Chwarel Brynfferam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarel lechi ar [[Tir Comin Moel Tryfan|comin Moel Tryfan]] oedd '''Chwarel Brynfferam''', (SH 518556). Safai yn uchel ar lethr ddeheuol [[Moel Tryfan]] a bu hanes hir ond bur aflwyddiannus iddi. Dywedir yr hanes yn fanwl yn llyfr Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards ond yn fras, fe'i chafodd ei hagor tua 1825 gan Robert Hughes, Tŷ Hen, Caernarfon, a bu 8 i 10 o chwarelwyr wrthi am rai blynyddoedd tan i Hughes farw ym 1828. Wedyn ym 1848, aeth criw o chwarelwyr ati i weld a oedd llechi masnachol yn y graig. Buddsoddwyd arian gan nifer o bobl ddiarth ond heb lwyddiant ar ôl hynny.  
Chwarel lechi ar [[Tir Comin Moel Tryfan|gomin Moel Tryfan]] oedd '''Chwarel Brynfferam''', (SH 518556). Safai yn uchel ar lethr ddeheuol [[Moel Tryfan]] a bu hanes hir ond pur aflwyddiannus iddi. Adroddir yr hanes yn fanwl yn llyfr [[Gwynfor Pierce Jones]] ac Alun John Richards ond, yn fras, cafodd ei hagor tua 1825 gan Robert Hughes, Tŷ Hen, Caernarfon, a bu rhwng 8 a 10 o chwarelwyr wrthi yno am rai blynyddoedd tan i Hughes farw ym 1828. Wedyn, ym 1848, aeth criw o chwarelwyr ati i weld a oedd llechi masnachol yn y graig. Buddsoddwyd arian gan nifer o bobl ddiarth ond heb gael unrhyw wir lwyddiant mewn gwirionedd.  


Tua 1862, roedd Robert Parry Williams wedi ei gyflogi fel rheolwr y safle, dan Gwmni Llechi Brynfferam Cyf. (cwmni a'i phencadlys yn Lloegr). Ymysg y cyfranddalwyr oedd [[Thomas Savin]], a oedd ar y pryd yn berchennog newydd [[Rheilffordd Nantlle]]. Roedd 20 o ddynion yncael eu ctflogi ym 1866, a 34 y flwyddyn ganlynol. Serch hyn, pitw oedd y cynnyrch - 140 tunnell ym 1870. Daeth y cwmni i ben ym 1872, ond bu gwaith ysbeidiol gydol y blynyddoedd wedyn, a chymerodd Syur [[Llewelyn Turner]] ddiddordeb yn y chwarel. Ym 1882 ffurfiwyd cwmni newydd, Cwmni Llechi Newydd Brynfferam Cyf. Y flwyddyn ganlynol, cynhyrchwyd 252 tunnell gan 18 o ddynion, a hynny heb wneud elw. Caewyd eto ym 1884, ond ailgychwynwyd gyda dau o ddynion ym 1887; eto ym 1895 gyda phedwar neu bump, ac ym 1900 gyda arhwng 8 ac 11. Marwodd Turner ym 1904 a chaewyd y lle eto. Ym 1927, cymerwyd prydles gan Lewis Thomas, Caehaidd, a pharhaodd i weithio'n ysbeidiol tan y 1950au, fel arfer gan un chwarelwr rhan amser.
Tua 1862, roedd Robert Parry Williams wedi ei gyflogi gan Gwmni Llechi Brynfferam Cyf. (cwmni â'i bencadlys yn Lloegr) fel rheolwr y safle. Ymysg y cyfranddalwyr roedd [[Thomas Savin]], a oedd ar y pryd yn berchennog newydd [[Rheilffordd Nantlle]]. Roedd 20 o ddynion yn cael eu cyflogi ym 1866, a 34 y flwyddyn ganlynol. Serch hynny, pitw oedd y cynnyrch - 140 tunnell ym 1870. Daeth y cwmni i ben ym 1872, ond bu gwaith ysbeidiol am rai blynyddoedd wedyn, a chymerodd Syr [[Llewelyn Turner]] ddiddordeb yn y chwarel. Ym 1882 ffurfiwyd cwmni newydd, Cwmni Llechi Newydd Brynfferam Cyf. Y flwyddyn ganlynol, cynhyrchwyd 252 tunnell gan 18 o ddynion, a hynny heb wneud elw. Caewyd y chwarel eto ym 1884, ond fe'i hail-gychwynnwyd gyda dau o ddynion ym 1887; cychwynnwyd gweithio yno eto ym 1895 gyda phedwar neu bump, ac ym 1900 gyda rhwng 8 ac 11. Bu Turner farw ym 1904 a chaewyd y lle drachefn. Ym 1927, cymerwyd prydles gan Lewis Thomas, Caehaidd, a pharhaodd i weithio'n ysbeidiol tan y 1950au, fel arfer gan un chwarelwr rhan-amser.


Roedd [[Chwarel Pretoria]] yn fenter arall gerllaw gan gwmni Brynfferam. Fel Pretoria, nid oedd gan Brynfferam gysylltiad â'r tramffyrdd a gysylltai'r chwareli eraill â'r rheilffyurdd mawr, ac nid oedd unrhyw beiriannau o gwbl yno tan 1951!<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.273-8.</ref>
Roedd [[Chwarel Pretoria]] yn fenter arall gerllaw a gychwynnwyd gan gwmni Brynfferam. Nid oedd gan y ddwy chwarel fach hyn gysylltiad â'r tramffyrdd a gysylltai'r chwareli eraill â'r rheilffyrdd mawr, ac nid oedd unrhyw beiriannau o gwbl yno tan 1951!<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.273-8.</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Chwareli llechi]]
[[Categori:Chwareli llechi]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 08:12, 9 Hydref 2023

Chwarel lechi ar gomin Moel Tryfan oedd Chwarel Brynfferam, (SH 518556). Safai yn uchel ar lethr ddeheuol Moel Tryfan a bu hanes hir ond pur aflwyddiannus iddi. Adroddir yr hanes yn fanwl yn llyfr Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards ond, yn fras, cafodd ei hagor tua 1825 gan Robert Hughes, Tŷ Hen, Caernarfon, a bu rhwng 8 a 10 o chwarelwyr wrthi yno am rai blynyddoedd tan i Hughes farw ym 1828. Wedyn, ym 1848, aeth criw o chwarelwyr ati i weld a oedd llechi masnachol yn y graig. Buddsoddwyd arian gan nifer o bobl ddiarth ond heb gael unrhyw wir lwyddiant mewn gwirionedd.

Tua 1862, roedd Robert Parry Williams wedi ei gyflogi gan Gwmni Llechi Brynfferam Cyf. (cwmni â'i bencadlys yn Lloegr) fel rheolwr y safle. Ymysg y cyfranddalwyr roedd Thomas Savin, a oedd ar y pryd yn berchennog newydd Rheilffordd Nantlle. Roedd 20 o ddynion yn cael eu cyflogi ym 1866, a 34 y flwyddyn ganlynol. Serch hynny, pitw oedd y cynnyrch - 140 tunnell ym 1870. Daeth y cwmni i ben ym 1872, ond bu gwaith ysbeidiol am rai blynyddoedd wedyn, a chymerodd Syr Llewelyn Turner ddiddordeb yn y chwarel. Ym 1882 ffurfiwyd cwmni newydd, Cwmni Llechi Newydd Brynfferam Cyf. Y flwyddyn ganlynol, cynhyrchwyd 252 tunnell gan 18 o ddynion, a hynny heb wneud elw. Caewyd y chwarel eto ym 1884, ond fe'i hail-gychwynnwyd gyda dau o ddynion ym 1887; cychwynnwyd gweithio yno eto ym 1895 gyda phedwar neu bump, ac ym 1900 gyda rhwng 8 ac 11. Bu Turner farw ym 1904 a chaewyd y lle drachefn. Ym 1927, cymerwyd prydles gan Lewis Thomas, Caehaidd, a pharhaodd i weithio'n ysbeidiol tan y 1950au, fel arfer gan un chwarelwr rhan-amser.

Roedd Chwarel Pretoria yn fenter arall gerllaw a gychwynnwyd gan gwmni Brynfferam. Nid oedd gan y ddwy chwarel fach hyn gysylltiad â'r tramffyrdd a gysylltai'r chwareli eraill â'r rheilffyrdd mawr, ac nid oedd unrhyw beiriannau o gwbl yno tan 1951![1]

Cyfeiriadau

  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.273-8.