Ysgol Gynradd Bro Llifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Agorwyd '''Ysgol Bro Lleu''' yn [[Y Groeslon]] yn 2015, gan uno [[Ysgol Y Groeslon]], [[Ysgol Carmel]] ac [[Ysgol Bron-y-foel]] yn [[Y Fron]]. Roedd y ddwy ysgol olaf hyn yn weddol fach, ond y rheswm am yr uno oedd y ffaith fod adeilad Ysgol y Groeslon wedi dirywio i'r fath raddau fel nad oedd modd ei atgyweirio ac yr oedd angen ysgol newydd. Gan nad oedd cyllid gan y Cyngor Sir, meddid, rhaid oedd denu arian oddi ar Lywodraeth Cymru, a'r unig ffordd o wireddu hynny oedd trwy gyfuno ysgolion bach y cylch. Cafwyd cryn wrthwynebiad i'r symudiad hwn, er i'r ysgol newydd fod yn hynod o drawiadol o ran cyfleusterau - a symudodd nifer o blant Y Fron a Charmel i ysgolion eraill.
Sefydlwyd '''Ysgol Bro Llifon''' yn 2016 ym mhentref [[Y Groeslon]] i gymryd lle [[Ysgol Carmel]], [[Ysgol Bron-y-foel]] yn Y Fron, ac [[Ysgol Y Groeslon]]. Roedd adeilad (cymharol ddiweddar) Ysgol Y Groeslon wedi cyrraedd diwedd ei oes ac roedd rheidrwydd ar [[Cyngor Gwynedd|Gyngor Gwynedd]] i godi ysgol newydd ond, oherwydd polisïau Cynulliad Cymru ar y pryd, nid oedd arian ar gael oni bai bod y Cyngor yn crynhoi darpariaeth addysg yn y fro, ac yn cau ysgolion bach lle roedd gormod o leoedd gweigion.
 
Yn naturiol, nid oedd hyn yn dderbyniol gan drigolion [[Carmel]] a'r [[Fron]] a chafwyd llawer o wrthwynebiad. Fodd bynnag, caewyd y ddwy ysgol leiaf yn llwyr - ac Ysgol Y Groeslon hefyd mewn enw - gan ddarparu adeilad sylweddol modern gyda'r adnoddau gorau ar safle'r hen ysgol. Eironig braidd oedd y ffaith y bu'n bosib ymgorffori'r adeilad hynaf ar y safle, sef [[Ysgol Babanod Y Groeslon|hen ysgol fach y babanod]], fel rhan o'r adeilad newydd. Serch yr adeilad newydd, bu cryn anniddigrwydd ym mhentrefi [[Carmel]] a'r [[Y Fron|Fron]] ac anfonwyd nifer o blant y pentrefi hynny i ysgolion eraill yn yr ardal.
 
Penodwyd Swyn Maelor fel pennaeth cyntaf yr ysgol newydd, a godwyd ar safle hen Ysgol y Groeslon.


{{eginyn}}
{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Addysg]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:46, 7 Tachwedd 2022

Sefydlwyd Ysgol Bro Llifon yn 2016 ym mhentref Y Groeslon i gymryd lle Ysgol Carmel, Ysgol Bron-y-foel yn Y Fron, ac Ysgol Y Groeslon. Roedd adeilad (cymharol ddiweddar) Ysgol Y Groeslon wedi cyrraedd diwedd ei oes ac roedd rheidrwydd ar Gyngor Gwynedd i godi ysgol newydd ond, oherwydd polisïau Cynulliad Cymru ar y pryd, nid oedd arian ar gael oni bai bod y Cyngor yn crynhoi darpariaeth addysg yn y fro, ac yn cau ysgolion bach lle roedd gormod o leoedd gweigion.

Yn naturiol, nid oedd hyn yn dderbyniol gan drigolion Carmel a'r Fron a chafwyd llawer o wrthwynebiad. Fodd bynnag, caewyd y ddwy ysgol leiaf yn llwyr - ac Ysgol Y Groeslon hefyd mewn enw - gan ddarparu adeilad sylweddol modern gyda'r adnoddau gorau ar safle'r hen ysgol. Eironig braidd oedd y ffaith y bu'n bosib ymgorffori'r adeilad hynaf ar y safle, sef hen ysgol fach y babanod, fel rhan o'r adeilad newydd. Serch yr adeilad newydd, bu cryn anniddigrwydd ym mhentrefi Carmel a'r Fron ac anfonwyd nifer o blant y pentrefi hynny i ysgolion eraill yn yr ardal.

Penodwyd Swyn Maelor fel pennaeth cyntaf yr ysgol newydd, a godwyd ar safle hen Ysgol y Groeslon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau