Dinas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Dinas''' yn enw ar gasgliad o dai o amgylch eglwys Llanwnda. Enwyd y pentrefan hwn, mae'n debyg, ar ôl fferm y Dinas gerllaw, a Plas Dinas...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Dinas''' yn enw ar gasgliad o dai o amgylch eglwys [[Llanwnda]]. Enwyd y pentrefan hwn, mae'n debyg, ar ôl fferm y Dinas gerllaw, a [[Plas Dinas]], hen gartref y Buckeleyaid ac wedyn teulu Armstrong-Jones. Yma y mae pencadlys lleol Dŵr Cymru, ac ar un adeg dyma lle roedd depo Adran Priffyrdd y Cyngor Sir, a'r Bwrdd Afonydd. Dyma hefyd safle [[Gorsaf reilffordd Dinas]] ar lein [[Rheilffordd Eryri]]. Dyma lle gychwynnodd lein [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]], ac roedd cyfleusterau yma i newid trenau o'r lein fawr i'r lein fach. Mae Ystafell yr Eglwys ar yr allt i lawr o'r ffordd fawr i Ddinas ei hun lle cynhaliwyd digwyddiadau a lle'r oedd yr orsaf bleidleisio nes i [[Canolfan Felinwnda|Ganolfan Felinwnda]] agor ar ddechrau'r ganrif. Erbyn hyn mae'r adeilad wedi cau.
Mae '''Dinas''' yn enw ar gasgliad o dai o amgylch eglwys [[Llanwnda]], gan gynnwys rhes o fythynnod sy'n ffurfio dwy ochr o sgwâr. Enwyd y pentrefan hwn, mae'n debyg, ar ôl fferm y Dinas gerllaw, a [[Plas Dinas]], hen gartref y Buckeleyaid ac wedyn teulu Armstrong-Jones. Dyma hefyd safle [[Gorsaf reilffordd Dinas]] ar lein [[Rheilffordd Eryri]]. Dyma lle gychwynnodd lein [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]], ac roedd cyfleusterau yma i newid trenau o'r lein fawr i'r lein fach. Mae'n debyg mai oherwydd i'r rheilffyrdd a'r ystâd gyflogi nifer o ddynion y tyfod y casgliad o dai yn y fan hon. Erbyn hyn mae ddwy ystad fechan o dai mwy newydd yma hefyd.
 
Yma y mae pencadlys lleol Dŵr Cymru, ac ar un adeg dyma lle roedd depo Adran Priffyrdd y Cyngor Sir, a'r Bwrdd Afonydd.
 
Mae Ystafell yr Eglwys ar yr allt i lawr o'r ffordd fawr i Ddinas ei hun lle cynhaliwyd digwyddiadau a lle'r oedd yr orsaf bleidleisio nes i [[Canolfan Felinwnda|Ganolfan Felinwnda]] agor ar ddechrau'r ganrif. Erbyn hyn mae'r adeilad wedi cau.
 
Yma yr oedd cartref y gweinidog a'r awdur, y Parch [[Gareth Maelor]].  


{{eginyn}}
{{eginyn}}


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:56, 12 Ebrill 2018

Mae Dinas yn enw ar gasgliad o dai o amgylch eglwys Llanwnda, gan gynnwys rhes o fythynnod sy'n ffurfio dwy ochr o sgwâr. Enwyd y pentrefan hwn, mae'n debyg, ar ôl fferm y Dinas gerllaw, a Plas Dinas, hen gartref y Buckeleyaid ac wedyn teulu Armstrong-Jones. Dyma hefyd safle Gorsaf reilffordd Dinas ar lein Rheilffordd Eryri. Dyma lle gychwynnodd lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, ac roedd cyfleusterau yma i newid trenau o'r lein fawr i'r lein fach. Mae'n debyg mai oherwydd i'r rheilffyrdd a'r ystâd gyflogi nifer o ddynion y tyfod y casgliad o dai yn y fan hon. Erbyn hyn mae ddwy ystad fechan o dai mwy newydd yma hefyd.

Yma y mae pencadlys lleol Dŵr Cymru, ac ar un adeg dyma lle roedd depo Adran Priffyrdd y Cyngor Sir, a'r Bwrdd Afonydd.

Mae Ystafell yr Eglwys ar yr allt i lawr o'r ffordd fawr i Ddinas ei hun lle cynhaliwyd digwyddiadau a lle'r oedd yr orsaf bleidleisio nes i Ganolfan Felinwnda agor ar ddechrau'r ganrif. Erbyn hyn mae'r adeilad wedi cau.

Yma yr oedd cartref y gweinidog a'r awdur, y Parch Gareth Maelor.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma