William Glynn (Y Sarsiant): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''William Glynn''' a elwid yn "William Glynn y Sarsiant", yn fab i Robert ap Meredydd a'i ail wraig, Jane Puleston o Gaernarfon. | Roedd '''William Glynn''' (1511 - tua 1562) a elwid yn "William Glynn y Sarsiant", yn unig fab i [[Robert ap Meredydd]] (m.1509) a'i ail wraig, Jane Puleston o Gaernarfon, merch John Puleston "Hen" (er i Robert ap Meredydd gael pedwar mab a merch gyda'i wraig gyntaf, Elin Bulkeley).<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, ?1915), tt.67-8</ref> | ||
Fel un na chafodd gymaint o etifeddiaeth o ran tiroedd â'i frodyr hŷn (a etifeddodd [[Glynllifon]], [[Plas Newydd]] a thiroedd Nantlle), aeth ati i geisio hel ystad yn nhrefgordd [[Bodellog]], a thrwy hynny fynd i helynt gyda theulu'r [[Pengwern]] a hawliai'r un tir. Aflwyddiannus fu ei ymdrechion, fodd bynnag, a threuliodd ei amser i raddau'n gwasanaethu brenin Lloegr, Harri VIII. Yn ôl yr hanesydd [[W. Gilbert Williams]], roedd ei hanner-brodyr Rhisiart ac Edmwnd "yn llawer mwy defnyddiol i'w gwlad".<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, ?1915), t.78</ref> | |||
Priododd William ap Robert (fel yr adwaenid ef ar ddechrau ei oes nes iddo fabwysiadu cyfenw'r teulu, sef Glyn neu Glynn) â Grace, merch Ceidwad Castell Biwmares, Syr Roland Velville, mab anghyfreithlon i'r brenin Harri VII. Ar farwolaeth ei dad-yng-nghyfraith, aeth ati gyda'r weddw Arglwyddes Velville (Agnes, merch William Griffith, Penrhyn)<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.223, 270.</ref> i geisio swydd ceidwad y castell ond fe'i trechwyd gan Syr Richard Bulkeley. Dichon mai gwobr gysur oedd iddo dderbyn swydd Stiward cwmwd Menai, gyda chyflog blynyddol o £5. Cyrchai'n aml i Lundain ac erbyn 1537, os nad cynt, roedd wedi dyfod yn sarsiant-wrth-arfau ac aelod o gorfflu'r brenin. Ymddengys, eto yn ôl Gilbert Williams, na fu'n ymwneud fawr ddim â'i sir enedigol na'i diwylliant; serch hynny, ymddengys ei fod wedi ei benodi i'r fainc ynadol cyntaf y mae cofnod ohoni yn y sir, ym 1542-3. <ref>W Ogwen Williams, ''A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records'' (Caernarfon, 1956) tt.247-8, 251</ref>. Ni cheir cywyddau yn ei foli fel y cafodd llawer o'i gyfoedion bonheddig, a dim ond un farwnad, sef ''Marwnad William ap Robert Amhrydedd sef Sersiant Glyn''. Fodd bynnag, ymfalchïai ei ddisgynyddion yn ei hanes a'i deitl, gan arddel y teitl "Y Sarsiant" ym mhob achres. Yn fwy na hynny, drwy bob cenhedlaeth, nes i etifeddes derfynol y llinach, [[Mary Glynn]], briodi â [[George Twisleton]] yn ystod y 1650au, enwyd y mab cyntaf yn William.<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, ?1915), tt.79-82</ref> | |||
Cafodd y Sarsiant un mab, [[William Glynn, Lleuar|William Glynn]], a thrwy briodas hwnnw â Lowri, etifeddes Lleuar, daeth ef yn sylfaenydd teulu Glynniaid [[Lleuar Fawr]], [[Clynnog Fawr]].<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GLYN-LLI-0850], cyrchwyd 19.10.2019</ref> Wedi marwolaeth Grace, ail-briododd â Grace arall, sef merch Thomas Mostyn o Fostyn; cawsant un ferch, Jane, a briododd â Hwmffre ap Dafydd Llwyd o'r Rosgyll Fawr.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.270</ref> | |||
Gellid honni, o'r dystiolaeth denau sydd gennym o'r cyfnod, ei fod yn un o fonheddwyr cyntaf y cwmwd i droi ei olygon at Loegr a'r cyfleon newydd i fanteisio ar dras y Tuduriaid, gan gefnu i raddau ar Gymru. Fodd bynnag, fe wnaeth ei olynwyr, a gafodd ystad ddigonol trwy Lowri (merch-yng-nghyfraith y Sarsiant), ymfodloni'n hapus fel ysgweiriaid yn [[Uwchgwyrfai]]. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:33, 20 Gorffennaf 2022
Roedd William Glynn (1511 - tua 1562) a elwid yn "William Glynn y Sarsiant", yn unig fab i Robert ap Meredydd (m.1509) a'i ail wraig, Jane Puleston o Gaernarfon, merch John Puleston "Hen" (er i Robert ap Meredydd gael pedwar mab a merch gyda'i wraig gyntaf, Elin Bulkeley).[1]
Fel un na chafodd gymaint o etifeddiaeth o ran tiroedd â'i frodyr hŷn (a etifeddodd Glynllifon, Plas Newydd a thiroedd Nantlle), aeth ati i geisio hel ystad yn nhrefgordd Bodellog, a thrwy hynny fynd i helynt gyda theulu'r Pengwern a hawliai'r un tir. Aflwyddiannus fu ei ymdrechion, fodd bynnag, a threuliodd ei amser i raddau'n gwasanaethu brenin Lloegr, Harri VIII. Yn ôl yr hanesydd W. Gilbert Williams, roedd ei hanner-brodyr Rhisiart ac Edmwnd "yn llawer mwy defnyddiol i'w gwlad".[2]
Priododd William ap Robert (fel yr adwaenid ef ar ddechrau ei oes nes iddo fabwysiadu cyfenw'r teulu, sef Glyn neu Glynn) â Grace, merch Ceidwad Castell Biwmares, Syr Roland Velville, mab anghyfreithlon i'r brenin Harri VII. Ar farwolaeth ei dad-yng-nghyfraith, aeth ati gyda'r weddw Arglwyddes Velville (Agnes, merch William Griffith, Penrhyn)[3] i geisio swydd ceidwad y castell ond fe'i trechwyd gan Syr Richard Bulkeley. Dichon mai gwobr gysur oedd iddo dderbyn swydd Stiward cwmwd Menai, gyda chyflog blynyddol o £5. Cyrchai'n aml i Lundain ac erbyn 1537, os nad cynt, roedd wedi dyfod yn sarsiant-wrth-arfau ac aelod o gorfflu'r brenin. Ymddengys, eto yn ôl Gilbert Williams, na fu'n ymwneud fawr ddim â'i sir enedigol na'i diwylliant; serch hynny, ymddengys ei fod wedi ei benodi i'r fainc ynadol cyntaf y mae cofnod ohoni yn y sir, ym 1542-3. [4]. Ni cheir cywyddau yn ei foli fel y cafodd llawer o'i gyfoedion bonheddig, a dim ond un farwnad, sef Marwnad William ap Robert Amhrydedd sef Sersiant Glyn. Fodd bynnag, ymfalchïai ei ddisgynyddion yn ei hanes a'i deitl, gan arddel y teitl "Y Sarsiant" ym mhob achres. Yn fwy na hynny, drwy bob cenhedlaeth, nes i etifeddes derfynol y llinach, Mary Glynn, briodi â George Twisleton yn ystod y 1650au, enwyd y mab cyntaf yn William.[5]
Cafodd y Sarsiant un mab, William Glynn, a thrwy briodas hwnnw â Lowri, etifeddes Lleuar, daeth ef yn sylfaenydd teulu Glynniaid Lleuar Fawr, Clynnog Fawr.[6] Wedi marwolaeth Grace, ail-briododd â Grace arall, sef merch Thomas Mostyn o Fostyn; cawsant un ferch, Jane, a briododd â Hwmffre ap Dafydd Llwyd o'r Rosgyll Fawr.[7]
Gellid honni, o'r dystiolaeth denau sydd gennym o'r cyfnod, ei fod yn un o fonheddwyr cyntaf y cwmwd i droi ei olygon at Loegr a'r cyfleon newydd i fanteisio ar dras y Tuduriaid, gan gefnu i raddau ar Gymru. Fodd bynnag, fe wnaeth ei olynwyr, a gafodd ystad ddigonol trwy Lowri (merch-yng-nghyfraith y Sarsiant), ymfodloni'n hapus fel ysgweiriaid yn Uwchgwyrfai.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, ?1915), tt.67-8
- ↑ W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, ?1915), t.78
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.223, 270.
- ↑ W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records (Caernarfon, 1956) tt.247-8, 251
- ↑ W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, ?1915), tt.79-82
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein, [1], cyrchwyd 19.10.2019
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.270