Gorsaf reilffordd Waun-fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Er i orsaf '''Waun-fawr''' arfer bod ym mhlwyf [[Llanwnda]] ac felly yn Uwchgwyrfai, roedd yn gwasanaethu pentref yn Isgwyrfai. Saif ar lan yr Afon Gwyrfai, ac fe'i adeiladwyd gan cwmni [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] a'i hagor ym 1878. Dyma yw'r man cyntaf ar y lein ar ôl cychwyn o [[Gorsaf reilffordd Dinas|Gyffordd Dinas]] lle gall trenau groesi, gan fod y brif lein yn sengl (sef, ar gyfer trenau sy'n teithio i'r ddau gyfeiriad). Serch hynny, roedd hi'n 1895 cyn i'r cwmni weld yr angen am osod lŵp yma. Mae'r platfform bellach ar ffurf ynys rhwng y ddwy set o gledrau yn y lŵp. Gosodwyd signalau a bocs signalau ym 1895 ond atalwyd y defnydd ohonynt cyn 1920. Caewyd yr orsaf i deithwyr ym mis Medi 1936 ac ar gyfer nwyddau, 31 Mai 1937.
Er i orsaf '''Waun-fawr''' arfer bod ym mhlwyf [[Llanwnda]], ac felly yn Uwchgwyrfai, roedd yn gwasanaethu pentref yn Isgwyrfai. Saif ar lan Afon Gwyrfai, ac fe'i hadeiladwyd gan gwmni [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] a'i hagor ym 1878. Dyma yw'r man cyntaf ar y lein ar ôl cychwyn o [[Gorsaf reilffordd Dinas|Gyffordd Dinas]] lle gall trenau groesi, gan fod y brif lein yn sengl (sef, ar gyfer trenau sy'n teithio i'r ddau gyfeiriad). Serch hynny, roedd hi'n 1895 cyn i'r cwmni weld yr angen am osod lŵp yma. Mae'r platfform bellach ar ffurf ynys rhwng y ddwy set o gledrau yn y lŵp. Gosodwyd signalau a bocs signalau ym 1895 ond rhoddwyd y gorau i'w defnyddio cyn 1920. Caewyd yr orsaf i deithwyr ym mis Medi 1936 ac ar gyfer nwyddau, 31 Mai 1937.


Chwalwyd olion yr adeiladau gwreiddiol a oedd i'r dwyrain o'r brif lein wrth ail-adeiladu'r lein ar ddechrau'r ganrif hon. Mae'r bont droed hefyd yn nodwedd newydd.  Fe'i hail-agorwyd yn ystod mis Awst 2000. Rhwng 2000 a 2003 dyma oedd pen y lein nes i'r darn rhwng Waun-fawr a Phont Croesor gael ei hail-osod.
Chwalwyd olion yr adeiladau gwreiddiol a oedd i'r dwyrain o'r brif lein wrth ail-adeiladu'r lein ar ddechrau'r ganrif hon. Mae'r bont droed hefyd yn nodwedd newydd.  Fe'i hail-agorwyd yn ystod mis Awst 2000. Rhwng 2000 a 2003 dyma oedd pen y lein nes i'r darn rhwng Waun-fawr a Phont Croesor gael ei ail-osod.


Roedd un seidin nwyddau gyferbyn â'r platfform, ac ychydig i'r de, trôdd [[Seidin Chwarel Parc Dudley|cangen neu seidin fer Parc Dudley]] i ffwrdd i gyfeiriad [[Chwarel Ithfaen Parc Dudley]]. Codwyd hon yn y 1920au.  
Roedd un seidin nwyddau gyferbyn â'r platfform, ac ychydig i'r de, trodd [[Seidin Chwarel Parc Dudley|cangen neu seidin fer Parc Dudley]] i ffwrdd i gyfeiriad [[Chwarel Parc Dudley|chwarel ithfaen Parc Dudley]]. Codwyd hon yn y 1920au.  


Rheolid traffig yn yr orsaf gan signalau ar ôl 1895, er i'r rhain beidio â bodoli rywdro cyn 1920.
Rheolid traffig yn yr orsaf gan signalau ar ôl 1895, er i'r rhain beidio â bodoli rywdro cyn 1920.

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:19, 18 Ionawr 2022

Er i orsaf Waun-fawr arfer bod ym mhlwyf Llanwnda, ac felly yn Uwchgwyrfai, roedd yn gwasanaethu pentref yn Isgwyrfai. Saif ar lan Afon Gwyrfai, ac fe'i hadeiladwyd gan gwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru a'i hagor ym 1878. Dyma yw'r man cyntaf ar y lein ar ôl cychwyn o Gyffordd Dinas lle gall trenau groesi, gan fod y brif lein yn sengl (sef, ar gyfer trenau sy'n teithio i'r ddau gyfeiriad). Serch hynny, roedd hi'n 1895 cyn i'r cwmni weld yr angen am osod lŵp yma. Mae'r platfform bellach ar ffurf ynys rhwng y ddwy set o gledrau yn y lŵp. Gosodwyd signalau a bocs signalau ym 1895 ond rhoddwyd y gorau i'w defnyddio cyn 1920. Caewyd yr orsaf i deithwyr ym mis Medi 1936 ac ar gyfer nwyddau, 31 Mai 1937.

Chwalwyd olion yr adeiladau gwreiddiol a oedd i'r dwyrain o'r brif lein wrth ail-adeiladu'r lein ar ddechrau'r ganrif hon. Mae'r bont droed hefyd yn nodwedd newydd. Fe'i hail-agorwyd yn ystod mis Awst 2000. Rhwng 2000 a 2003 dyma oedd pen y lein nes i'r darn rhwng Waun-fawr a Phont Croesor gael ei ail-osod.

Roedd un seidin nwyddau gyferbyn â'r platfform, ac ychydig i'r de, trodd cangen neu seidin fer Parc Dudley i ffwrdd i gyfeiriad chwarel ithfaen Parc Dudley. Codwyd hon yn y 1920au.

Rheolid traffig yn yr orsaf gan signalau ar ôl 1895, er i'r rhain beidio â bodoli rywdro cyn 1920.

Ffynonellau

  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), tt.1-2, 194-5
  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 2 (Oakwood, 1989), t.39
  • Peter Johnson, An Illustrated History of the Welsh Highland Railway, (OPC, 2002), tt.54, 99-101