Llyn y Dywarchen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Llyn y Dywarchen''' bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf [[Llanwnda]] ac felly o fewn [[Uwchgwyrfai]]. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau a chwareli llechi am ddŵr, gan droi'r llif, a oedd gynt yn rhedeg i [[Afon Llyfnwy]] i gyfeiriad [[Dyffryn Gwyrfai]].<ref>Geraint Thomas, ''Cyfrinachau Llynnoedd Eryri'' (Tal-y-bont, 2011), t.50</ref> Serch hyn, mae'r llyn yn ei hanfod yn un naturiol ac â hanes hir iddo, gan fod Gerallt Cymro yn cyfeirio at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn, a hynny mor gynnar â 1188. Tua 600 mlynedd wedyn, honodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith. Y cyfeiriad olaf at weld yr ynys arnofiol hon oedd ym 1931.
Mae '''Llyn y Dywarchen''' bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf [[Llanwnda]] ac felly o fewn [[Uwchgwyrfai]]. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau a chwareli llechi lleol am ddŵr, gan droi'r llif, a oedd gynt yn rhedeg i [[Afon Llyfnwy]] i gyfeiriad [[Dyffryn Gwyrfai]].<ref>Geraint Thomas, ''Cyfrinachau Llynnoedd Eryri'' (Tal-y-bont, 2011), t.50</ref> Serch hynny, mae'r llyn yn ei hanfod yn un naturiol ac â hanes hir iddo. Cyfeiriodd Gerallt Cymro, mor gynnar â 1188, at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch a oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn. Tua 600 mlynedd wedyn, honnodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith. Y cyfeiriad olaf at weld yr ynys arnofiol hon oedd ym 1931.


Stori a adroddir am hwn ynghyd â nifer o lynnoedd eraill, oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.
Stori a adroddir am hwn, ynghyd â nifer o lynnoedd eraill, oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.


Codwyd tŷ gan deulu [[Drws-y-coed]] yn agos at lle saif y dam presennol ar gyfer [[Morafiaid Drws-y-coed|carfan o gristnogion Morafaidd]] a fu dan erledigaeth ac a ymsefydlodd yn yr ardal. Roedd yr adeilad yn sefyll hyd yn ddiweddar, er yn adfail. Dyma oedd ffermdy [[Drws-y-coed Uchaf]] wedyn, hyd nes y codwyd tŷ modern islaw. Erbyn hyn mae'r safle'n faes parcio bychan.  
Codwyd tŷ gan deulu [[Drws-y-coed]], yn agos at lle saif yr argae presennol a chroesawyd yno  [[Morafiaid Drws-y-coed|garfan o Gristnogion Morafaidd]] a fu dan erledigaeth ac a ymsefydlodd yn yr ardal. Roedd yr adeilad yn sefyll hyd yn ddiweddar, er yn adfail. Dyma oedd ffermdy [[Drws-y-coed Uchaf]] wedyn, hyd nes codwyd tŷ modern yn is i lawr y llechwedd i gyfeiriad Rhyd-ddu. Erbyn hyn mae'r safle'n faes parcio bychan.  


Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.
Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.
Llinell 13: Llinell 13:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Llynnoedd]]
[[Categori:Llynnoedd]]
[[Categori:Cronfeydd dŵr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:44, 2 Mawrth 2022

Mae Llyn y Dywarchen bellach ym mhlwyf Beddgelert ond arferai fod o fewn ffiniau plwyf Llanwnda ac felly o fewn Uwchgwyrfai. Cafodd ei ehangu i ddiwallu anghenion gweithiau mwynau a chwareli llechi lleol am ddŵr, gan droi'r llif, a oedd gynt yn rhedeg i Afon Llyfnwy i gyfeiriad Dyffryn Gwyrfai.[1] Serch hynny, mae'r llyn yn ei hanfod yn un naturiol ac â hanes hir iddo. Cyfeiriodd Gerallt Cymro, mor gynnar â 1188, at y llyn a'r hanes o ynys o dyweirch a oedd yn arnofio ar ei wyneb, gan symud o lan i lan ar draws y llyn. Tua 600 mlynedd wedyn, honnodd Thomas Pennant iddo weld yr un ffenomen ar waith. Y cyfeiriad olaf at weld yr ynys arnofiol hon oedd ym 1931.

Stori a adroddir am hwn, ynghyd â nifer o lynnoedd eraill, oedd i fugail ieuanc weld merch o'r Tylwyth Teg yn dawnsio ar lan y llyn. Syrthiasant mewn cariad a phriodi, ond ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo â haearn. Un diwrnod gwnaeth hynny, a diflannodd y ferch.

Codwyd tŷ gan deulu Drws-y-coed, yn agos at lle saif yr argae presennol a chroesawyd yno garfan o Gristnogion Morafaidd a fu dan erledigaeth ac a ymsefydlodd yn yr ardal. Roedd yr adeilad yn sefyll hyd yn ddiweddar, er yn adfail. Dyma oedd ffermdy Drws-y-coed Uchaf wedyn, hyd nes codwyd tŷ modern yn is i lawr y llechwedd i gyfeiriad Rhyd-ddu. Erbyn hyn mae'r safle'n faes parcio bychan.

Mae'r llyn yn arbennig o boblogaidd gyda physgotwyr.

Ar un adeg roedd nant yn llifo o'r llyn tua'r gorllewin ar hyd Dyffryn Nantlle, ond ers i'r argae gael ei adeiladu mae nant yn llifo i lawr i Lyn y Gader ac Afon Gwyrfai.[2]


Cyfeiriadau

  1. Geraint Thomas, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri (Tal-y-bont, 2011), t.50
  2. Wicipedia [1] cyrchwyd 13.6.2019