Llwybr y Pererinion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 5: Llinell 5:
Un o'r prif gyrchfannau i bererinion yng Nghymru oedd Ynys Enlli, oddi ar ben eithaf penrhyn Llŷn. Yn y cyfnod Pabyddol roedd tair pererindod i Enlli yn gyfwerth ag un i Rufain. Roedd dau brif lwybr i'r pererinion a gyrchai i Enlli. Roedd y llwybr deheuol yn dilyn arfordir Ceredigion a Meirionnydd, gan groesi'r Traeth Mawr wedyn i Eifionydd ac ymlaen drwy Lanystumdwy, Pwllheli, Llanbedrog a Llanengan cyn cyrraedd Aberdaron ac yna croesi'r Swnt i Enlli o Borth Meudwy.  

Roedd rhan sylweddol o'r llwybr gogleddol wedyn yn mynd drwy gwmwd [[Uwchgwyrfai]]. Byddai llawer o bererinion y llwybr gogleddol hwn yn cychwyn ar eu taith o eglwys gadeiriol Deiniol Sant ym Mangor. O Fangor credir bod llawer ohonynt yn dilyn y ffordd dros Fynydd Bangor ac yna ymlaen dros Bont Caerhun a thrwy Pentir, ac ymlaen i eglwys Sant Peblig ar gyrion Caernarfon, eglwys a oedd yn gartref i'r cerflun crog enwog o Grist, a elwid yn Grist o Gaernarfon. Y gyrchfan nesaf mae'n fwy na thebyg oedd eglwys hynafol Llanfaglan, ar lannau'r [[Y Foryd|Foryd]], gyda'i ffynnon sanctaidd gerllaw. Roedd yr eglwys hon wedi'i chysegru i Sant Baglan, brawd i'r Abad Lleuddad, ail abad Enlli. Wrth i'r pererinion droedio ymhellach i'r gorllewin deuent ymhen tipyn o [[Betws Gwernrhiw|Gapel Betws]]. Roedd hwn o fewn yr hyn sydd bellach yn [[Parc Glynllifon|Barc Glynllifon]] a dim ond ychydig o'i sylfeini sydd i'w gweld bellach. Gerllaw roedd hosbis a fyddai'n cynnig llety ac ymgeledd i'r pererinion - amryw ohonynt mae'n fwy na thebyg yn oedrannus a gwael. Cafodd yr adeilad hwn ei dro'i dafarn ac yna'n ffermdy yn ddiweddarach. Dywedir fod [[Plas Newydd, Llandwrog|Plas Newydd]] ger [[Glynllifon]] ar safle adeiladau hŷn a elwid yn "Mynachdy" ar un cyfnod - gan awgrymu fod yno faenor a oedd yn eiddo i fynachlog Sistersiaidd.  
Roedd rhan sylweddol o'r llwybr gogleddol wedyn yn mynd drwy gwmwd [[Uwchgwyrfai]]. Byddai llawer o bererinion y llwybr gogleddol hwn yn cychwyn ar eu taith o eglwys gadeiriol Deiniol Sant ym Mangor. O Fangor credir bod llawer ohonynt yn dilyn y ffordd dros Fynydd Bangor ac yna ymlaen dros Bont Caerhun a thrwy Pentir, ac ymlaen i eglwys Sant Peblig ar gyrion Caernarfon, eglwys a oedd yn gartref i'r cerflun crog enwog o Grist, a elwid yn Grist o Gaernarfon. Y gyrchfan nesaf mae'n fwy na thebyg oedd eglwys hynafol Llanfaglan, ar lannau'r [[Y Foryd|Foryd]], gyda'i ffynnon sanctaidd gerllaw. Roedd yr eglwys hon wedi'i chysegru i Sant Baglan, brawd i'r Abad Lleuddad, ail abad Enlli. Wrth i'r pererinion droedio ymhellach i'r gorllewin deuent ymhen tipyn i [[Betws Gwernrhiw|Gapel Betws]]. Roedd hwn o fewn yr hyn sydd bellach yn [[Parc Glynllifon|Barc Glynllifon]] a dim ond ychydig o'i sylfeini sydd i'w gweld bellach. Gerllaw roedd hosbis a fyddai'n cynnig llety ac ymgeledd i'r pererinion - amryw ohonynt mae'n fwy na thebyg yn oedrannus a gwael. Cafodd yr adeilad hwn ei dro'i dafarn ac yna'n ffermdy yn ddiweddarach. Dywedir fod [[Plas Newydd, Llandwrog|Plas Newydd]] ger [[Glynllifon]] ar safle adeiladau hŷn a elwid yn "Mynachdy" ar un cyfnod - gan awgrymu fod yno faenor a oedd yn eiddo i fynachlog Sistersiaidd.  

Ymhen rhyw dair milltir wedyn byddai'r pererinion yn cyrraedd [[Clas ac Abaty Sant Beuno|eglwys a chlas pwysig Beuno Sant]] yng Clynnog Fawr|Nghlynnog Fawr]], lle byddent yn sicr o aros am dipyn ar eu taith. Bu cwlt [[Sant Beuno|Beuno]] yn eithriadol bwysig am ganrifoedd ac fe'i hystyrid mewn gwirionedd yn nawdd-sant Gogledd Cymru. Byddent yn ymweld â bedd Beuno yng [[Capel Beuno|Nghapel Beuno]], a hefyd â [[Ffynnon Beuno]] gerllaw, gyda rhai cleifion yn mynd i orwedd ar y bedd dros nos ar ôl ymdrochi yn y ffynnon i geisio iachâd. (Gweler yr erthyglau yn '''Cof y Cwmwd''' ar [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|eglwys]] a [[Clas ac Abaty Sant Beuno|chlas]] Clynnog Fawr, a [[Ffynnon Beuno]].) Yn ddi-os, cyfrannodd cyfraniadau'r pererinion at y gost o godi'r eglwys ysblennydd a welir yng Nghlynnog o hyd.   

Llinell 14: Llinell 14:

[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Llwybrau]]
[[Categori:Llwybrau hamdden]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:12, 4 Chwefror 2021

Mae'r traddodiad o ddilyn Llwybr y Pererinion ar draws Gogedd Cymru yn hen iawn.

Am ganrifoedd lawer roedd mynd ar bererindod i fannau o bwysigrwydd ac arwyddocâd crefyddol yn rhan bwysig o fywyd crefyddol Cymru, fel yr oedd trwy wledydd Ewrop i gyd. Er i'r arfer gael ei gondemnio, a cheisio'i ddiddymu, yn dilyn y Diwygiad Protestannaidd, eto goroesodd i ryw raddau, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd unwaith eto mewn mynd ar bererindodau o'r fath.

Un o'r prif gyrchfannau i bererinion yng Nghymru oedd Ynys Enlli, oddi ar ben eithaf penrhyn Llŷn. Yn y cyfnod Pabyddol roedd tair pererindod i Enlli yn gyfwerth ag un i Rufain. Roedd dau brif lwybr i'r pererinion a gyrchai i Enlli. Roedd y llwybr deheuol yn dilyn arfordir Ceredigion a Meirionnydd, gan groesi'r Traeth Mawr wedyn i Eifionydd ac ymlaen drwy Lanystumdwy, Pwllheli, Llanbedrog a Llanengan cyn cyrraedd Aberdaron ac yna croesi'r Swnt i Enlli o Borth Meudwy.

Roedd rhan sylweddol o'r llwybr gogleddol wedyn yn mynd drwy gwmwd Uwchgwyrfai. Byddai llawer o bererinion y llwybr gogleddol hwn yn cychwyn ar eu taith o eglwys gadeiriol Deiniol Sant ym Mangor. O Fangor credir bod llawer ohonynt yn dilyn y ffordd dros Fynydd Bangor ac yna ymlaen dros Bont Caerhun a thrwy Pentir, ac ymlaen i eglwys Sant Peblig ar gyrion Caernarfon, eglwys a oedd yn gartref i'r cerflun crog enwog o Grist, a elwid yn Grist o Gaernarfon. Y gyrchfan nesaf mae'n fwy na thebyg oedd eglwys hynafol Llanfaglan, ar lannau'r Foryd, gyda'i ffynnon sanctaidd gerllaw. Roedd yr eglwys hon wedi'i chysegru i Sant Baglan, brawd i'r Abad Lleuddad, ail abad Enlli. Wrth i'r pererinion droedio ymhellach i'r gorllewin deuent ymhen tipyn i Gapel Betws. Roedd hwn o fewn yr hyn sydd bellach yn Barc Glynllifon a dim ond ychydig o'i sylfeini sydd i'w gweld bellach. Gerllaw roedd hosbis a fyddai'n cynnig llety ac ymgeledd i'r pererinion - amryw ohonynt mae'n fwy na thebyg yn oedrannus a gwael. Cafodd yr adeilad hwn ei dro'i dafarn ac yna'n ffermdy yn ddiweddarach. Dywedir fod Plas Newydd ger Glynllifon ar safle adeiladau hŷn a elwid yn "Mynachdy" ar un cyfnod - gan awgrymu fod yno faenor a oedd yn eiddo i fynachlog Sistersiaidd.

Ymhen rhyw dair milltir wedyn byddai'r pererinion yn cyrraedd eglwys a chlas pwysig Beuno Sant yng Clynnog Fawr|Nghlynnog Fawr]], lle byddent yn sicr o aros am dipyn ar eu taith. Bu cwlt Beuno yn eithriadol bwysig am ganrifoedd ac fe'i hystyrid mewn gwirionedd yn nawdd-sant Gogledd Cymru. Byddent yn ymweld â bedd Beuno yng Nghapel Beuno, a hefyd â Ffynnon Beuno gerllaw, gyda rhai cleifion yn mynd i orwedd ar y bedd dros nos ar ôl ymdrochi yn y ffynnon i geisio iachâd. (Gweler yr erthyglau yn Cof y Cwmwd ar eglwys a chlas Clynnog Fawr, a Ffynnon Beuno.) Yn ddi-os, cyfrannodd cyfraniadau'r pererinion at y gost o godi'r eglwys ysblennydd a welir yng Nghlynnog o hyd.

Wrth barhau ymlaen ar eu taith o Glynnog byddai'r pererinion ymhen rhyw dair milltir yn wynebu tri chopa'r Eifl, ond ni rwystrai hynny eu llwybr ymlaen at Enlli. Gallent fynd yn syth dros Fwlch yr Eifl (sydd rhwng y copa canol - y Garn Ganol - a'r copa agosaf i'r môr - Garnfor) ac yna ymlaen dros y llechweddau sydd uwchlaw Llithfaen ac i lawr wedyn at eglwys Pistyll. Neu gallent wyro dipyn oddi ar y ffordd uniongyrchol a mynd am Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn. Pan adnewyddwyd yr eglwys honno ym 1892 darganfuwyd graffiti a wnaed gan bererinion ar ei muriau ac mae dwy garreg Gristnogol gynnar yno hefyd - Carreg Aliortus o fewn yr eglwys a Charreg Melitus yn y fynwent. Gerllaw hefyd mae Ffynnon Aelhaearn, y credid bod ganddi nodweddion iachusol yn ogystal â dŵr hynod bur. Gallai'r pererinion wedyn anelu ar hytraws am Fwlch yr Eifl, ond dichon bod llawer hefyd yn mynd yn syth yn eu blaenau i fyny'r allt o Ffynnon Aelhaearn, gyda gwaelod Mynydd Ceiri a thrwy Fwlch Siwncwl ac ymlaen i Lŷn.[1]

Cyfeiriadau

  1. Am ragor o wybodaeth gweler Terry John a Nona Rees, Pilgrimage - A Welsh Perspective, tt.151-57