Tirion Pelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Tyddyn yn [[Nasareth]], plwyf [[Llanllyfni]] yw '''Tirion Pelyn'''. | Tyddyn yn [[Nasareth]], plwyf [[Llanllyfni]] yw '''Tirion Pelyn'''. | ||
Gerllaw mae tyddynnod eraill o’r enw Pen Pelyn a Llidiart Pelyn. | Gerllaw mae tyddynnod eraill o’r enw Pen Pelyn a Llidiart Pelyn. Ystyr “tirion” yw tiroedd. Enw dyn yw Pelyn. Gŵr o’r enw Belyn o Lŷn oedd un o arweinwyr y Cymry yng Ngogledd Cymru yn eu brwydrau yn erbyn y Saeson yn y seithfed ganrif.<ref>Bedwyr Lewis Jones, ''Yn Ei Elfen'' (Llanrwst, 1992), t.83</ref> | ||
Yma y ganwyd [[Hugh W. Hughes (Llechfrenin America)]] (1836-1890) yn un o naw o blant. Aeth i America yn 21 oed a bu’n gweithio mewn chwareli. Cynilodd ddigon o arian i fedru agor ei chwarel ei hun. Gwnaeth elw mawr trwy brynu a gwerthu rhagor o chwareli a’u gweithio; sefydlodd fanc; cododd balas o dŷ a daeth yn arweinydd llywodraeth leol. | |||
Pan fu farw gadawodd stad gwerth $125,000 a pholisi yswiriant gwerth $15,000. Mae cofgolofn anferth iddo ym mynwent Elmwood, Middle Granville, Efrog Newydd. | |||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Ffermydd]] | [[Categori:Ffermydd]] | ||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] | [[Categori:Safleoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Enwau lleoedd]] | [[Categori:Enwau lleoedd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:52, 25 Ebrill 2023
Tyddyn yn Nasareth, plwyf Llanllyfni yw Tirion Pelyn.
Gerllaw mae tyddynnod eraill o’r enw Pen Pelyn a Llidiart Pelyn. Ystyr “tirion” yw tiroedd. Enw dyn yw Pelyn. Gŵr o’r enw Belyn o Lŷn oedd un o arweinwyr y Cymry yng Ngogledd Cymru yn eu brwydrau yn erbyn y Saeson yn y seithfed ganrif.[1]
Yma y ganwyd Hugh W. Hughes (Llechfrenin America) (1836-1890) yn un o naw o blant. Aeth i America yn 21 oed a bu’n gweithio mewn chwareli. Cynilodd ddigon o arian i fedru agor ei chwarel ei hun. Gwnaeth elw mawr trwy brynu a gwerthu rhagor o chwareli a’u gweithio; sefydlodd fanc; cododd balas o dŷ a daeth yn arweinydd llywodraeth leol.
Pan fu farw gadawodd stad gwerth $125,000 a pholisi yswiriant gwerth $15,000. Mae cofgolofn anferth iddo ym mynwent Elmwood, Middle Granville, Efrog Newydd.
Cyfeiriadau
- ↑ Bedwyr Lewis Jones, Yn Ei Elfen (Llanrwst, 1992), t.83