Thomas Savin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Savin (1826-23 Gorffennaf 1889) yn gyfrifol am lawer o'r rheilffyrdd a adeiladwyd yng Ngogledd Cymru. Yn fasnachwr o Drefonnen, Swydd Amwythig, bu'n fasnachwr yng Nghroesoswallt cyn mentro i fyd adeiladu rheilffyrdd ac, er iddo gael ei wneud yn fethdalwr, parhaodd i weithredu fel peiriannydd a hyrwyddwr Rheilffordd Sir Gaernarfon, ar y cyd â Benjamin Piercy. Mae yna rywfaint o le i gredu ei fod yn Gymro o ran iaith. Priododd un o ferched ei frawd John Savin, (a oedd hefyd yn beiriannydd rheilffyrdd), y ficer a anfarwolwyd yn Un Nos Ola Leuad, Caradog Prichard.