William John Roberts (Llwydlas): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd '''William John Roberts (Llwydlas)''' ym 1834 yn Nhŷ’n Ffrwd,  [[Rhos-isaf]] i John Roberts, chwarelwr, ac Anne ei wraig fel pedwerydd plentyn y teulu. Y cartref wedyn oedd Borthdwr, y drws nesaf i dŷ [[Cae'r Gors]], yn [[Rhosgadfan]].<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1841</ref>  
Ganwyd '''William John Roberts (Llwydlas)''' (1834-1893) yn Nhŷ’n Ffrwd,  [[Rhos-isaf]] i John Roberts, chwarelwr, ac Anne ei wraig. Ef oedd pedwerydd plentyn y teulu. Y cartref wedyn oedd Borthdwr, y drws nesaf i dŷ [[Cae'r Gors]], yn [[Rhosgadfan]].<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1841</ref>  


Ac yntau’n oedolyn, symudodd i Stryd yr Wyddfa, [[Pen-y-groes]], y drws nesaf i [[Tafarn yr Afr|Dafarn yr Afr]], wedi iddo dderbyn swydd fel asiant chwarel. Bu’n byw yno gyda’i wraig Ellen neu Elizabeth Anne, dynes o Ddolgellau’n wreiddiol, a’u merch Anne Elizabeth, a aned ym 1866. Roedd y teulu’n dal yn Stryd yr Wyddfa ym 1881 ar adeg y cyfrifiad er nad oedd William Roberts adref ar noson y gwnaed y cyfrifiad. Yr un oedd y sefyllfa ym 1891, ond bod Elizabeth Roberts wedi symud y drws nesaf i gadw gwesty’r Afr.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-91</ref>
Ac yntau’n oedolyn, symudodd i Stryd yr Wyddfa, [[Pen-y-groes]], y drws nesaf i [[Tafarn yr Afr|Dafarn yr Afr]], wedi iddo dderbyn swydd fel asiant chwarel. Bu’n byw yno gyda’i wraig Ellen, neu Elizabeth Anne, dynes o Ddolgellau’n wreiddiol, a’u merch Anne Elizabeth, a aned ym 1866. Roedd y teulu’n dal yn Stryd yr Wyddfa ym 1881 ar adeg y cyfrifiad er nad oedd William Roberts adref ar noson y cyfrifiad. Yr un oedd y sefyllfa ym 1891, ond bod Elizabeth Roberts erbyn hynny wedi symud y drws nesaf i gadw gwesty’r Afr.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-91</ref>


Yr oedd Llwydlas yn frawd i’r llenor, yr athro a’r offeiriad [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]], ac er nad oedd cystal â’i frawd fel llenor, fe’i cyfrifid ar y pryd yn fardd da iawn gan [[W.R. Ambrose]].<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), t.87 </ref>
Mae'n bosibl fod y berthynas rhwng Llwydlas a'i wraig wedi chwalu, ond mae hefyd yn bosibl fod gwaith wedi mynd yn brin yn y diwydiant llechi yn y dyffryn. Bu yn Eisteddfod Pen-y-groes ym 1872 <ref>''Cambrian News'', 5.4.1872, t.5</ref> ond mae'n debyg ei fod wedi symud i Gorris cyn Hydref 1874<ref>''Cambrian News'', 2.10.1874, t.6</ref> a cheir cyfeiriad ato ym 1876 (lle bu'n cefnogi Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru).<ref>''Aberystwyth Observer'', 6.5.1876, t.3</ref> Roedd yn dal yng Nghorris ym 1878<ref>''Y Goleuad'', 27.4.1878, t.14</ref> ond rywbryd cyn 1885 roedd wedi symud i Ynyshir yn y Rhondda Fach. Mae'n sicr o'r cyfeiriadau ato ei fod yn dal i farddoni.<ref>''Tarian y Gweithiwr'', 2.4.1885, t.5</ref> Erbyn 1892, fodd bynnag, mae'n ymddangos ei fod yn ôl ym Mhen-y-groes.<ref>''The Nelson'', 17.2.1892, t.16</ref> Erbyn hynny, roedd ei wraig wedi marw. Mae cofnod ar gael ei bod wedi marw ar 27 Mai 1881, a nodwyd ei hysgutor fel W.J. Roberts.<ref>Mynegai i'r Cofrestrau Treth Marw, 1881</ref>
 
Bu farw Llwydlas yn nhŷ ei chwaer yng Nghaergybi tua diwedd Mawrth 1893, ac fe'i claddwyd yng nghladdgell y teulu yn [[Llanllyfni]].<ref>''Y Drych'', 6.4.1893, t.8</ref>
 
Yr oedd Llwydlas yn frawd i’r llenor, yr athro a’r offeiriad [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]], ac er nad oedd cystal â’i frawd fel llenor, fe’i cyfrifid ar y pryd yn fardd da iawn gan [[W.R. Ambrose]]. Yn ôl hwnnw, roedd Llwydlas wedi ennill y wobr gyntaf mewn sawl cyfarfod cystadleuol.<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), t.87 </ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 10: Llinell 14:


[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:32, 26 Mai 2024

Ganwyd William John Roberts (Llwydlas) (1834-1893) yn Nhŷ’n Ffrwd, Rhos-isaf i John Roberts, chwarelwr, ac Anne ei wraig. Ef oedd pedwerydd plentyn y teulu. Y cartref wedyn oedd Borthdwr, y drws nesaf i dŷ Cae'r Gors, yn Rhosgadfan.[1]

Ac yntau’n oedolyn, symudodd i Stryd yr Wyddfa, Pen-y-groes, y drws nesaf i Dafarn yr Afr, wedi iddo dderbyn swydd fel asiant chwarel. Bu’n byw yno gyda’i wraig Ellen, neu Elizabeth Anne, dynes o Ddolgellau’n wreiddiol, a’u merch Anne Elizabeth, a aned ym 1866. Roedd y teulu’n dal yn Stryd yr Wyddfa ym 1881 ar adeg y cyfrifiad er nad oedd William Roberts adref ar noson y cyfrifiad. Yr un oedd y sefyllfa ym 1891, ond bod Elizabeth Roberts erbyn hynny wedi symud y drws nesaf i gadw gwesty’r Afr.[2]

Mae'n bosibl fod y berthynas rhwng Llwydlas a'i wraig wedi chwalu, ond mae hefyd yn bosibl fod gwaith wedi mynd yn brin yn y diwydiant llechi yn y dyffryn. Bu yn Eisteddfod Pen-y-groes ym 1872 [3] ond mae'n debyg ei fod wedi symud i Gorris cyn Hydref 1874[4] a cheir cyfeiriad ato ym 1876 (lle bu'n cefnogi Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru).[5] Roedd yn dal yng Nghorris ym 1878[6] ond rywbryd cyn 1885 roedd wedi symud i Ynyshir yn y Rhondda Fach. Mae'n sicr o'r cyfeiriadau ato ei fod yn dal i farddoni.[7] Erbyn 1892, fodd bynnag, mae'n ymddangos ei fod yn ôl ym Mhen-y-groes.[8] Erbyn hynny, roedd ei wraig wedi marw. Mae cofnod ar gael ei bod wedi marw ar 27 Mai 1881, a nodwyd ei hysgutor fel W.J. Roberts.[9]

Bu farw Llwydlas yn nhŷ ei chwaer yng Nghaergybi tua diwedd Mawrth 1893, ac fe'i claddwyd yng nghladdgell y teulu yn Llanllyfni.[10]

Yr oedd Llwydlas yn frawd i’r llenor, yr athro a’r offeiriad Owen Wynne Jones (Glasynys), ac er nad oedd cystal â’i frawd fel llenor, fe’i cyfrifid ar y pryd yn fardd da iawn gan W.R. Ambrose. Yn ôl hwnnw, roedd Llwydlas wedi ennill y wobr gyntaf mewn sawl cyfarfod cystadleuol.[11]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1841
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-91
  3. Cambrian News, 5.4.1872, t.5
  4. Cambrian News, 2.10.1874, t.6
  5. Aberystwyth Observer, 6.5.1876, t.3
  6. Y Goleuad, 27.4.1878, t.14
  7. Tarian y Gweithiwr, 2.4.1885, t.5
  8. The Nelson, 17.2.1892, t.16
  9. Mynegai i'r Cofrestrau Treth Marw, 1881
  10. Y Drych, 6.4.1893, t.8
  11. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.87