Llongddrylliadau Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cymharol ychydig o '''longddrylliadau''' a ddigwyddodd ar arfordir Uwchgwyrfai ar lan Bae Caernarfon. Mae'r arfordir ei hun wedi ei gysgodi i ryw...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 13 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Cymharol ychydig o '''longddrylliadau''' a ddigwyddodd ar arfordir [[Uwchgwyrfai]] ar lan [[Bae Caernarfon]]. Mae'r arfordir ei hun wedi ei gysgodi i ryw raddau bach oddi wrth stormydd o'r cyfeiriad arferol, sef y De-Orllewin gan mynyddoedd [[Yr Eifl]], ac os oedd gwyntoedd cryfion yn gyrru llongau hwylio o'u blaen, tueddai'r llongau daro'r lan ar arfordir Môn o Landdwyn tua'r Gogledd.
Cymharol ychydig o '''longddrylliadau''' a ddigwyddodd ar arfordir [[Uwchgwyrfai]] ar lan [[Bae Caernarfon]]. Mae'r arfordir ei hun wedi ei gysgodi i ryw raddau bach oddi wrth stormydd o'r cyfeiriad arferol, sef y de-orllewin, gan fynyddoedd [[Yr Eifl]], ac os oedd gwyntoedd cryfion yn gyrru llongau hwylio o'u blaen, tueddai'r llongau hynny i daro'r lan ar arfordir Môn o Landdwyn tua'r Gogledd.


Serch hynny, gwyddom am nifer o gychod a llongau a suddwyd oddi ar arfordir y cwmwd:
Serch hynny, gwyddom am nifer o gychod a llongau a suddwyd oddi ar arfordir y cwmwd:
1760: dwy long yn suddo ar far Caernarfon, a 14 yn colli eu bywydau.<ref>David Thomas, ''Hen Longau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), t.141</ref>


1795: Cwch pysgota a'i griw i gyd wedi ei golli oddi ar draeth [[Trefor]]
1795: Cwch pysgota a'i griw i gyd wedi ei golli oddi ar draeth [[Trefor]]


1 Medi 1829: y brig ''Swallow'', ar ei ffordd i Newfoundland o Lerpwl, yn taro'r lan ger [[Dinas Dinlle]]
1 Medi 1829: y brig ''Swallow'', ar ei ffordd i Newfoundland o Lerpwl, yn taro'r lan ger [[Dinas Dinlle]]
18 Mehefin 1840: y barc ''Jane'' o Orleans Newydd, yn cario bwndeli o gotwm i Lerpwl yn mynd i lawr ar far Caernarfon. Achubwyd y criw i gyd.


Ebrill 1841: y ''Strathmore'', llong o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, yn cael ei dryllio ar greigiau [[Trwyn y tâl]]
Ebrill 1841: y ''Strathmore'', llong o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, yn cael ei dryllio ar greigiau [[Trwyn y tâl]]


12 Rhagfyr 1883: Y ''Lady Hincks'', yn cario coed o America i Lerpwl, eto'n taro creigiau Trwyn y tâl. Achubwyd pawb oddi ar ei bwrdd.
Mawrth 1842: [[Brig yr "Heron"]] yn taro'r lan ger [[Clynnog Fawr]]. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.
 
Ionawr 1843: [[Stemar y ''Monk'']] oedd yn hwylio o Bortinlläen am Lerpwl (gweler isod).
 
Ionawr 1845: y barc ''William Turner'' o Felffast, yn cludo gwano o Dde Amerig i Lerpwl yn cael ei dryllio ar far Caernarfon, a'r criw i gyd yn boddi.
 
Ionawr 1846: Llong o America, yn hwylio o Lerpwl am Orleans Newydd, yn cael ei dryllio ar arfordir y bae ger [[Clynnog Fawr]]
 
11 Medi 1847: y sgwner ''Vine'' o Nefyn yn suddo ar far Caernarfon, a dim ond un yn cael ei achub.
 
Ionawr 1863: y llong ''Pamela Flood'' o Efrog Newydd yn suddo yng nghanol y bae, 12 milltir o Gaergybi ac yn nes o dipyn i Glynnog. Achubwyd neb oddi ar ei bwrdd heblaw am y capten, John R. Anderson, a lwyddodd i gydio mewn darn mawr o bren o'r llong ac a gafodd ei olchi i'r lan ger Tŷ Mawr, Clynnog Fawr.<ref>Lewis Lloyd,''The Port of Caernarfon, 1793-1900'' (Caernarfon, 1989), tt.129-141 </ref>
 
12 Rhagfyr 1883: Y ''Lady Hincks'', yn cario coed o America i Lerpwl, eto'n taro creigiau Trwyn y tâl. Achubwyd pawb oddi ar ei bwrdd.<ref>Henry Parry, ''Wreck and Rescue on the Coast of Wales'', Cyf. I (Truro, 1969), t.63-68.</ref>
 
1971: cerbyd amffibaidd (DUKW) Bill Parry y suddo oddi ar Dinas Dinlle wedi taro cefnen o dywod. Cerddodd Mr Parry i'r lan.<ref>Rhodri Prys Jones, ''Chwadan Bil Parry'', (Caernarfon, 1980).</ref>
 
Mae David Thomas yn nodi dau beth diddorol: bod llawer o longau wedi eu dryllio ar Far Caernarfon, sef ceg y Fenai, rhwng banc tywod y de a banc tywod y gogledd, cyn cyrraedd [[Abermenai]] ei hun. Yn ail, mae'n nodi bod llawer o longau yn ceisio cyrraedd Portinlläen ac yn cysgodi yno gan ei fod yn harbwr diogel pan oedd corwynt o'r gorllewin.<ref>David Thomas, ''Hen Longau Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1952), tt.141-3</ref>
 
Yn ddi-os, rhestr fer o rai longddrylliau yn unig sydd yma; ni chofnodwyd llawer ohonynt, yn arbennig cyn canol y 18g.


1971: cerbyd amffibaidd (DUKW) Bill Parry y suddo oddi ar Dinas Dinlle wedi taro cefnen o dywod. Cerddodd Mr Parry i'r lan.<ref>Rhodri Prys Jones, ''Chwadan Bil Parry''.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:23, 19 Mehefin 2024

Cymharol ychydig o longddrylliadau a ddigwyddodd ar arfordir Uwchgwyrfai ar lan Bae Caernarfon. Mae'r arfordir ei hun wedi ei gysgodi i ryw raddau bach oddi wrth stormydd o'r cyfeiriad arferol, sef y de-orllewin, gan fynyddoedd Yr Eifl, ac os oedd gwyntoedd cryfion yn gyrru llongau hwylio o'u blaen, tueddai'r llongau hynny i daro'r lan ar arfordir Môn o Landdwyn tua'r Gogledd.

Serch hynny, gwyddom am nifer o gychod a llongau a suddwyd oddi ar arfordir y cwmwd:

1760: dwy long yn suddo ar far Caernarfon, a 14 yn colli eu bywydau.[1]

1795: Cwch pysgota a'i griw i gyd wedi ei golli oddi ar draeth Trefor

1 Medi 1829: y brig Swallow, ar ei ffordd i Newfoundland o Lerpwl, yn taro'r lan ger Dinas Dinlle

18 Mehefin 1840: y barc Jane o Orleans Newydd, yn cario bwndeli o gotwm i Lerpwl yn mynd i lawr ar far Caernarfon. Achubwyd y criw i gyd.

Ebrill 1841: y Strathmore, llong o Leith, Yr Alban, ar fordaith o Bahia, Brasil i Lerpwl, yn cael ei dryllio ar greigiau Trwyn y tâl

Mawrth 1842: Brig yr "Heron" yn taro'r lan ger Clynnog Fawr. Llwyddwyd i'w chael yn rhydd a'i thowio hi i Gaernarfon lle gafodd ei thrwsio.

Ionawr 1843: Stemar y ''Monk'' oedd yn hwylio o Bortinlläen am Lerpwl (gweler isod).

Ionawr 1845: y barc William Turner o Felffast, yn cludo gwano o Dde Amerig i Lerpwl yn cael ei dryllio ar far Caernarfon, a'r criw i gyd yn boddi.

Ionawr 1846: Llong o America, yn hwylio o Lerpwl am Orleans Newydd, yn cael ei dryllio ar arfordir y bae ger Clynnog Fawr

11 Medi 1847: y sgwner Vine o Nefyn yn suddo ar far Caernarfon, a dim ond un yn cael ei achub.

Ionawr 1863: y llong Pamela Flood o Efrog Newydd yn suddo yng nghanol y bae, 12 milltir o Gaergybi ac yn nes o dipyn i Glynnog. Achubwyd neb oddi ar ei bwrdd heblaw am y capten, John R. Anderson, a lwyddodd i gydio mewn darn mawr o bren o'r llong ac a gafodd ei olchi i'r lan ger Tŷ Mawr, Clynnog Fawr.[2]

12 Rhagfyr 1883: Y Lady Hincks, yn cario coed o America i Lerpwl, eto'n taro creigiau Trwyn y tâl. Achubwyd pawb oddi ar ei bwrdd.[3]

1971: cerbyd amffibaidd (DUKW) Bill Parry y suddo oddi ar Dinas Dinlle wedi taro cefnen o dywod. Cerddodd Mr Parry i'r lan.[4]

Mae David Thomas yn nodi dau beth diddorol: bod llawer o longau wedi eu dryllio ar Far Caernarfon, sef ceg y Fenai, rhwng banc tywod y de a banc tywod y gogledd, cyn cyrraedd Abermenai ei hun. Yn ail, mae'n nodi bod llawer o longau yn ceisio cyrraedd Portinlläen ac yn cysgodi yno gan ei fod yn harbwr diogel pan oedd corwynt o'r gorllewin.[5]

Yn ddi-os, rhestr fer o rai longddrylliau yn unig sydd yma; ni chofnodwyd llawer ohonynt, yn arbennig cyn canol y 18g.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.141
  2. Lewis Lloyd,The Port of Caernarfon, 1793-1900 (Caernarfon, 1989), tt.129-141
  3. Henry Parry, Wreck and Rescue on the Coast of Wales, Cyf. I (Truro, 1969), t.63-68.
  4. Rhodri Prys Jones, Chwadan Bil Parry, (Caernarfon, 1980).
  5. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.141-3