Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Capel Methodistaidd ym mhentref Dinas, Llanwnda yw '''Capel Glanrhyd, Llanwnda (MC)'''. Credir i'r Capel ei chodi yn dilyn cyfnod o angen mawr y...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Capel Methodistaidd ym mhentref [[Dinas]], [[Llanwnda]] yw '''Capel Glanrhyd, Llanwnda (MC)'''.  
Capel Methodistaidd ym mhentref [[Dinas]], [[Llanwnda]] yw '''Capel Glan-rhyd''', a agorwyd ym 1899.


Credir i'r Capel ei chodi yn dilyn cyfnod o angen mawr yn y pentref i gael addoldy ar wahan i bobl Dinas a Llanwnda. Cafwyd y caniatâd i godi'r Capel tua 1897, ac erbyn 1899 roedd wedi ei chwblhau. Holl gôst adeiladu'r Capel oedd £2,800. Agorwyd y Capel yn swyddogol ar Gorffennaf 6ed 1899<ref>[http://newspapers.library.wales/view/3603906/3603911/43/ Adroddiad papur newydd o 1898 yn adrodd hanes yr adeiladu.]</ref><ref>Hobley, W. ''Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog'' (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 346-347</ref>.
Erbyn y 1890au, roedd ardal Glan-rhyd a Llanwnda, a oedd cyn hynny'n ddim mwy na lleoliad fferm neu ddwy a thai [[Tan-cefn]] yn datblygu gyda mwy o dai’n cael eu codi, megis Rhes Glan-rhyd a Rhes Gwelfor yn Llanwnda. Roedd yr ardal yn dod yn fwy poblog, a doedd [[Ysgoldy Graeanfryn (MC)]]  a oedd wedi gwasanaethu fel ysgol Sul a man cynnal oedfaon pnawn Sul bellach mewn cyflwr da ac yn sicr yn rhy fach.
#
Cafodd swyddogion Graeanfryn, sef Robert Griffith (Garth), David Williams (Gadlys) a William Griffith (Maen Gwyn),  wahoddiad draw i blasty newydd Gwylfa rywbryd ar ddechrau 1897 i gwrdd â’r perchennog, gŵr o’r enw [[Thomas Williams, Gwylfa]] a oedd yn flaenor yng [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog|Nghapel Bwlan]]. Roedd yn awyddus i weld codi capel newydd yn lle’r hen ysgoldy a hynny mewn man cyfleus. Cyfarfod byr a phwrpasol oedd yno, Thomas Williams yn siarad, a’r lleill yn gwrando. Byddai’n fodlon helpu i godi’r arian angenrheidiol, meddai, a rhoi plot o dir. Hynny ar ddwy amod: 'fyddai ysgoldy Graeanfryn ddim yn parhau i gael ei ddefnyddio; ac nad oedd neb i ddefnyddio’r capel newydd fel siambr sorri (i ddefnyddio ei eiriau ef). Roedd y tri swyddog wrth eu bodd: yng ngeiriau David Williams, “felly yr oeddem yn mynd gartref y noson honno yn llawen”.  Trafodwyd y cynllun y Sul wedyn gyda chynulleidfa Graeanfryn, a phawb yn cyd-lawenhau’n unfrydol. Nid felly pawb yn eglwysi eraill y cylch, fodd bynnag. Roedd [[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon|Capel Brynrhos]] (a agorwyd ym 1880) wedi dwyn talp o aelodaeth [[Capel Bryn'rodyn  (MC)|Capel Bryn'rodyn]], a dyma fygythiad arall i nifer aelodau’r achos. Teimlai rai yn y Bwlan, [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan|Horeb (Rhostryfan)]] a’r Bontnewydd yr un fath. Gwgu’n ddistaw oedd yr amheuwyr, yn ôl David Williams, ond roedd hi’n angenrheidiol perswadio’r cyfarfod misol bod angen capel newydd. Anfonodd y Cyfarfod hwnnw ddau gennad i drafod y syniad, a  thrwy lwc, dau ddyn call a chymedrol a gaed, sef y Parch D Williams, Cwm-y-glo, ac [[Evan Jones, Plas Dolydd]], blaenor ym Mryn’rodyn a chontractwr lleol. Cwrddant â chynrychiolwyr Graeanfryn (a oedd, rhaid cofio, yn aelodau o achos Bryn’rodyn) a rhai o’r brif eglwys, sef Bryn’rodyn ei hun. Ewyllys da, a synnwyr cyffredin enillodd y dydd (ar y wyneb o leiaf), ac yn y man, bwriwyd ati gyda’r cynlluniau, gyda sêl bendith y Cyfarfod Misol oedd yn gweld digon o gyfiawnhad dros gapel newydd fel “asgellaid” o eglwys Bryn’rodyn.
 
Tra oedd trafodaethau’n dal ymlaen o un cyfarfod misol i’r nesaf yn ystod 1897, gyda’r gwrthwynebwyr, mae’n debyg, yn codi rhai anawsterau, roedd pwyllgor bach o swyddogion yn trafod trefniadau ar gyfer y capel newydd. Gofynnwyd i Mr Evan Evans, syrfëwr y sir a phensaer yng Nghaernarfon, i wneud cynllun am gapel gyda festri fach yn y cefn. Roedd gwraig Thomas Williams o’r farn y byddai tŵr pigfain yn ychwanegu at harddwch y lle, ac fe gynigiodd hi £200 at y gost ychwanegol.
 
Galwyd wedyn am dendrau gan gontractwyr. Er i’r contractwr lleol, Evan Jones, Dolydd roi tendr i mewn, roedd ei bris yn uwch o dipyn na Jones ac Owen o’r Ffor, ac fe benderfynwyd ar eu cwmni nhw. Y pris oedd £2106.10.0, a £41.10.0 yn ychwanegol am osod galeri yn yr adeilad. Yn arian heddiw, fyddai hynny ychydig dros £230,000. Roedd Thomas Williams a’i wraig rhyngddynt wedi addo dros hanner y gost, sef £1200. Cychwynnwyd ar y gwaith yn ystod ail hanner 1898 ac erbyn yr haf canlynol roedd y capel yn barod. Roedd y cerrig nadd wedi dod o [[Chwarel Trefor]] a’r cerrig rwbel ar gyfer y waliau mewnol wedi eu cloddio o un o gaeau’r [[Gadlys]] dros ffordd i’r [[Y Bryn|Bryn]].
 
Rhaid holi ble oedd Thomas Williams, y prif noddwr, am weld codi’r capel newydd? Yn ddistaw bach, roedd eisoes wedi prynu Cae Mawr, lle saif y capel heddiw, a hynny ym 1897, er mwyn sicrhau safle strategol i'r capel newydd. Dyw safle Graeanfryn brin dau led cae oddi wrth Gwylfa, cartref Thomas Williams - ond mae dau led cae’n wahanol iawn os nad oes ffordd ar eu traws! Roedd Cae Mawr, ar y llaw arall ,â manteision amlwg o ran lleoliad. Roedd y cae mewn man hwylus ar y lôn bost, lle'r oedd nifer o ffyrdd yn cwrdd. Gallai rhywun  ei chyrraedd ar hyd ffyrdd (yn hytrach na llwybrau mwdlyd) o bob cyfeiriad yn y cyffiniau: o gyfeiriad Dinas, o’r ffermydd tua [[Rhos-isaf]] a’r [[Dolydd]], tai Tan-cefn ac ar hyd lôn Pwllheli, a draw am y Parc a [[Rhedynogfelen]]. Rhaid oedd i gapel newydd fod yn ddigon pell oddi wrth unrhyw gapel Methodist arall. Hefyd, yr oedd tai newydd yng Nglan-rhyd, ac roedd cartrefi’r tri swyddog, Gadlys, Garth a Maen Gwyn nid nepell o Glan-rhyd. Tybed hefyd oedd yr haelionus Thomas Williams yn ystyried mai cwta hanner milltir ar hyd ffordd iawn oedd ei gartref fo o’r llecyn a gynigiodd. Hawdd fyddai iddo fo a Mrs Williams gyrraedd y capel newydd mewn steil gyda cheffyl a thrap.
Holl gost adeiladu'r capel oedd £2,800. Fe'i hagorwyd yn swyddogol ar Gorffennaf 6ed 1899<ref>[http://newspapers.library.wales/view/3603906/3603911/43/ Adroddiad papur newydd o 1898 yn adrodd hanes yr adeiladu.]</ref><ref>Hobley, W. ''Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog'' (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 346-347</ref>.
 
Dewch i ni yn awr droi’n ôl at y capel ei hun. Mae digon o le yma ar gyfer cynulleidfa o 300, ond ar ôl i gynulleidfa Graeanfryn a nifer o aelodau Bryn’rodyn symud yma, ynghyd â rhai o Horeb a Bontnewydd, roedd cyfanswm o 82 o aelodau cyflawn, a 39 o blant. Roedd 113 ar lyfrau’r ysgol Sul. Ond yr oedd dyled o £500 yn aros ar yr adeilad. Denwyd nifer gan ei fod mewn man cyfleus, ac eraill oherwydd harddwch yr adeilad: “quite an ornament in the village” oedd dyfarniad y Caernarfon and Denbigh Herald. Byddai rhywun yn disgwyl gweld sôn am y capel newydd yn y ''Goleuad'' neu’r ''Drysorfa'' ond ni cheir yr un gair amdano - hynny, ym marn un sylwebydd wedyn, oherwydd cenfigen a’r ffaith yr ystyriwyd Glan-rhyd fel “capel y bobl fawr”. Efallai bod hynny’n wir i raddau. Yn ''Adroddiad Casgliad yr Ugeinfed Ganrif'', enwir 39 o aelodau Glan-rhyd a gyfrannodd. Yn y rhestr honno gwelir enwau ffermwyr sylweddol, preswylwyr tai sylweddol a rhai oedd yn byw yn rhesdai newydd Glan-rhyd a Llanwnda - a chyfrannodd Glan-rhyd fwy nag odid un o gapeli eraill y cylch.
 
Un diffyg mawr yn yr adeilad oedd cyfrwng gwresogi, ac ym 1907 galwyd am dendrau i godi “heating chamber”, a nodwyd bod y planiau i’w gweld yn y tŷ capel. Gan nad oes tŷ ynghlwm wrth yr adeilad, rhaid mai un o dai Glan-rhyd a ddefnyddid fel tŷ capel. Roedd y Cyfarfod Misol i’w gynnal yng Nglan-rhyd am y tro cyntaf fis Mehefin 1908 - tybed a oedd ‘na ofn y byddai’r Saint yn oer!
 
Fel yn hanes Capel Pen-y-graig, Llanfaglan (MC), gadawodd Thomas Williams ddyled i’r capel ei dalu. Roedd ei weddw’n weithgar iawn yn ceisio hel cyfraniadau am flynyddoedd – nid oedd yn help efallai fod pawb yn gwybod bod ganddi ddigon o bres i dalu’r gweddill ei hun. Erbyn 1916 pan aed ati i glirio’r ddyled, roedd £500 yn dal ar ôl allan o’r gost derfynol o £2800,
 
Yn anffodus, nid yw cofnodion cynnar y capel ar gael yn y mannau arferol er mwyn gweld hanes cyflawn gweithgareddau’r blynyddoedd cynnar, ond cawn ambell i gip yn y papurau newydd sydd yn dangos eglwys weithgar. Roedd Mr a Mrs [[R. Gwyneddon Davies]], Graeanfryn, ymysg yr arweinwyr, a threfnodd Mrs Davies bartïon gweu i wneud dillad i’r milwyr yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Tua’r un adeg, cynhaliwyd perfformiadau blynyddol gan Gôr Glan-rhyd dan faton J.E. Williams, [[Swyddfa Post Llanwnda]]. Perfformiwyd y cantata “Bugeiliaid Bethlehem” fis Mawrth 1917 - er mai braidd yn hwyr oedd hi ar gyfer y darn penodol hwnnw!
 
Yn nes ymlaen yn y ganrif, ffurfiwyd cymdeithas lenyddol y capel ac erbyn y 1950au, roedd yna gydbwyllgor rhwng y gymdeithas lenyddol honno a chymdeithasau tebyg ym Mryn’rodyn a Wesleaid [[Capel Salem (W), Tŷ'nlôn|Tŷ’n Lôn]] er mwyn cynnal eisteddfod flynyddol rhwng y tri lle.
 
O ran gweinidogion,. David Williams oedd y cyntaf, gan symud yma o Fryn’rodyn. Fo a  wasanaethodd o’r cychwyn ym 1899 hyd ei farwolaeth ym 1920. Wedi hynny, rhannwyd gweinidog gyda’r fam eglwys, sef Bryn’rodyn. Y Parch Wyn Williams oedd y cyntaf, ym 1925. Bu farw ym 1936. Bu cyfnod di-weinidog wedyn tan 1941, pan ddaeth J.R. Richards yma, ac ar ei ôl o, y Parch. Owen Lloyd, o 1956 hyd ei ymddeoliad ym 1983. Rydym i gyd, mae’n debyg yn ei gofio fo, y Parch Huw Gwynfa Roberts, Jim Clarke, Deian Evans, ac yn olaf, y Parch Gwenda Richards.
 
Ymysg y blaenoriaid, bron i 40 ohonynt dros y ganrif a chwarter diwethaf, rhaid nodi Thomas Williams, William Griffith (Maengwyn), William Jones (Bodaden) a Jethro Jones (Tai Glan-rhyd) fel y rhai cyntaf. Daeth yr enw o “Gapel y Bobl Fawr” yn gynyddol anaddas - roedd y rhan fwyaf dros y cyfnod yn weithwyr neu’n amaethwyr. Efallai'r pedwar mwyaf nodedig oherwydd hyd eu gwasanaeth oedd Hugh Williams, Garth y Gro, a fu’n flaenor am 35 mlynedd o 1904; Hugh Jones, Glanrhyd Isaf 37 mlynedd hyd 1967; Mr ab Iorwerth, 30 mlynedd, Mr Lee, 37 mlynedd a Brian Jones, Glennydd dros 40 mlynedd hyd ei farwolaeth.
 
Dylid nodi Miss Edwards, Coetmor, fu’n gyfeilydd am 63 o flynyddoedd yma – ac yng nghapel Wesle Tŷ’n Lôn yr un pryd. A rhaid sôn am un teulu fu’n gwasanaethu am gan mlynedd, sef y tad a’r mab, y ddau flaenor T.R. Thomas; Mrs Doris Thomas y gyfeilyddes am tua 70 o flynyddoedd a Maldwyn Thomas mab, a draddododd y ddarlith ganmlwyddiant.
 
Mae'r capel yn dal ar agor, gyda 76 o aelodau, sef ond chwech yn llai na'r nifer o aelodau ar y cychwyn.  


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==




[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Capeli]]
[[Categori:Capeli]]
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:54, 2 Medi 2024

Capel Methodistaidd ym mhentref Dinas, Llanwnda yw Capel Glan-rhyd, a agorwyd ym 1899.

Erbyn y 1890au, roedd ardal Glan-rhyd a Llanwnda, a oedd cyn hynny'n ddim mwy na lleoliad fferm neu ddwy a thai Tan-cefn yn datblygu gyda mwy o dai’n cael eu codi, megis Rhes Glan-rhyd a Rhes Gwelfor yn Llanwnda. Roedd yr ardal yn dod yn fwy poblog, a doedd Ysgoldy Graeanfryn (MC) a oedd wedi gwasanaethu fel ysgol Sul a man cynnal oedfaon pnawn Sul bellach mewn cyflwr da ac yn sicr yn rhy fach.

Cafodd swyddogion Graeanfryn, sef Robert Griffith (Garth), David Williams (Gadlys) a William Griffith (Maen Gwyn), wahoddiad draw i blasty newydd Gwylfa rywbryd ar ddechrau 1897 i gwrdd â’r perchennog, gŵr o’r enw Thomas Williams, Gwylfa a oedd yn flaenor yng Nghapel Bwlan. Roedd yn awyddus i weld codi capel newydd yn lle’r hen ysgoldy a hynny mewn man cyfleus. Cyfarfod byr a phwrpasol oedd yno, Thomas Williams yn siarad, a’r lleill yn gwrando. Byddai’n fodlon helpu i godi’r arian angenrheidiol, meddai, a rhoi plot o dir. Hynny ar ddwy amod: 'fyddai ysgoldy Graeanfryn ddim yn parhau i gael ei ddefnyddio; ac nad oedd neb i ddefnyddio’r capel newydd fel siambr sorri (i ddefnyddio ei eiriau ef). Roedd y tri swyddog wrth eu bodd: yng ngeiriau David Williams, “felly yr oeddem yn mynd gartref y noson honno yn llawen”. Trafodwyd y cynllun y Sul wedyn gyda chynulleidfa Graeanfryn, a phawb yn cyd-lawenhau’n unfrydol. Nid felly pawb yn eglwysi eraill y cylch, fodd bynnag. Roedd Capel Brynrhos (a agorwyd ym 1880) wedi dwyn talp o aelodaeth Capel Bryn'rodyn, a dyma fygythiad arall i nifer aelodau’r achos. Teimlai rai yn y Bwlan, Horeb (Rhostryfan) a’r Bontnewydd yr un fath. Gwgu’n ddistaw oedd yr amheuwyr, yn ôl David Williams, ond roedd hi’n angenrheidiol perswadio’r cyfarfod misol bod angen capel newydd. Anfonodd y Cyfarfod hwnnw ddau gennad i drafod y syniad, a thrwy lwc, dau ddyn call a chymedrol a gaed, sef y Parch D Williams, Cwm-y-glo, ac Evan Jones, Plas Dolydd, blaenor ym Mryn’rodyn a chontractwr lleol. Cwrddant â chynrychiolwyr Graeanfryn (a oedd, rhaid cofio, yn aelodau o achos Bryn’rodyn) a rhai o’r brif eglwys, sef Bryn’rodyn ei hun. Ewyllys da, a synnwyr cyffredin enillodd y dydd (ar y wyneb o leiaf), ac yn y man, bwriwyd ati gyda’r cynlluniau, gyda sêl bendith y Cyfarfod Misol oedd yn gweld digon o gyfiawnhad dros gapel newydd fel “asgellaid” o eglwys Bryn’rodyn.

Tra oedd trafodaethau’n dal ymlaen o un cyfarfod misol i’r nesaf yn ystod 1897, gyda’r gwrthwynebwyr, mae’n debyg, yn codi rhai anawsterau, roedd pwyllgor bach o swyddogion yn trafod trefniadau ar gyfer y capel newydd. Gofynnwyd i Mr Evan Evans, syrfëwr y sir a phensaer yng Nghaernarfon, i wneud cynllun am gapel gyda festri fach yn y cefn. Roedd gwraig Thomas Williams o’r farn y byddai tŵr pigfain yn ychwanegu at harddwch y lle, ac fe gynigiodd hi £200 at y gost ychwanegol.

Galwyd wedyn am dendrau gan gontractwyr. Er i’r contractwr lleol, Evan Jones, Dolydd roi tendr i mewn, roedd ei bris yn uwch o dipyn na Jones ac Owen o’r Ffor, ac fe benderfynwyd ar eu cwmni nhw. Y pris oedd £2106.10.0, a £41.10.0 yn ychwanegol am osod galeri yn yr adeilad. Yn arian heddiw, fyddai hynny ychydig dros £230,000. Roedd Thomas Williams a’i wraig rhyngddynt wedi addo dros hanner y gost, sef £1200. Cychwynnwyd ar y gwaith yn ystod ail hanner 1898 ac erbyn yr haf canlynol roedd y capel yn barod. Roedd y cerrig nadd wedi dod o Chwarel Trefor a’r cerrig rwbel ar gyfer y waliau mewnol wedi eu cloddio o un o gaeau’r Gadlys dros ffordd i’r Bryn.

Rhaid holi ble oedd Thomas Williams, y prif noddwr, am weld codi’r capel newydd? Yn ddistaw bach, roedd eisoes wedi prynu Cae Mawr, lle saif y capel heddiw, a hynny ym 1897, er mwyn sicrhau safle strategol i'r capel newydd. Dyw safle Graeanfryn brin dau led cae oddi wrth Gwylfa, cartref Thomas Williams - ond mae dau led cae’n wahanol iawn os nad oes ffordd ar eu traws! Roedd Cae Mawr, ar y llaw arall ,â manteision amlwg o ran lleoliad. Roedd y cae mewn man hwylus ar y lôn bost, lle'r oedd nifer o ffyrdd yn cwrdd. Gallai rhywun ei chyrraedd ar hyd ffyrdd (yn hytrach na llwybrau mwdlyd) o bob cyfeiriad yn y cyffiniau: o gyfeiriad Dinas, o’r ffermydd tua Rhos-isaf a’r Dolydd, tai Tan-cefn ac ar hyd lôn Pwllheli, a draw am y Parc a Rhedynogfelen. Rhaid oedd i gapel newydd fod yn ddigon pell oddi wrth unrhyw gapel Methodist arall. Hefyd, yr oedd tai newydd yng Nglan-rhyd, ac roedd cartrefi’r tri swyddog, Gadlys, Garth a Maen Gwyn nid nepell o Glan-rhyd. Tybed hefyd oedd yr haelionus Thomas Williams yn ystyried mai cwta hanner milltir ar hyd ffordd iawn oedd ei gartref fo o’r llecyn a gynigiodd. Hawdd fyddai iddo fo a Mrs Williams gyrraedd y capel newydd mewn steil gyda cheffyl a thrap.

Holl gost adeiladu'r capel oedd £2,800. Fe'i hagorwyd yn swyddogol ar Gorffennaf 6ed 1899[1][2].

Dewch i ni yn awr droi’n ôl at y capel ei hun. Mae digon o le yma ar gyfer cynulleidfa o 300, ond ar ôl i gynulleidfa Graeanfryn a nifer o aelodau Bryn’rodyn symud yma, ynghyd â rhai o Horeb a Bontnewydd, roedd cyfanswm o 82 o aelodau cyflawn, a 39 o blant. Roedd 113 ar lyfrau’r ysgol Sul. Ond yr oedd dyled o £500 yn aros ar yr adeilad. Denwyd nifer gan ei fod mewn man cyfleus, ac eraill oherwydd harddwch yr adeilad: “quite an ornament in the village” oedd dyfarniad y Caernarfon and Denbigh Herald. Byddai rhywun yn disgwyl gweld sôn am y capel newydd yn y Goleuad neu’r Drysorfa ond ni cheir yr un gair amdano - hynny, ym marn un sylwebydd wedyn, oherwydd cenfigen a’r ffaith yr ystyriwyd Glan-rhyd fel “capel y bobl fawr”. Efallai bod hynny’n wir i raddau. Yn Adroddiad Casgliad yr Ugeinfed Ganrif, enwir 39 o aelodau Glan-rhyd a gyfrannodd. Yn y rhestr honno gwelir enwau ffermwyr sylweddol, preswylwyr tai sylweddol a rhai oedd yn byw yn rhesdai newydd Glan-rhyd a Llanwnda - a chyfrannodd Glan-rhyd fwy nag odid un o gapeli eraill y cylch.

Un diffyg mawr yn yr adeilad oedd cyfrwng gwresogi, ac ym 1907 galwyd am dendrau i godi “heating chamber”, a nodwyd bod y planiau i’w gweld yn y tŷ capel. Gan nad oes tŷ ynghlwm wrth yr adeilad, rhaid mai un o dai Glan-rhyd a ddefnyddid fel tŷ capel. Roedd y Cyfarfod Misol i’w gynnal yng Nglan-rhyd am y tro cyntaf fis Mehefin 1908 - tybed a oedd ‘na ofn y byddai’r Saint yn oer!

Fel yn hanes Capel Pen-y-graig, Llanfaglan (MC), gadawodd Thomas Williams ddyled i’r capel ei dalu. Roedd ei weddw’n weithgar iawn yn ceisio hel cyfraniadau am flynyddoedd – nid oedd yn help efallai fod pawb yn gwybod bod ganddi ddigon o bres i dalu’r gweddill ei hun. Erbyn 1916 pan aed ati i glirio’r ddyled, roedd £500 yn dal ar ôl allan o’r gost derfynol o £2800,

Yn anffodus, nid yw cofnodion cynnar y capel ar gael yn y mannau arferol er mwyn gweld hanes cyflawn gweithgareddau’r blynyddoedd cynnar, ond cawn ambell i gip yn y papurau newydd sydd yn dangos eglwys weithgar. Roedd Mr a Mrs R. Gwyneddon Davies, Graeanfryn, ymysg yr arweinwyr, a threfnodd Mrs Davies bartïon gweu i wneud dillad i’r milwyr yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Tua’r un adeg, cynhaliwyd perfformiadau blynyddol gan Gôr Glan-rhyd dan faton J.E. Williams, Swyddfa Post Llanwnda. Perfformiwyd y cantata “Bugeiliaid Bethlehem” fis Mawrth 1917 - er mai braidd yn hwyr oedd hi ar gyfer y darn penodol hwnnw!

Yn nes ymlaen yn y ganrif, ffurfiwyd cymdeithas lenyddol y capel ac erbyn y 1950au, roedd yna gydbwyllgor rhwng y gymdeithas lenyddol honno a chymdeithasau tebyg ym Mryn’rodyn a Wesleaid Tŷ’n Lôn er mwyn cynnal eisteddfod flynyddol rhwng y tri lle.

O ran gweinidogion,. David Williams oedd y cyntaf, gan symud yma o Fryn’rodyn. Fo a wasanaethodd o’r cychwyn ym 1899 hyd ei farwolaeth ym 1920. Wedi hynny, rhannwyd gweinidog gyda’r fam eglwys, sef Bryn’rodyn. Y Parch Wyn Williams oedd y cyntaf, ym 1925. Bu farw ym 1936. Bu cyfnod di-weinidog wedyn tan 1941, pan ddaeth J.R. Richards yma, ac ar ei ôl o, y Parch. Owen Lloyd, o 1956 hyd ei ymddeoliad ym 1983. Rydym i gyd, mae’n debyg yn ei gofio fo, y Parch Huw Gwynfa Roberts, Jim Clarke, Deian Evans, ac yn olaf, y Parch Gwenda Richards.

Ymysg y blaenoriaid, bron i 40 ohonynt dros y ganrif a chwarter diwethaf, rhaid nodi Thomas Williams, William Griffith (Maengwyn), William Jones (Bodaden) a Jethro Jones (Tai Glan-rhyd) fel y rhai cyntaf. Daeth yr enw o “Gapel y Bobl Fawr” yn gynyddol anaddas - roedd y rhan fwyaf dros y cyfnod yn weithwyr neu’n amaethwyr. Efallai'r pedwar mwyaf nodedig oherwydd hyd eu gwasanaeth oedd Hugh Williams, Garth y Gro, a fu’n flaenor am 35 mlynedd o 1904; Hugh Jones, Glanrhyd Isaf 37 mlynedd hyd 1967; Mr ab Iorwerth, 30 mlynedd, Mr Lee, 37 mlynedd a Brian Jones, Glennydd dros 40 mlynedd hyd ei farwolaeth.

Dylid nodi Miss Edwards, Coetmor, fu’n gyfeilydd am 63 o flynyddoedd yma – ac yng nghapel Wesle Tŷ’n Lôn yr un pryd. A rhaid sôn am un teulu fu’n gwasanaethu am gan mlynedd, sef y tad a’r mab, y ddau flaenor T.R. Thomas; Mrs Doris Thomas y gyfeilyddes am tua 70 o flynyddoedd a Maldwyn Thomas mab, a draddododd y ddarlith ganmlwyddiant.

Mae'r capel yn dal ar agor, gyda 76 o aelodau, sef ond chwech yn llai na'r nifer o aelodau ar y cychwyn.

Cyfeiriadau

  1. Adroddiad papur newydd o 1898 yn adrodd hanes yr adeiladu.
  2. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 346-347