mor barod i deithio ac efengylu. Rhoddodd y gorau i ffermio, gan symud i dŷ wrth y capel a oedd wedi'i godi ar gyfer gweinidog. Fodd bynnag, yn ôl ei gofiannydd, Owen Jones,"bernir gan lawer oedd mewn cyfle i farnu fod ynddo fwy o gymhwyster at Efengylu na bugeilio. Yr oedd yn well at blannu na dyfrhau." Dywedwyd amdano, er nad oedd yn huawdl nac yn ddifyr i wrando arno, fod ei bregethu'n ddifrifol ond yn "felus" yng nghlustiau'r ffyddloniaid, fel bod croeso iddo yn y capeli bob amser. Roedd yn hoff o gyfansoddi emynau, gan dreulio oriau wedi gorffen oedfa weithiau yn canu rhai ohonynt, yn ôl yr hanes.

Yn y man, cododd anghydfod rhyngddo ag aelodau Capel Saron, yn bennaf gan y tybient ei fod yn tueddu at drefn "henaduriaeth" o weithredu, sef cadw'r prif ddyletswyddau a phenderfyniadau ymysg swyddogion yr achos yn hytrach na chaniatáu i'r holl aelodau fod â llais llawn yn y ffordd roedd yr achos yn cael ei weithredu. Fe symudodd ei aelodaeth i gapel Annibynwyr Y Bontnewydd lle bu'n aelod hyd ei farw ar 5 Mawrth 1846, ac yntau'n 79 oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanwnda a chodwyd carreg ar ei fedd gan Ysgolion Sabothol Dosbarth Bethel. Dywedir iddo gofnodi llawer am ei weithgareddau cynnar fel pregethwr ac am achos Saron, ond mae'r papurau i gyd wedi mynd i ddifancoll oherwydd iddo eu rhoi dan ofal rhyw Mr Jones o Dreffynnon a fu farw cyn gwneud dim efo nhw.[1]

Roedd gan William Hughes wraig, Jane, tua phum mlynedd yn iau nag ef, ac o leiaf un ferch, Ellen, a anwyd tua 1801. Ym 1841 yr oeddent yn dal i fyw yn Saron, yn rhannu'r tŷ efo Griffith Thomas, olynydd William fel gweinidog yr achos.[2]

Cyfeiriadau

  1. Ysgrif gofiannol gan Owen Jones, Gallt-y-foel, wedi'i hargraffu yn T.Rees a J. Thomas, ‘’Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru’’ (Lerpwl, 1873), tt.247-8
  2. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1841