Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 24 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Llanaelhaearn''' yn un o | '''Llanaelhaearn''' yw'r plwyf mwyaf deheuol yn [[Uwchgwyrfai]]. Mae'n cynnwys dau bentref, sef Llanaelhaearn a [[Trefor|Threfor]], ac mae Trefor ei hun yn greadigaeth y 19g pan dyfodd y chwarel yno. Ffermydd gwasgaredig ac ambell i dŷ moel yw gweddill anheddau'r plwyf. | ||
==Ffiniau a thirwedd== | |||
Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf [[Clynnog Fawr]] i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr; y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ger Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi [[Pont-y-gydros]]. | |||
Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal [[Cwm Coryn]] ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger [[Elernion]], ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau. | |||
Yr oedd y plwyf yn rhan o [[Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli]] at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen. | |||
==Yr eglwys a'i sant== | |||
Eglwys hynafol y plwyf yw [[Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn|Eglwys Sant Aelhaearn]], sant a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei ehangu a'i ail-doi mor ddiweddar â 1892. | |||
Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd [[Aelhaearn Sant|Sant Aelhaearn]], a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw. | |||
==Tai pwysig ac enwogion== | |||
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. [[Elernion]], plasty a fu'n eiddo i aelodau o deulu [[Glynllifon]] ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi. | |||
Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi: | |||
* [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] pregethwr ac arlunydd. | |||
* [[Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)]] (1852-1943), awdures, ymgyrchydd dros hawliau merched ac un o brif hyrwyddwyr y mudiad dirwest. | |||
* Syr [[David Hughes Parry]] (1893–1973), bargyfreithiwr, Athro'r Gyfraith ac Is-ganghellor Prifysgol | |||
Llundain. | |||
* [[R. L. Gapper|Robert Lambert Gapper]] cerflunydd | |||
* [[Alun Jones]], llenor. | |||
* [[Geraint Jones]], llenor, ymgyrchydd, a bandfeistr. | |||
* Y Dr [[Carl Iwan Clowes]], meddyg lleol a sylfaenydd mentrau pwysig yn y gymdogaeth. | |||
==Y pentref== | |||
Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Y Rivals Inn (neu'r "Ring" i bobl leol) a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Hefyd, ysywaeth, caeodd ysgol y pentref yn 2020. (Bu bron i'r ysgol hon â chael ei chau nôl yn y 1970au heblaw am ddycnwch y pentrefwyr a fynnodd iddi gael ei harbed. Fodd bynnag, erbyn 2020, a nifer y disgyblion wedi gostwng ymhellach, caewyd ei drysau'n derfynol.) Erbyn hyn dim ond modurdy sy'n agored yn Llanaelhaearn. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf. | |||
==Nodweddion eraill y plwyf== | |||
Heb os, bryngaer sylweddol ac arwyddocaol [[Tre'r Ceiri]] yw prif nodwedd y plwyf. | |||
==Hanes diweddar== | |||
Yma ceir adeilad [[Antur Aelhaearn]],a sefydlwyd i ddod a gwaith i'r ardal. | |||
==Cyfeiriadau== | |||
Wicipedia: erthygl ar bentref Trefor. Cyrchwyd 05.01.2018 | |||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | ||
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]] | [[Categori:Plwyfi hanesyddol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:50, 27 Mawrth 2022
Llanaelhaearn yw'r plwyf mwyaf deheuol yn Uwchgwyrfai. Mae'n cynnwys dau bentref, sef Llanaelhaearn a Threfor, ac mae Trefor ei hun yn greadigaeth y 19g pan dyfodd y chwarel yno. Ffermydd gwasgaredig ac ambell i dŷ moel yw gweddill anheddau'r plwyf.
Ffiniau a thirwedd
Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf Clynnog Fawr i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr; y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ger Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi Pont-y-gydros.
Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal Cwm Coryn ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger Elernion, ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.
Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.
Yr eglwys a'i sant
Eglwys hynafol y plwyf yw Eglwys Sant Aelhaearn, sant a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei ehangu a'i ail-doi mor ddiweddar â 1892.
Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd Sant Aelhaearn, a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.
Tai pwysig ac enwogion
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Elernion, plasty a fu'n eiddo i aelodau o deulu Glynllifon ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.
Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:
- Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon pregethwr ac arlunydd.
- Alice Gray Jones (Ceridwen Peris) (1852-1943), awdures, ymgyrchydd dros hawliau merched ac un o brif hyrwyddwyr y mudiad dirwest.
- Syr David Hughes Parry (1893–1973), bargyfreithiwr, Athro'r Gyfraith ac Is-ganghellor Prifysgol
Llundain.
- Robert Lambert Gapper cerflunydd
- Alun Jones, llenor.
- Geraint Jones, llenor, ymgyrchydd, a bandfeistr.
- Y Dr Carl Iwan Clowes, meddyg lleol a sylfaenydd mentrau pwysig yn y gymdogaeth.
Y pentref
Mae pentref Llanaelhaern yn gorwedd o amgylch yr eglwys, rhwng y ffyrdd sydd yn arwain at Bwllheli ac at Nefyn. Bu siop, tafarn Y Rivals Inn (neu'r "Ring" i bobl leol) a swyddfa bost yma tan yn ddiweddar. Hefyd, ysywaeth, caeodd ysgol y pentref yn 2020. (Bu bron i'r ysgol hon â chael ei chau nôl yn y 1970au heblaw am ddycnwch y pentrefwyr a fynnodd iddi gael ei harbed. Fodd bynnag, erbyn 2020, a nifer y disgyblion wedi gostwng ymhellach, caewyd ei drysau'n derfynol.) Erbyn hyn dim ond modurdy sy'n agored yn Llanaelhaearn. Mae rhai cyfleusterau eraill ym mhentref Trefor o fewn ffiniau'r plwyf.
Nodweddion eraill y plwyf
Heb os, bryngaer sylweddol ac arwyddocaol Tre'r Ceiri yw prif nodwedd y plwyf.
Hanes diweddar
Yma ceir adeilad Antur Aelhaearn,a sefydlwyd i ddod a gwaith i'r ardal.
Cyfeiriadau
Wicipedia: erthygl ar bentref Trefor. Cyrchwyd 05.01.2018