Tirfeddianwyr mwyaf Uwchgwyrfai yn yr 17g.: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae | Mae rhestrau o'r rhai a aseswyd fel '''y prif dirfeddianwyr''' a oedd yn gorfod talu trethi (a elwid yn ‘sybsidïau’) i gwrdd ag anghenion cyllidol brenin Lloegr ar gael yn yr Archifdy Gwladol. Yn eu mysg mae rhestrau ar gyfer y blynyddoedd 1641 a 1664, lle cawn weld pwy oedd yn gorfod talu’r cyfryw drethi yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]]. | ||
==Rhestr 1641== | |||
Mae'n ymddangos o'r rhestr mai prif dirfeddianwyr y cwmwd oedd Thomas Bulkeley, yswain, [[Dinas]] a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am [[Ystad Glynllifon]] - ei fam yn talu cyfran oherwydd ei bod (fel pob gweddw) yn cael hanner ystad ei gŵr am ei hoes wedi iddo farw. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n | Gan droi’n gyntaf at restr 1641<ref>Archifdy Gwladol, E179/220/158</ref>, cawn gip ar rai mwyaf cefnog y cwmwd gwta blwyddyn cyn cychwyn cythrwfl mawr Rhyfel y Pleidiau Seisnig (y cyfeirir ato fel y Rhyfel Cartref yn Saesneg). Rhestrwyd pedwar yswain (armiger) ymysg y tri ar hugain o drethdalwyr, ac o leiaf dri ar ddeg o fonheddwyr (generosus), tair gwraig weddw oedd â thir, ac un offeiriad. Dyma’r rhestr yn llawn: | ||
[[Thomas Glynn]], yswain, [[Glynllifon]] | |||
Thomas Glynn, yswain, [[Plas Newydd]] | |||
William Glynn, [[Lleuar Fawr|Lleuar]] | |||
Hugh Gwynne, [[Pengwern]] | |||
Henry Humphreys, bonwr, [[Pant Du]] | |||
Richard Glynne, bonwr, [[Bryn Gwydion]] | |||
David Lloyd ap William | |||
Hugh John ap Hugh, bonwr | |||
William Lewis ap William, bonwr | |||
David ap John ap William, [[Bodychen]], bonwr | |||
Edward Lloyd, Cwmgware, bonwr | |||
Owen Meredydd | |||
Griffith ap William, bonwr | |||
Dorothy Griffith, gweddw, [ [[Llethr Ddu]], [[Llanaelhaearn]], o bosibl] | |||
Elizabeth ferch Richard Rowland, gweddw | |||
Morgan Lewis, clerc | |||
Rowland Morgan, bonwr | |||
Owen Griffith, bonwr | |||
Evan Hughes, bonwr | |||
Mary Lloyd, gweddw | |||
John Owen a’i fam, [Tŷ’n-y-coed, Clynnog, o bosibl] | |||
William Glynne, bonwr, [o blwyf Clynnog, o bosibl] | |||
Evan ap John Thomas | |||
Disgwylwyd i Thomas Glynn, Glynllifon, dyn cyfoethocaf y cwmwd yng ngolwg yr asesydd, dalu £3 fel ei randaliad cyntaf a phedwar swllt ar hugain fel ail ddaliad (ac roedd disgwyl iddo dalu dau randaliad arall nad ydynt yn cael eu rhestru. Roedd tri yswain arall y cwmwd yn gorfod talu £2 ac un swllt ar bymtheg, a’r bonheddwyr £1 ac wyth swllt fel eu dau rhandaliad cyntaf. | |||
Rhaid oedd i Babyddion dalu’r dreth hefyd, os oedd modd ganddynt, ac yr oedd un gŵr yn Uwchgwyrfai, Robert ap Rees Wynne, ynghyd â’i wraig Catherine, yn glynu at y ffydd Babyddol, a rhaid oedd iddynt hwy dalu un geiniog ar bymtheg yr un yn y lle cyntaf, er pe na chydymffurfiant trwy fynychu eglwys y plwyf, ordeiniwyd fod rhaid iddynt dalu dau swllt ac wyth ceiniog y pen fel ail ddaliad. Dyna’r wladwriaeth yn mynnu lladd dau aderyn gydag un ergyd – sef cynyddu’r trethi a gasglwyd a rhoi pwysau ar Babyddion i roi gorau i’w ffydd. | |||
==Rhestr 1664== | |||
Mae rhestr o'r rhai a aseswyd fel y '''prif dirfeddianwyr''' yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]] yn y flwyddyn 1664 hefyd ar gael yn yr Archifdy Gwladol.<ref>Archifdy Gwladol, E179/220/161.</ref> | |||
Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu 'sybsidi' (neu fath o dreth wladol) a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth [[Thomas Bulkeley]] lofnodi rhestr Uwchgwyrfai. | |||
Mae'n ymddangos o'r rhestr mai prif dirfeddianwyr y cwmwd oedd Thomas Bulkeley, yswain, [[Dinas]] a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am [[Ystad Glynllifon]] - ei fam yn talu cyfran oherwydd ei bod (fel pob gweddw) yn cael hanner ystad ei gŵr am ei hoes wedi iddo farw. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n annarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.<ref>Mae'r enwau wedi eu copïo o waith y diweddar Leonard Owen yn Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgau Bangor 13491. Ychwanegwyd enw ystad neu eiddo ambell un o J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), ''passim''. </ref> Dyma'r enwau darllenadwy: | |||
Thomas Glynn, yswain, | Thomas Glynn, yswain, | ||
Llinell 26: | Llinell 62: | ||
Robert Griffith, [[Llethr Ddu]], [[Llanaelhaearn]] | Robert Griffith, [[Llethr Ddu]], [[Llanaelhaearn]] | ||
Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am | Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hynny gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Nghymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf. | ||
Mae rhestr o'r rhai oedd yn gorfod talu'r [[Treth Aelwyd 1662|Dreth Aelwyd]] ym 1662 yn rhoi cymaint â 370 o enwau, ac ma'n werth cymharu'r enwau sydd yno a faint o aelwydydd oedd anggynt gyda'r rhstrau uchod. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Llinell 32: | Llinell 70: | ||
[[Categori:Tirfeddianwyr]] | [[Categori:Tirfeddianwyr]] | ||
[[Categori:Ystadau]] | [[Categori:Ystadau]] | ||
[[Categori:Pobl]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:20, 25 Mehefin 2024
Mae rhestrau o'r rhai a aseswyd fel y prif dirfeddianwyr a oedd yn gorfod talu trethi (a elwid yn ‘sybsidïau’) i gwrdd ag anghenion cyllidol brenin Lloegr ar gael yn yr Archifdy Gwladol. Yn eu mysg mae rhestrau ar gyfer y blynyddoedd 1641 a 1664, lle cawn weld pwy oedd yn gorfod talu’r cyfryw drethi yng nghwmwd Uwchgwyrfai.
Rhestr 1641
Gan droi’n gyntaf at restr 1641[1], cawn gip ar rai mwyaf cefnog y cwmwd gwta blwyddyn cyn cychwyn cythrwfl mawr Rhyfel y Pleidiau Seisnig (y cyfeirir ato fel y Rhyfel Cartref yn Saesneg). Rhestrwyd pedwar yswain (armiger) ymysg y tri ar hugain o drethdalwyr, ac o leiaf dri ar ddeg o fonheddwyr (generosus), tair gwraig weddw oedd â thir, ac un offeiriad. Dyma’r rhestr yn llawn:
Thomas Glynn, yswain, Glynllifon Thomas Glynn, yswain, Plas Newydd William Glynn, Lleuar Hugh Gwynne, Pengwern Henry Humphreys, bonwr, Pant Du Richard Glynne, bonwr, Bryn Gwydion David Lloyd ap William Hugh John ap Hugh, bonwr William Lewis ap William, bonwr David ap John ap William, Bodychen, bonwr Edward Lloyd, Cwmgware, bonwr Owen Meredydd Griffith ap William, bonwr Dorothy Griffith, gweddw, [ Llethr Ddu, Llanaelhaearn, o bosibl] Elizabeth ferch Richard Rowland, gweddw Morgan Lewis, clerc Rowland Morgan, bonwr Owen Griffith, bonwr Evan Hughes, bonwr Mary Lloyd, gweddw John Owen a’i fam, [Tŷ’n-y-coed, Clynnog, o bosibl] William Glynne, bonwr, [o blwyf Clynnog, o bosibl] Evan ap John Thomas
Disgwylwyd i Thomas Glynn, Glynllifon, dyn cyfoethocaf y cwmwd yng ngolwg yr asesydd, dalu £3 fel ei randaliad cyntaf a phedwar swllt ar hugain fel ail ddaliad (ac roedd disgwyl iddo dalu dau randaliad arall nad ydynt yn cael eu rhestru. Roedd tri yswain arall y cwmwd yn gorfod talu £2 ac un swllt ar bymtheg, a’r bonheddwyr £1 ac wyth swllt fel eu dau rhandaliad cyntaf.
Rhaid oedd i Babyddion dalu’r dreth hefyd, os oedd modd ganddynt, ac yr oedd un gŵr yn Uwchgwyrfai, Robert ap Rees Wynne, ynghyd â’i wraig Catherine, yn glynu at y ffydd Babyddol, a rhaid oedd iddynt hwy dalu un geiniog ar bymtheg yr un yn y lle cyntaf, er pe na chydymffurfiant trwy fynychu eglwys y plwyf, ordeiniwyd fod rhaid iddynt dalu dau swllt ac wyth ceiniog y pen fel ail ddaliad. Dyna’r wladwriaeth yn mynnu lladd dau aderyn gydag un ergyd – sef cynyddu’r trethi a gasglwyd a rhoi pwysau ar Babyddion i roi gorau i’w ffydd.
Rhestr 1664
Mae rhestr o'r rhai a aseswyd fel y prif dirfeddianwyr yng nghwmwd Uwchgwyrfai yn y flwyddyn 1664 hefyd ar gael yn yr Archifdy Gwladol.[2]
Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu 'sybsidi' (neu fath o dreth wladol) a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth Thomas Bulkeley lofnodi rhestr Uwchgwyrfai.
Mae'n ymddangos o'r rhestr mai prif dirfeddianwyr y cwmwd oedd Thomas Bulkeley, yswain, Dinas a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am Ystad Glynllifon - ei fam yn talu cyfran oherwydd ei bod (fel pob gweddw) yn cael hanner ystad ei gŵr am ei hoes wedi iddo farw. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n annarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.[3] Dyma'r enwau darllenadwy:
Thomas Glynn, yswain, George Twistleton, yswain, Lleuar Fawr Richard Glynn, yswain, Elernion Edmund Glynn, Bryn Gwydion William Wynne, ?Pengwern Richard ?Ellis, bon[heddwr] [enw annarllenadwy] Jane Glynn, gweddw Plas Newydd Jane Glynn, gweddw Clynnog Fawr Hugh Lewis, bon Owen Hughes, bon, o bosibl o Fodaden John Williams, bon Jane ...., gweddw ac etifeddes .... ap Richard Randulph .... Henry Glynn, Plas Nantlle, bon Hugh Roberts a'i fab Hugh Johnson, bon, [o blwyf Clynnog Fawr] Lewis Williams [enw annarllenadwy] Robert Griffith, Llethr Ddu, Llanaelhaearn
Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hynny gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Nghymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf.
Mae rhestr o'r rhai oedd yn gorfod talu'r Dreth Aelwyd ym 1662 yn rhoi cymaint â 370 o enwau, ac ma'n werth cymharu'r enwau sydd yno a faint o aelwydydd oedd anggynt gyda'r rhstrau uchod.
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Gwladol, E179/220/158
- ↑ Archifdy Gwladol, E179/220/161.
- ↑ Mae'r enwau wedi eu copïo o waith y diweddar Leonard Owen yn Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgau Bangor 13491. Ychwanegwyd enw ystad neu eiddo ambell un o J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), passim.