Howell Roberts (Hywel Tudur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 21: Llinell 21:
       Llon weinidog, llên awdur.  
       Llon weinidog, llên awdur.  


Fodd bynnag, flynyddoedd yn ddiweddarach gwnaed iawn am hynny pan gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Uchaf ar 6 Gorffennaf 1991 i ddadorchuddio cofeb hardd a theilwng i Hywel Tudur - cofeb a roddwyd yn rhodd gan Mrs Catrin Pari Huws o Gaernarfon (Brysgyni Uchaf yn wreiddiol) ac sydd bellach, yn dilyn dymchwel y Capel Uchaf, wedi'i gosod yn yr Ysgoldy yng Nghlynnog. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. Harri Parri a chafwyd anerchiadau gan Dr Gwilym Arthur Jones, Bangor, [[Guto Roberts]] a [[Marian Elias Roberts]], Garreg Boeth a'r Parch. William Jones (Bwlan gynt ac un o gyn-ddisgyblion Ysgol Ragbaratoawl Clynnog). Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddwyd cyfrol fechan ''Hywel Tudur, 1840-1922  Bardd. Pregethwr. Dyfeisydd''. Fe'i golygwyd gan Catrin Pari Huws ac mae'n cynnwys nifer o ysgrifau ar agweddau ar fywyd a gwaith Hywel Tudur a detholiad o'i gerddi a'i ryddiaith.<ref>''Hywel Tudur  1840 - 1922  Bardd. Pregethwr. Dyfeisydd'', Golygwyd gan Catrin Pari Huws, 1993. </ref>
Fodd bynnag, flynyddoedd yn ddiweddarach gwnaed iawn am hynny pan gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Uchaf ar 6 Gorffennaf 1991 i ddadorchuddio cofeb hardd a theilwng i Hywel Tudur - cofeb a roddwyd yn rhodd gan Mrs Catrin Pari Huws o Gaernarfon (Brysgyni Uchaf yn wreiddiol) ac sydd bellach, yn dilyn dymchwel y Capel Uchaf, wedi'i gosod yn yr Ysgoldy yng Nghlynnog. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. Harri Parri a chafwyd anerchiadau gan Dr Gwilym Arthur Jones, Bangor, [[Guto Roberts]] a [[Marian Elias Roberts]], Garreg Boeth a'r Parch. William Jones (Bwlan gynt ac un o gyn-ddisgyblion Ysgol Ragbaratoawl Clynnog). Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddwyd cyfrol fechan ''Hywel Tudur, 1840-1922  Bardd. Pregethwr. Dyfeisydd''. Fe'i golygwyd gan Catrin Pari Huws ac mae'n cynnwys nifer o ysgrifau ar agweddau ar fywyd a gwaith Hywel Tudur a detholiad o'i gerddi a'i ryddiaith.<ref>''Hywel Tudur  1840 - 1922  Bardd. Pregethwr. Dyfeisydd'', Golygwyd gan Catrin Pari Huws, 1993. Mae bron y cyfan o'r ffeithiau yn yr erthygl uchod wedi'u seilio ar wybodaeth a gafwyd o'r gyfrol hon, a dymuna'r awdur gydnabod hynny gyda diolch.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:31, 23 Hydref 2022

Roedd Howell Roberts (Hywel Tudur) (1840-1922) yn fardd, pregethwr a dyfeisydd. Fe'i ganwyd ar yr 21ain o Awst 1840 yn drydydd o wyth o blant mewn bwthyn ger y ffordd rhwng Pandy Tudur, Sir Ddinbych, a Moelogan. Adeiladydd oedd ei dad, Humphrey Roberts, a fyddai'n codi a gwerthu tai.

Ar ôl treulio cyfnod yn cael ei hyfforddi'n athro yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon penodwyd Hywel Tudur yn athro am gyfnod byr yn Ysgol Clynnog, cyn symud yn ysgolfeistr i bentref Llanllyfni. Yn fuan wedi iddo symud i Glynnog, priododd ar 30 Medi 1863 â Margaret Jane Williams o fferm Hafod-y-Wern, Clynnog a chawsant bump o blant. Erbyn Cyfrifiad 1871 roedd y teulu wedi ymgartrefu yn Nhŷ'r Ysgol Llanllyfni, lle'r arhosodd yn athro tan 1874. Er fod Hywel Tudur yn un a ymddiddorai'n fawr mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg, eto gweithredid trefn atgas y "Welsh Not" yn ystod ei gyfnod yn Llanllyfni, fel y nododd yn llyfr log yr ysgol ar 20 Rhagfyr 1872: "The past week is memorable in the fact that Welsh has been transported from the premises in all the Standards below Standard 3". (Mae fel pe bai'n ymfalchïo yn y ffaith rhywsut, ac yn wir gwaherddid plant Standard 5 a 6 rhag siarad Cymraeg hyd yn oed ar y ffordd i'r ysgol!)

Yn Llanllyfni ymunodd ag achos y Methodistiaid Calfinaidd yno. Daeth yn flaenor yn fuan ac yna dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol. Erbyn 1879 daeth i weinidogaethu dros yr achos yn Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr ac fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn y Gymdeithasfa a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ym 1881. Yn ddiweddarach daeth yn weinidog Capel Seion (MC), Gurn Goch yn ogystal.

Mae'n ymddangos iddo golli ei swydd fel ysgolfeistr Llanllyfni ym 1874 a symudodd gyda'i deulu i gartref ei wraig, Hafod-y-Wern lle bu'n ffermio gyda'i dad-yng-nghyfraith am gyfnod yn ogystal â chyflawni ei ddyletswyddau fel gweinidog. Bu farw Margaret Jane ei wraig yn ddynes bur ifanc ac yn ddiweddarach ailbriododd Hywel Tudur â merch o'i fro enedigol, a oedd yn chwaer i'r Parch. Dewi Williams, a fu am nifer o flynyddoedd yn brifathro Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, a gynhelid yn yr Ysgoldy, sydd bellach yn gartref i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai. Cafwyd dau o blant o'r ail briodas. Symudodd Hywel Tudur a'i deulu o Hafod-y-Wern yn ddiweddarach i dŷ sylweddol a gynlluniodd ei hun ar gyrion pentref Clynnog, ac o fewn tafliad carreg i'r Ysgoldy. Fe'i galwodd yn Bryn Eisteddfod - gan honni y cynhelid eisteddfodau ar y llecyn yn yr hen amser. Diddorol nodi mai'r Prifardd Meirion MacIntyre Huws (Mei Mac) a'i deulu sy'n byw yno erbyn hyn.

Gyda'i dad o'i flaen yn adeiladydd blaenllaw, roedd Hywel Tudur yn fedrus fel cynllunydd adeiladau a thirfesurydd. Roedd yn ogystal yn fathemategydd dawnus a byddai galw cyson am ei gymorth yn y maes hwnnw gan drigolion yr ardal. Fel llawer i ysgolfeistr a gweinidog byddai llawer yn dod ato hefyd i lunio eu hewyllysiau.

Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hedfan a dywedid y byddai'n treulio amser mawr yn astudio adar a phryfetach gan geisio dirnad natur eu symudiadau. Aeth ati i adeiladu math o awyren ei hun ("gleidar" mae'n debyg) er na wnaeth hedfan yn ôl y sôn. Bu'n arbrofi hefyd gyda "propellors" ac ym 1917 cyflwynodd gynllun i'r Swyddfa Batent ar gyfer "A Propellor or Driving Wheel to put in Motion Vehicles, Boats and Flying Machines". Derbyniwyd y cynllun gan y Swyddfa ond mae'n ymddangos na ddaeth unrhyw beth ohono er iddo gyflwyno darluniau ac eglurhad manwl o'r cynllun. Mae'n amlwg ei fod yn ymddiddori hefyd ym myd cerbydau modur a bysiau a oedd yn dechrau dod yn gyffredin ddechrau'r 20g oherwydd roedd yn un o brif ysgogwyr sefydlu cwmni bysiau Clynnog a Threfor (Y Moto Coch) ym 1912.

Roedd wedi dechrau ymddiddori mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg yn ystod ei ieuenctid ym Mhandy Tudur a dywedir mai'r prif reswm iddo ddod i Glynnog ym 1863 oedd er mwyn dod i gysylltiad ag Eben Fardd, a edmygai'n fawr. Fodd bynnag, bu Eben farw ym mis Chwefror 1863 ac felly dichon na chafodd Hywel fawr ddim o'i gwmni, os o gwbl. Yn ddiweddarach, ym 1873 o bosib, cyhoeddoedd Hywel Tudur (ar y cyd â William Jones, Bryn Gwydion) gyfrol sylweddol, sef Gweithiau Eben Fardd ac yn ddiweddarach, ym 1902, cyhoeddodd ddetholiad byrrach o waith Eben dan y teitl Tlysau Beuno. Cynhyrchodd Hywel Tudur swm sylweddol o farddoniaeth ei hun a chyhoeddodd Llyfr Genesis i Blant, sef rhai o storïau Genesis ar gân i blant 3 i 15 oed. Ymddangosodd llawer o'i waith hefyd yng nghylchgronau a chyfnodolion y cyfnod ac roedd galw am ei wasanaeth i lunio englynion beddargraff. (Yn y gyfrol Lloffion o'r Llan, casgliad o englynion o fynwentydd cwmwd Uwchgwyrfai (Geraint Llewelyn Jones, Gwasg Tŷ ar y Graig, 1982) ceir bron i ugain englyn o'i waith.) Roedd Hywel Tudur yn gweithredu'n aml fel beirniad hefyd, megis yn y gylchwyl lenyddol a cherddorol a gynhelid yn flynyddol yn y Capel Uchaf, lle bu'n beirniadu'r adrodd, llên a barddoniaeth am gyfnod sylweddol.

Bu farw ym 1922 ond, am ryw reswm, ni roddwyd carreg ar ei fedd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli ym 1925 cafwyd cystadleuaeth i lunio englyn beddargraff iddo. Cafwyd dros hanner cant o gynigion, gyda D. Jones, Penrhyndeudraeth yn ennill y wobr. Dyma'r englyn, er nad oedd carreg i'w dorri arni:

  Y tadol Hywel Tudur - geir is hon,
        Gŵr o serch di fesur
     Un garai pawb, a gŵr pur
     Llon weinidog, llên awdur. 

Fodd bynnag, flynyddoedd yn ddiweddarach gwnaed iawn am hynny pan gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Uchaf ar 6 Gorffennaf 1991 i ddadorchuddio cofeb hardd a theilwng i Hywel Tudur - cofeb a roddwyd yn rhodd gan Mrs Catrin Pari Huws o Gaernarfon (Brysgyni Uchaf yn wreiddiol) ac sydd bellach, yn dilyn dymchwel y Capel Uchaf, wedi'i gosod yn yr Ysgoldy yng Nghlynnog. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. Harri Parri a chafwyd anerchiadau gan Dr Gwilym Arthur Jones, Bangor, Guto Roberts a Marian Elias Roberts, Garreg Boeth a'r Parch. William Jones (Bwlan gynt ac un o gyn-ddisgyblion Ysgol Ragbaratoawl Clynnog). Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddwyd cyfrol fechan Hywel Tudur, 1840-1922 Bardd. Pregethwr. Dyfeisydd. Fe'i golygwyd gan Catrin Pari Huws ac mae'n cynnwys nifer o ysgrifau ar agweddau ar fywyd a gwaith Hywel Tudur a detholiad o'i gerddi a'i ryddiaith.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Hywel Tudur 1840 - 1922 Bardd. Pregethwr. Dyfeisydd, Golygwyd gan Catrin Pari Huws, 1993. Mae bron y cyfan o'r ffeithiau yn yr erthygl uchod wedi'u seilio ar wybodaeth a gafwyd o'r gyfrol hon, a dymuna'r awdur gydnabod hynny gyda diolch.