Ysgoldy Pen'rallt (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Ysgoldy Pen'rallt i Ysgoldy Pen'rallt (MC) |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif adeilad '''Ysgoldy Pen'rallt''' ar ben yr allt sydd yn arwain o'r [[Lôn Wen]] i lawr i bentref Waunfawr a [[Dyffryn Gwyrfai]]. Nid yw wedi cael ei ddefnyddio fel capel ers blynyddoedd lawer. Cangen ydoedd o Gapel Waunfawr, ac fe'i codwyd ym 1864 er mwyn hwylustod y gymuned fach o ffermydd ar ochr ddeheuol [[Afon Gwyrfai]] a llethrau [[Moel Smytho]]. Cafwyd y tir yn rhodd gan Evan Owen, Pen'rallt. Cyn i'r capel bach gael ei godi, cynhelid ysgol Sul ym Mhen'rallt a chyn hynny yn ffermdy [[Gwredog | Saif adeilad '''Ysgoldy Pen'rallt''' ar ben yr allt sydd yn arwain o'r [[Lôn Wen]] i lawr i bentref Waunfawr a [[Dyffryn Gwyrfai]]. Nid yw wedi cael ei ddefnyddio fel capel ers blynyddoedd lawer. Cangen ydoedd o Gapel Waunfawr, ac fe'i codwyd ym 1864 er mwyn hwylustod y gymuned fach o ffermydd ar ochr ddeheuol [[Afon Gwyrfai]] a llethrau [[Moel Smytho]]. Cafwyd y tir yn rhodd gan Evan Owen, Pen'rallt. Cyn i'r capel bach gael ei godi, cynhelid ysgol Sul ym Mhen'rallt a chyn hynny yn ffermdy [[Gwredog]] Isaf. | ||
Er mai prif ddiben oedd cynnal ysgol Sul yno ar gyfer plant ac oedolion, cynhelid gwasanaeth gyda phregeth unwaith y mis. Fis Hydref 1885, cafwyd arolwg gan swyddogion yr henaduriaeth, sef D. Davies (Tremlyn) a W. Gwenlyn Evans, a dyma eu hadroddiad: | Er mai'r prif ddiben oedd cynnal ysgol Sul yno ar gyfer plant ac oedolion, cynhelid gwasanaeth gyda phregeth unwaith y mis. Fis Hydref 1885, cafwyd arolwg gan swyddogion yr henaduriaeth, sef D. Davies (Tremlyn) a W. Gwenlyn Evans, a dyma eu hadroddiad: | ||
''Penrallt''. Ffyddlondeb mewn man anghysbell. Y dosbarthiadau ieuengaf yn darllen yn bur wallus. Ymgais i'w gwella. Cyfarfod darllen gyda'r plant yn ystod yr wythnos. Atebion cyffredin yn y dosbarthiadau hynaf, a'r gwersi yn ddieithr iddynt. Dosbarth o rai mewn oed yn dysgu darllen. Wedi esgeuluso hynny pan yn ieuanc, ond yn meistroli eu tasg. Cedwir cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahan.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. II (Caernarfon, 1913), tt.45, 59-60</ref> | ''Penrallt''. Ffyddlondeb mewn man anghysbell. Y dosbarthiadau ieuengaf yn darllen yn bur wallus. Ymgais i'w gwella. Cyfarfod darllen gyda'r plant yn ystod yr wythnos. Atebion cyffredin yn y dosbarthiadau hynaf, a'r gwersi yn ddieithr iddynt. Dosbarth o rai mewn oed yn dysgu darllen. Wedi esgeuluso hynny pan yn ieuanc, ond yn meistroli eu tasg. Cedwir cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahan.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. II (Caernarfon, 1913), tt.45, 59-60</ref> | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 12:54, 26 Rhagfyr 2023
Saif adeilad Ysgoldy Pen'rallt ar ben yr allt sydd yn arwain o'r Lôn Wen i lawr i bentref Waunfawr a Dyffryn Gwyrfai. Nid yw wedi cael ei ddefnyddio fel capel ers blynyddoedd lawer. Cangen ydoedd o Gapel Waunfawr, ac fe'i codwyd ym 1864 er mwyn hwylustod y gymuned fach o ffermydd ar ochr ddeheuol Afon Gwyrfai a llethrau Moel Smytho. Cafwyd y tir yn rhodd gan Evan Owen, Pen'rallt. Cyn i'r capel bach gael ei godi, cynhelid ysgol Sul ym Mhen'rallt a chyn hynny yn ffermdy Gwredog Isaf.
Er mai'r prif ddiben oedd cynnal ysgol Sul yno ar gyfer plant ac oedolion, cynhelid gwasanaeth gyda phregeth unwaith y mis. Fis Hydref 1885, cafwyd arolwg gan swyddogion yr henaduriaeth, sef D. Davies (Tremlyn) a W. Gwenlyn Evans, a dyma eu hadroddiad:
Penrallt. Ffyddlondeb mewn man anghysbell. Y dosbarthiadau ieuengaf yn darllen yn bur wallus. Ymgais i'w gwella. Cyfarfod darllen gyda'r plant yn ystod yr wythnos. Atebion cyffredin yn y dosbarthiadau hynaf, a'r gwersi yn ddieithr iddynt. Dosbarth o rai mewn oed yn dysgu darllen. Wedi esgeuluso hynny pan yn ieuanc, ond yn meistroli eu tasg. Cedwir cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahan.[1]
Enw pobl leol ar yr ysgoldy hwn oedd Capel bach y mynydd..[2]