Pistyll Dafn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau) Rhagor o fanylion am enwau'r rhaeadr. |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Pistyll Dafn''' yn un | Mae '''Pistyll Dafn''' yn un o’r ychydig raeadrau sylweddol yn [[Uwchgwyrfai]]. Nodir ei leoliad – ond nid ei enw – ar fapiau’r Arolwg Ordnans. Ceir hyd iddo ar [[Afon Hen]] – a elwir yn lleol yn Afon Ddalfa – tua phen draw [[Cwm Gwared|Cwm Gwara]], yn y blanhigfa goed. | ||
Yn ei llyfr ''Sul, Gŵyl a Gwaith'' ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld | Mae Pistyll Dafn yn cael ei alw’n 'Rhaeadr Dibyn Mawr’ yn bur gyffredin mewn llyfrau taith o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.<ref>Er enghraifft, W. Bingley. ''[https://archive.org/details/northwalesdelin00binggoog/page/n432|North Wales; including its Scenery, Antiquities, Customs]''. 2 gyf. (London: T. N. Longman and O. Rees, 1804), cyf. 1, t. 402; Askew Roberts ac Edward Woodall, ''[https://archive.org/details/gossipingguidet01woodgoog/page/n192|Gossiping Guide to Wales (North Wales and Aberystwyth)]'' (London: Simpkin, Marshall, Hamilton, Kent & Co., 1902), t. 112.</ref> Mae hefyd wedi cael ei alw’n ‘Hen Waterfall’ yn Saesneg.<ref>John Llewelyn Jones, ''[https://archive.org/details/waterfallsofwale0000jone/page/220|The Waterfalls of Wales]'' (London: Robert Hale, 1986), t. 221.</ref> | ||
Yn ei llyfr ''Sul, Gŵyl a Gwaith'' ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. ‘Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.’<ref>Catrin Parri Huws, ''Sul, Gŵyl a Gwaith'' (Gwasg Gwynedd, 1981).</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 19:30, 28 Rhagfyr 2023
Mae Pistyll Dafn yn un o’r ychydig raeadrau sylweddol yn Uwchgwyrfai. Nodir ei leoliad – ond nid ei enw – ar fapiau’r Arolwg Ordnans. Ceir hyd iddo ar Afon Hen – a elwir yn lleol yn Afon Ddalfa – tua phen draw Cwm Gwara, yn y blanhigfa goed.
Mae Pistyll Dafn yn cael ei alw’n 'Rhaeadr Dibyn Mawr’ yn bur gyffredin mewn llyfrau taith o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.[1] Mae hefyd wedi cael ei alw’n ‘Hen Waterfall’ yn Saesneg.[2]
Yn ei llyfr Sul, Gŵyl a Gwaith ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. ‘Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.’[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Er enghraifft, W. Bingley. Wales; including its Scenery, Antiquities, Customs. 2 gyf. (London: T. N. Longman and O. Rees, 1804), cyf. 1, t. 402; Askew Roberts ac Edward Woodall, Guide to Wales (North Wales and Aberystwyth) (London: Simpkin, Marshall, Hamilton, Kent & Co., 1902), t. 112.
- ↑ John Llewelyn Jones, Waterfalls of Wales (London: Robert Hale, 1986), t. 221.
- ↑ Catrin Parri Huws, Sul, Gŵyl a Gwaith (Gwasg Gwynedd, 1981).