Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Plasty a gafodd ei ailadeiladu o gwmpas 1840-46 yw '''Glynllifon'''. Saif ar lan [[Afon Llifon]] ym mhlwyf [[Llandwrog]], ychydig i'r dwyrain o lôn bost Pwllheli (A499). | Plasty a gafodd ei ailadeiladu o gwmpas 1840-46 yw '''Glynllifon'''. Saif ar lan [[Afon Llifon]] ym mhlwyf [[Llandwrog]], ychydig i'r dwyrain o lôn bost Pwllheli (A499). | ||
Roedd y tŷ hwn yn gartref i [[Teulu Glynn (Glynllifon)|deulu’r Glyniaid]] am lawer canrif, | Roedd y tŷ hwn yn gartref i [[Teulu Glynn (Glynllifon)|deulu’r Glyniaid]] am lawer canrif, a hefyd i’r [[Arglwyddi Newborough]] o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y tŷ a welwn yno heddiw o gwmpas 1840-46, ar ôl i dân ddinistrio’r tŷ a safai yno ynghynt. Credir i’r tŷ hwnnw gael ei adeiladu o gwmpas 1751, a'i fod yntau wedi cymryd lle annedd hŷn a oedd yn gartref i’r Glyniaid. Aeth y trydydd [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Arglwydd Newborough]] ati i ailadeiladu'r plasty wedi'r tân, gan weithredu i raddau helaeth fel y pensaer gwreiddiol. Cyflogwyd [[Edward Haycock]], pensaer o Amwythig, i fireinio ei ddyluniadau.<ref>[https://en.wikipedia.org/wiki/Glynllifon Erthygl ar Wicipedia am y plasty hwn]; [http://www.coflein.gov.uk/cy/site/26526/details/glynllifon-mansion-llandwrog Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref> Ar ôl iddo gael ei helaethu trwy i [[Frederick George Wynn]] ychwanegu aden helaeth ar un ochr o'r tŷ yn yr 1890au, roedd 102 o ystafelloedd yn y tŷ. | ||
Roedd y plasty yn gartref i’r Arglwyddi Newborough hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac | Roedd y plasty yn gartref i’r Arglwyddi Newborough hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac arhosodd yn nwylo’r teulu hyd at 1949. Etifeddodd Thomas John Wynn [[Ystad Glynllifon]] wedi i'w ewythr, yr Anrh. [[Frederick George Wynn]], farw ym 1932. Er iddo fyw am ran o'i amser ym mhlasty [[Glynllifon]], fe'i gwerthwyd ym 1949, nid yn gymaint am ei fod yn rhy fawr - er bod y plas yn cynnwys 102 o ystafelloedd - ond, a dyfynnu yr hyn a roddodd fel rheswm am y gwerthiant: "trethiant uchel ac o achos fy mod i'n ei chael hi bron yn amhosibl i benodi staff."<ref>Gwefan ''Handed On: Being a random register of long-held private country houses not generally open to the public'', Rhug, Denbighshire, [https://handedon.wordpress.com/2015/07/14/rhug-denbighshire/], cyrchwyd 19.2.2021</ref> Fe werthwyd yr eiddo i fasnachwyr coed o Drawsfynydd a aeth ati i gwympo llawer o'r coed prin aeddfed a blannwyd gan y teulu. Ailwerthwyd y plas a llawer o'r tir yn nechrau’r 50au i'r Cyngor Sir, a daeth wedyn yn lleoliad newydd y coleg amaethyddol a fu gynt ym Mhlas Madryn, Llŷn. Mae’r coleg amaethyddol yn parhau a bellach mae llawer o'r adeiladau sydd o gwmpas y plasty yn gartref i Goleg Meirion-Dwyfor. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu cynlluniau i adnewyddu'r plas ei hun a'i droi'n westy moethus. Gwnaed llawer o waith arno ond ar hyn o bryd (2021) rhoddwyd terfyn ar y gweithgareddau ac mae ei ddyfodol yn ansicr. | ||
Mae’r tŷ hefyd yn gartref i ystlumod pedolog lleiaf, ac mae rhannau o’r tŷ o dan | Mae’r tŷ hefyd yn gartref i ystlumod pedolog lleiaf, ac mae rhannau o’r tŷ o dan warchodaeth y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae rhai o erddi’r plasty, a elwir heddiw yn [[Parc Glynllifon|Barc Glynllifon]] ar agor i’r cyhoedd hefyd, ac mae modd gweld llawer o blanhigion egsotig y daeth rhai o’r hen deulu â hwy'n ôl i Landwrog pan oeddynt ar eu teithiau. | ||
===Ciperiaid=== | ===Ciperiaid=== | ||
Roedd hi'n arfer chwilio am giperiaid ymhell o'r ardal, fel na fyddent yn dangos ffafriaeth i'w ffrindiau neu eu teuluoedd. Un o'r ciperiaid mwyaf llwyddiannus a wnaeth | Roedd hi'n arfer chwilio am giperiaid ymhell o'r ardal, fel na fyddent yn dangos ffafriaeth i'w ffrindiau neu eu teuluoedd. Un o'r ciperiaid mwyaf llwyddiannus a wnaeth lawer i ddatblygu gerddi a thiroedd yr ystad ar gyfer hela a saethu oedd [[John Thorman]] ar ddaeth i Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar. | ||
Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog tua 1783. Cadwodd ddyddiaduron sydd yn gofnod pwysig am yr ystad ar ddechrau'r 19g. Maent bellach yn Archifdy Caernarfon. | Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog, tua 1783. Cadwodd ddyddiaduron sydd yn gofnod pwysig am yr ystad ar ddechrau'r 19g. Maent bellach yn Archifdy Caernarfon. | ||
=== Atgofion John Gwilym Jones === | |||
Ym 1986 cyhoeddodd y diweddar Dr [[John Gwilym Jones]], [[Y Groeslon]], ei gyfrol ddifyr o atgofion, ''Ar draws ac ar hyd''. Ganed John Gwilym ym 1904 a dywed fod [[Ystad Glynllifon|Stad Glynllifon]], gyda'r [[Wal Glynllifon|wal fawr]] fygythiol a'i hamgylchynai, yn destun braw i blant (ac yn wir, i oedolion) yr ardal pan oedd ef yn tyfu i fyny yn Y Groeslon gerllaw. Fodd bynnag, daeth John Gwilym yn ffrindiau â bachgen a oedd yn byw yn y Lodge Uchaf ac, o ganlyniad i'r cyfeillgarwch hwnnw, cafodd fynd o fewn y muriau gwaharddedig ar fwy nag un achlysur. Mae'n werth dyfynnu ei brofiadau o ymweld â'r lle: | |||
"Roedd gan bawb yn y cyffiniau ofn am ei fywyd mynd ar gyfyl Parc Glyn, fel y galwem ni'r stad, ond rywsut neu'i gilydd deuthum yn ffrindiau efo un a oedd yn byw yn y Lodge Uchaf ac felly byddwn yn cael mynd i mewn drwy'r giatiau. Buom i fyny at y tŷ a oedd yn anferth o le ac yn ddigon o ryfeddod. Roedd edrych o'r tŷ i fyny'r ''Dingle'' neu'r [[Cwm Coed]] fel edrych ar wlad y tylwyth teg, cennin Pedr yn garped a'r llwyni'n mynd â'ch gwynt chi o dlysni. Roedd posib dringo grisiau cerrig a sbecian drwy ffenestri mawr y ''conservatory'' i weld trên bach Wynne Glyn, fel y byddem ni'n ei alw. Byddwn wrth fy modd yn edrych arno. | |||
"Byddwn wrth fy modd hefyd yn mynd i'r ogof oedd yn y gerddi, ogof [[Cilmyn Droed-ddu]] yn ôl y chwedl. Roedd ymbalfalu ar hyd twnel hir, tywyll yr ogof yn dipyn o antur a pheth digon mentrus, yn ein meddyliau ni, oedd cyrraedd y pen draw lle roedd ffenest gron yn y to yn taflu golau ar ''fountain''. Tybiem ein bod yn fentrus iawn yn mynd yno oherwydd beth oedd y ''fountain'' ond hogyn bach yn gwneud dŵr! Roedd angen dewrder hefyd i ymweld â'r eryr mawr oedd mewn cell wrth y gerddi ac, a dweud y gwir, yr unig hunllef gefais i yn fy nydd oedd cael fy nal gan gipar yng Nglynllifon."<ref>John Gwilym Jones, ''Ar draws ac ar hyd'', (Gwasg Gwynedd, 1986), tt.21-2</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Llinell 22: | Llinell 28: | ||
[[Categori:Amaethyddiaeth]] | [[Categori:Amaethyddiaeth]] | ||
[[Categori:Plastai ac ystadau]] | [[Categori:Plastai ac ystadau]] | ||
[[Categori:Tai nodedig]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:25, 28 Ionawr 2023
Plasty a gafodd ei ailadeiladu o gwmpas 1840-46 yw Glynllifon. Saif ar lan Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog, ychydig i'r dwyrain o lôn bost Pwllheli (A499).
Roedd y tŷ hwn yn gartref i deulu’r Glyniaid am lawer canrif, a hefyd i’r Arglwyddi Newborough o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y tŷ a welwn yno heddiw o gwmpas 1840-46, ar ôl i dân ddinistrio’r tŷ a safai yno ynghynt. Credir i’r tŷ hwnnw gael ei adeiladu o gwmpas 1751, a'i fod yntau wedi cymryd lle annedd hŷn a oedd yn gartref i’r Glyniaid. Aeth y trydydd Arglwydd Newborough ati i ailadeiladu'r plasty wedi'r tân, gan weithredu i raddau helaeth fel y pensaer gwreiddiol. Cyflogwyd Edward Haycock, pensaer o Amwythig, i fireinio ei ddyluniadau.[1] Ar ôl iddo gael ei helaethu trwy i Frederick George Wynn ychwanegu aden helaeth ar un ochr o'r tŷ yn yr 1890au, roedd 102 o ystafelloedd yn y tŷ.
Roedd y plasty yn gartref i’r Arglwyddi Newborough hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac arhosodd yn nwylo’r teulu hyd at 1949. Etifeddodd Thomas John Wynn Ystad Glynllifon wedi i'w ewythr, yr Anrh. Frederick George Wynn, farw ym 1932. Er iddo fyw am ran o'i amser ym mhlasty Glynllifon, fe'i gwerthwyd ym 1949, nid yn gymaint am ei fod yn rhy fawr - er bod y plas yn cynnwys 102 o ystafelloedd - ond, a dyfynnu yr hyn a roddodd fel rheswm am y gwerthiant: "trethiant uchel ac o achos fy mod i'n ei chael hi bron yn amhosibl i benodi staff."[2] Fe werthwyd yr eiddo i fasnachwyr coed o Drawsfynydd a aeth ati i gwympo llawer o'r coed prin aeddfed a blannwyd gan y teulu. Ailwerthwyd y plas a llawer o'r tir yn nechrau’r 50au i'r Cyngor Sir, a daeth wedyn yn lleoliad newydd y coleg amaethyddol a fu gynt ym Mhlas Madryn, Llŷn. Mae’r coleg amaethyddol yn parhau a bellach mae llawer o'r adeiladau sydd o gwmpas y plasty yn gartref i Goleg Meirion-Dwyfor. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu cynlluniau i adnewyddu'r plas ei hun a'i droi'n westy moethus. Gwnaed llawer o waith arno ond ar hyn o bryd (2021) rhoddwyd terfyn ar y gweithgareddau ac mae ei ddyfodol yn ansicr.
Mae’r tŷ hefyd yn gartref i ystlumod pedolog lleiaf, ac mae rhannau o’r tŷ o dan warchodaeth y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae rhai o erddi’r plasty, a elwir heddiw yn Barc Glynllifon ar agor i’r cyhoedd hefyd, ac mae modd gweld llawer o blanhigion egsotig y daeth rhai o’r hen deulu â hwy'n ôl i Landwrog pan oeddynt ar eu teithiau.
Ciperiaid
Roedd hi'n arfer chwilio am giperiaid ymhell o'r ardal, fel na fyddent yn dangos ffafriaeth i'w ffrindiau neu eu teuluoedd. Un o'r ciperiaid mwyaf llwyddiannus a wnaeth lawer i ddatblygu gerddi a thiroedd yr ystad ar gyfer hela a saethu oedd John Thorman ar ddaeth i Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar. Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog, tua 1783. Cadwodd ddyddiaduron sydd yn gofnod pwysig am yr ystad ar ddechrau'r 19g. Maent bellach yn Archifdy Caernarfon.
Atgofion John Gwilym Jones
Ym 1986 cyhoeddodd y diweddar Dr John Gwilym Jones, Y Groeslon, ei gyfrol ddifyr o atgofion, Ar draws ac ar hyd. Ganed John Gwilym ym 1904 a dywed fod Stad Glynllifon, gyda'r wal fawr fygythiol a'i hamgylchynai, yn destun braw i blant (ac yn wir, i oedolion) yr ardal pan oedd ef yn tyfu i fyny yn Y Groeslon gerllaw. Fodd bynnag, daeth John Gwilym yn ffrindiau â bachgen a oedd yn byw yn y Lodge Uchaf ac, o ganlyniad i'r cyfeillgarwch hwnnw, cafodd fynd o fewn y muriau gwaharddedig ar fwy nag un achlysur. Mae'n werth dyfynnu ei brofiadau o ymweld â'r lle:
"Roedd gan bawb yn y cyffiniau ofn am ei fywyd mynd ar gyfyl Parc Glyn, fel y galwem ni'r stad, ond rywsut neu'i gilydd deuthum yn ffrindiau efo un a oedd yn byw yn y Lodge Uchaf ac felly byddwn yn cael mynd i mewn drwy'r giatiau. Buom i fyny at y tŷ a oedd yn anferth o le ac yn ddigon o ryfeddod. Roedd edrych o'r tŷ i fyny'r Dingle neu'r Cwm Coed fel edrych ar wlad y tylwyth teg, cennin Pedr yn garped a'r llwyni'n mynd â'ch gwynt chi o dlysni. Roedd posib dringo grisiau cerrig a sbecian drwy ffenestri mawr y conservatory i weld trên bach Wynne Glyn, fel y byddem ni'n ei alw. Byddwn wrth fy modd yn edrych arno.
"Byddwn wrth fy modd hefyd yn mynd i'r ogof oedd yn y gerddi, ogof Cilmyn Droed-ddu yn ôl y chwedl. Roedd ymbalfalu ar hyd twnel hir, tywyll yr ogof yn dipyn o antur a pheth digon mentrus, yn ein meddyliau ni, oedd cyrraedd y pen draw lle roedd ffenest gron yn y to yn taflu golau ar fountain. Tybiem ein bod yn fentrus iawn yn mynd yno oherwydd beth oedd y fountain ond hogyn bach yn gwneud dŵr! Roedd angen dewrder hefyd i ymweld â'r eryr mawr oedd mewn cell wrth y gerddi ac, a dweud y gwir, yr unig hunllef gefais i yn fy nydd oedd cael fy nal gan gipar yng Nglynllifon."[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Erthygl ar Wicipedia am y plasty hwn; Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol
- ↑ Gwefan Handed On: Being a random register of long-held private country houses not generally open to the public, Rhug, Denbighshire, [1], cyrchwyd 19.2.2021
- ↑ John Gwilym Jones, Ar draws ac ar hyd, (Gwasg Gwynedd, 1986), tt.21-2