Benjamin Piercy

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hyrwyddwr a pheiriannydd rheilffordd oedd Benjamin Piercy (1827-1888). Roedd yn bartner efo Thomas Savin yn y gwaith o sefydlu Rheilffordd Sir Gaernarfon. Yn wreiddiol o Drefeglwys, Sir Drefaldwyn, fe ddilynodd ei dad yn y proffesiwn tirfesur. Savin chwaraeodd y brif ran mewn sefydlu Rheilffordd Sir Gaernarfon, fodd bynnag, gan fod Piercy wedi dechrau ym 1862 ar gyfnod hir fel prif hyrwyddwr, peiriannydd a symbylydd rheilffyrdd Sardinia.

Ffynonellau

  • A Regional History of the Railways of Great Britain; Peter E. Baughan, Cyf.11: North and Mid Wales; David & Charles (1980); tt.97-9
  • Y Bywgraffiadur Cymreig, Anrh. Gym. y Cymmrodorion (1953); t.722