Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir y 13 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Map degwm Pen-y-groes.jpg|de|bawd|400px|Y Map Degwm yn dangos pentref Pen-y-groes ym 1840]] | [[Delwedd:Map degwm Pen-y-groes.jpg|de|bawd|400px|Y Map Degwm yn dangos pentref Pen-y-groes ym 1840]] | ||
'''Pen-y-groes''' yw'r pentref mwyaf yn ardal [[Dyffryn Nantlle]]. Yn wir, dyma'r gymuned fwyaf yn holl gwmwd [[Uwchgwyrfai]] ers iddi ddatblygu yn ystod ail hanner y 19g., gan adael pentref bychan hynaf y plwyf, sef [[Llanllyfni]] yn ei chysgod. Bu sôn am bentref yn Llanllyfni ers yr 17g., a dyna lle'r oedd [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|eglwys y fro]] a lle cynhelid [[Ffair Llanllyfni|ffair]] ers canrifoedd - a lle'r oedd y nifer fwyaf o [[Tafarndai Llanllyfni|dafarnau]]'r dyffryn! Er i lawer o chwarelwyr fyw ym Mhen-y-groes pan oedd chwareli'r dyffryn ar eu hanterth, roedd Pen-y-groes y tu allan i ardal ddaearyddol y llechfaen, a gwasanaethodd y pentref fel canolfan fasnachol y dyffryn, ac yn y man fe ddatblygodd fel prif leoliad siopau'r dyffryn, a chartref nifer o greffwyr a mân ddiwydiannau. Roedd (ac y mae) chwarel tywod a gro ar gyrion y pentref. | |||
Ceir darlun cyfoes gwych o'r pentref pan oedd yn tyfu yn nisgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes, o'i lyfr ''Hen Atgofion am Ben-y-groes''. Mae rhan o'r llyfr yn disgrifio'r pentref tua 1870 wedi ei atgynhyrchu yn '''Cof y Cwmwd''' a gellir ei ddarllen trwy glicio [[Disgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes tua 1870|yma]]. | |||
==Datblygiad y pentref== | |||
Mae'n debyg mai enw ar fferm neu dyddyn oedd Pen-y-groes i ddechrau, gyda'r enw yn disgrifio'r lleoliad ger y groesffordd rhwng y lôn fawr o Gaernarfon i Benmorfa a lôn a redai o gyfeiriad y môr ger [[Pontlyfni]] i ben pellaf [[Dyffryn Nantlle]]. Yn ôl yr hanesydd William Hobley, "Tua diwedd y ddeunewfed ganrif nid oedd yma namyn un tŷ tô gwellt, a gelwid ef yn Pen y groes, am ei fod wedi ei adeiladu gerllaw croesffordd. Erbyn dechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd yma dri o dai yn y fan a elwid wedi hynny yn Heol yr Efail, ac un tŷ go helaeth, a berchnogid ac a breswylid gan John Edwards, gŵr crefyddol."<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.295</ref> Un o'r cyfeiriadau cyntaf at Ben-y-groes yw nodyn ym mhapurau Llys Chwarter y sir ym 1813, lle rhwymwyd Morgan Roberts, iwmon (sef ffermwr gweddol gefnog) o Ben-y-groes i gadw'r heddwch wedi ffrae rhwng rhai o ddynion y dyffryn.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1813/15/80</ref> Nid oedd y "North Wales Gazette" yn sicr o enw'r ardal ym 1825, wrth gyhoeddi enillwyr gwobrau amaethyddol: ''To William Jones, Penygroes or Llwynddu, in the parish of Llanllvfni, a tenant of Sir Joseph Huddart, for reclaiming and improving 10 Acres of uncommon rough uncultivated land and bringing the same, through good management and persevering industry, into a good state of tillage — JUSTLY entitled to the reward.— A premium of 5 Guineas''.<ref>''North Wales Gazette'', 1.9.1825, t.1</ref> | |||
Ar y groesffordd, neu gerllaw iddi, yr oedd tafarn, y "Pen-y-groes Inn" erbyn y 1820au, gan fod cyfeiriad ati ym 1829 fel man aros i deithwyr answyddogol ar [[Rheilffordd Nantlle|Reilffordd Nantlle]] a oedd wedi agor ym 1828.<ref>''The Memoirs of Samuel Holland'', (Dolgellau, 1952),</ref> Safai'r dafarn (a elwid yn [[Tafarn y Stag, Pen-y-groes|Tafarn y Stag]] yn swyddogol) ar y groesffordd lle mae [[Yr Orsaf]] heddiw, sef yr hen [[Siop Griffiths]]. Roedd hi'n gwasanaethu fel man cyfleus i deithwyr ar eu siwrne ar hyd Dyffryn Nantlle neu rhwng Caernarfon ac Eifionydd. Gan fod Rheilffordd Nantlle yn croesi'r ffordd dyrpeg yn yr un fan, dichon i bentref bach ddechrau ymffurfio, fel y digwyddodd yn achos pentref [[Y Groeslon]]. Serch hynny, mae'r map degwm yn dangos cyn lleied o dai oedd wrth y groesffordd erbyn 1840. Wrth astudio'r map, a'r rhestr o'r daliadau tir sydd ynghlwm wrtho<ref>LlGC, Map Degwm a Rhestr Bennu plwyf Llanllyfni, 1840</ref>, gellir cael gwell argraff o'r pentref yn ei ddyddiau cynnar. | |||
Wedi i Reilffordd Nantlle gyrraedd ym 1828, fe ddechreuodd y pentref dyfu o amgylch croesfan y trac. Gwelir llinell y rheilffordd ar y map degwm ar y dde, yn croesi canol y map o'r chwith i'r dde. Erbyn 1840 roedd o leiaf dwy dafarn a dau ddwsin neu fwy o dai bach sâl eu cyflwr yno, a ddisgrifir fel "poor cottages", a nifer wedi eu codi ar dir [[Ystad Bryncir]]. Y rhes hir ar ochr y lôn fawr i gyfeiriad Caernarfon yw tai Treddafydd, a godwyd tua 1835 gan Robert Williams, teiliwr y pentref. Ychydig cyn hynny, ym 1830, roedd capel Wesle wedi ei godi yn Nhreddafydd hefyd, ac roedd cynulleidfa gymysg o Fethodistiaid ac Annibynwyr yn cwrdd mewn tŷ ger y Stag's Head hefyd yn yr 1830au. Wrth y groesfan reilffordd yr oedd seidins a warws y lein, a ffynnon y pentref.<ref>Owen Owen, ''Hen Atgofion am Ben-y-groes''</ref> | |||
Cynyddodd y pentref yn raddol tan yr 1860au, pan godwyd llawer o'r tai presennol a siopau yn agor. Codwyd capeli newydd gan y pedwar enwad, ond rhaid oedd i eglwyswyr ddisgwyl tan 1889 cyn codi [[Eglwys Crist, Pen-y-groes]]; cyn hynny, rhaid oedd ymlwybro tua [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|Llanllyfni]] ar y Sul. Er bod rheilffordd leol Nantlle a ddefnyddai ceffylau i dynnu'r trenau wedi bod yn rhedeg ers 1828, chafodd y pentref mo'i gysylltu â rhwydwaith rheilffyrdd y wlad tan 1867 pan agorwyd [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|gorsaf]] ar linell [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]]. Golygai hyn bod modd derbyn nwyddau o bell a'u danfon ar hyd cledrau'r cwmnïau mawr; yn sicr bu hyn yn ffactor mawr yn natblygiad y pentref fel prif ganolfan a chyrchfan y dyffryn.<ref>W.G.Rear, ''LMS Branches in North Wales..'', Cyf.I (Wild Swan, 1986), t.81</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Pentrefi a threflannau]] | [[Categori:Pentrefi a threflannau]] | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:08, 3 Rhagfyr 2025

Pen-y-groes yw'r pentref mwyaf yn ardal Dyffryn Nantlle. Yn wir, dyma'r gymuned fwyaf yn holl gwmwd Uwchgwyrfai ers iddi ddatblygu yn ystod ail hanner y 19g., gan adael pentref bychan hynaf y plwyf, sef Llanllyfni yn ei chysgod. Bu sôn am bentref yn Llanllyfni ers yr 17g., a dyna lle'r oedd eglwys y fro a lle cynhelid ffair ers canrifoedd - a lle'r oedd y nifer fwyaf o dafarnau'r dyffryn! Er i lawer o chwarelwyr fyw ym Mhen-y-groes pan oedd chwareli'r dyffryn ar eu hanterth, roedd Pen-y-groes y tu allan i ardal ddaearyddol y llechfaen, a gwasanaethodd y pentref fel canolfan fasnachol y dyffryn, ac yn y man fe ddatblygodd fel prif leoliad siopau'r dyffryn, a chartref nifer o greffwyr a mân ddiwydiannau. Roedd (ac y mae) chwarel tywod a gro ar gyrion y pentref.
Ceir darlun cyfoes gwych o'r pentref pan oedd yn tyfu yn nisgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes, o'i lyfr Hen Atgofion am Ben-y-groes. Mae rhan o'r llyfr yn disgrifio'r pentref tua 1870 wedi ei atgynhyrchu yn Cof y Cwmwd a gellir ei ddarllen trwy glicio yma.
Datblygiad y pentref
Mae'n debyg mai enw ar fferm neu dyddyn oedd Pen-y-groes i ddechrau, gyda'r enw yn disgrifio'r lleoliad ger y groesffordd rhwng y lôn fawr o Gaernarfon i Benmorfa a lôn a redai o gyfeiriad y môr ger Pontlyfni i ben pellaf Dyffryn Nantlle. Yn ôl yr hanesydd William Hobley, "Tua diwedd y ddeunewfed ganrif nid oedd yma namyn un tŷ tô gwellt, a gelwid ef yn Pen y groes, am ei fod wedi ei adeiladu gerllaw croesffordd. Erbyn dechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd yma dri o dai yn y fan a elwid wedi hynny yn Heol yr Efail, ac un tŷ go helaeth, a berchnogid ac a breswylid gan John Edwards, gŵr crefyddol."[1] Un o'r cyfeiriadau cyntaf at Ben-y-groes yw nodyn ym mhapurau Llys Chwarter y sir ym 1813, lle rhwymwyd Morgan Roberts, iwmon (sef ffermwr gweddol gefnog) o Ben-y-groes i gadw'r heddwch wedi ffrae rhwng rhai o ddynion y dyffryn.[2] Nid oedd y "North Wales Gazette" yn sicr o enw'r ardal ym 1825, wrth gyhoeddi enillwyr gwobrau amaethyddol: To William Jones, Penygroes or Llwynddu, in the parish of Llanllvfni, a tenant of Sir Joseph Huddart, for reclaiming and improving 10 Acres of uncommon rough uncultivated land and bringing the same, through good management and persevering industry, into a good state of tillage — JUSTLY entitled to the reward.— A premium of 5 Guineas.[3]
Ar y groesffordd, neu gerllaw iddi, yr oedd tafarn, y "Pen-y-groes Inn" erbyn y 1820au, gan fod cyfeiriad ati ym 1829 fel man aros i deithwyr answyddogol ar Reilffordd Nantlle a oedd wedi agor ym 1828.[4] Safai'r dafarn (a elwid yn Tafarn y Stag yn swyddogol) ar y groesffordd lle mae Yr Orsaf heddiw, sef yr hen Siop Griffiths. Roedd hi'n gwasanaethu fel man cyfleus i deithwyr ar eu siwrne ar hyd Dyffryn Nantlle neu rhwng Caernarfon ac Eifionydd. Gan fod Rheilffordd Nantlle yn croesi'r ffordd dyrpeg yn yr un fan, dichon i bentref bach ddechrau ymffurfio, fel y digwyddodd yn achos pentref Y Groeslon. Serch hynny, mae'r map degwm yn dangos cyn lleied o dai oedd wrth y groesffordd erbyn 1840. Wrth astudio'r map, a'r rhestr o'r daliadau tir sydd ynghlwm wrtho[5], gellir cael gwell argraff o'r pentref yn ei ddyddiau cynnar.
Wedi i Reilffordd Nantlle gyrraedd ym 1828, fe ddechreuodd y pentref dyfu o amgylch croesfan y trac. Gwelir llinell y rheilffordd ar y map degwm ar y dde, yn croesi canol y map o'r chwith i'r dde. Erbyn 1840 roedd o leiaf dwy dafarn a dau ddwsin neu fwy o dai bach sâl eu cyflwr yno, a ddisgrifir fel "poor cottages", a nifer wedi eu codi ar dir Ystad Bryncir. Y rhes hir ar ochr y lôn fawr i gyfeiriad Caernarfon yw tai Treddafydd, a godwyd tua 1835 gan Robert Williams, teiliwr y pentref. Ychydig cyn hynny, ym 1830, roedd capel Wesle wedi ei godi yn Nhreddafydd hefyd, ac roedd cynulleidfa gymysg o Fethodistiaid ac Annibynwyr yn cwrdd mewn tŷ ger y Stag's Head hefyd yn yr 1830au. Wrth y groesfan reilffordd yr oedd seidins a warws y lein, a ffynnon y pentref.[6]
Cynyddodd y pentref yn raddol tan yr 1860au, pan godwyd llawer o'r tai presennol a siopau yn agor. Codwyd capeli newydd gan y pedwar enwad, ond rhaid oedd i eglwyswyr ddisgwyl tan 1889 cyn codi Eglwys Crist, Pen-y-groes; cyn hynny, rhaid oedd ymlwybro tua Llanllyfni ar y Sul. Er bod rheilffordd leol Nantlle a ddefnyddai ceffylau i dynnu'r trenau wedi bod yn rhedeg ers 1828, chafodd y pentref mo'i gysylltu â rhwydwaith rheilffyrdd y wlad tan 1867 pan agorwyd gorsaf ar linell Rheilffordd Sir Gaernarfon. Golygai hyn bod modd derbyn nwyddau o bell a'u danfon ar hyd cledrau'r cwmnïau mawr; yn sicr bu hyn yn ffactor mawr yn natblygiad y pentref fel prif ganolfan a chyrchfan y dyffryn.[7]
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t.295
- ↑ Archifdy Caernarfon, XQS/1813/15/80
- ↑ North Wales Gazette, 1.9.1825, t.1
- ↑ The Memoirs of Samuel Holland, (Dolgellau, 1952),
- ↑ LlGC, Map Degwm a Rhestr Bennu plwyf Llanllyfni, 1840
- ↑ Owen Owen, Hen Atgofion am Ben-y-groes
- ↑ W.G.Rear, LMS Branches in North Wales.., Cyf.I (Wild Swan, 1986), t.81