Chwarel Nant-y-fron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Geograph-5869378-by-Jonathan-Wilkins.jpg|bawd|de|400-px|Chwarel Nant-y-fron fel y mae heddiw]] | [[Delwedd:Geograph-5869378-by-Jonathan-Wilkins.jpg|bawd|de|400-px|Chwarel Nant-y-fron fel y mae heddiw]] | ||
Mae '''Chwarel Nant-y-fron''' ar ochr | Mae '''Chwarel Nant-y-fron''' ar ochr ddeheuol [[Dyffryn Nantlle]] uwchben pentref [[Tan'rallt]]. Chwarel dau dwll ydoedd, a'r rheini'n dyllau gweddol fach o'u cymharu â rhai [[Chwarel Dorothea]], ond yn ddwfn er mwyn dilyn yr wythïen. Mae yno hefyd olion hen sied trin llechi. Bu'n gweithio rhwng 1840 a 1915, ac ar ei mwyaf cynhyrchiol cyflogwyd 100 o ddynion yno.<ref>Gwybodaeth gan Eric Jones ar dudalen Wikipedia Commons, [https://commons.wikimedia.org/wiki/File:The_Upper_Pit_of_Chwarel_Lechi_Nant_y_Fron_Slate_Quarry_-_geograph.org.uk_-_251170.jpg]</ref> Mae ei safle rhwng Tal-eithin Isaf a Thaldrwst, ychydig o dan [[Chwarel Fronheulog]]. Dichon i lechi Nant-y-fron gael eu cludo ar hyd [[Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon]], sef y dramffordd a wasanaethai Chwarel Fronheulog ymysg rhai eraill llai. Maes o law, unwyd Chwarel Nant-y-fron gyda'r chwarel oedd agosaf ati, sef [[Chwarel Fronheulog]] neu Fronlog.<ref>Dewi Tomos, ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llanrwst, 2007), t.78</ref> Caewyd y twll tua 1915, er iddi agor am sbel eto yn ystod y 1970au er mwyn cynhyrchu llechi a oedd yn nodweddiadol oherwydd eu lliw gwyrdd, llechi y bu peth galw amdanynt at ddiben addurno gerddi a waliau. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:27, 22 Chwefror 2022
Mae Chwarel Nant-y-fron ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle uwchben pentref Tan'rallt. Chwarel dau dwll ydoedd, a'r rheini'n dyllau gweddol fach o'u cymharu â rhai Chwarel Dorothea, ond yn ddwfn er mwyn dilyn yr wythïen. Mae yno hefyd olion hen sied trin llechi. Bu'n gweithio rhwng 1840 a 1915, ac ar ei mwyaf cynhyrchiol cyflogwyd 100 o ddynion yno.[1] Mae ei safle rhwng Tal-eithin Isaf a Thaldrwst, ychydig o dan Chwarel Fronheulog. Dichon i lechi Nant-y-fron gael eu cludo ar hyd Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, sef y dramffordd a wasanaethai Chwarel Fronheulog ymysg rhai eraill llai. Maes o law, unwyd Chwarel Nant-y-fron gyda'r chwarel oedd agosaf ati, sef Chwarel Fronheulog neu Fronlog.[2] Caewyd y twll tua 1915, er iddi agor am sbel eto yn ystod y 1970au er mwyn cynhyrchu llechi a oedd yn nodweddiadol oherwydd eu lliw gwyrdd, llechi y bu peth galw amdanynt at ddiben addurno gerddi a waliau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma