Pont Tafarn-faig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Pont Tafarn-faig''' yn sefyll ar ffin mwyaf dde-ddwyreiniol Uwchgwyrfai ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf Clynnog Fawr. Mae'n...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 12 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pont Tafarn-faig''' yn sefyll ar ffin mwyaf dde-ddwyreiniol [[Uwchgwyrfai]] ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'n croesi'r afonig sydd yn llifo i lawr Cwm-yr-haf ychydig cyn i honno ymuno ag [[Afon Ddwyfach]]. Dichon i'r bont gael ei chodi wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg tua decharu'r 19g, a hyd heddiw mae'r A487 yn ei chroesi. Ychydig lathenni i'r dwyrain mae pont arall (y Bont Tafarn-faig wreiddiol mae'n debyg) sydd yn cario'r hen lôn o Dafarn-faig i [[Nasareth]] dros yr un afon.<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf, 1888</ref>
Mae '''Pont Tafarn-faig''' yn sefyll ar ffin fwyaf de-ddwyreiniol [[Uwchgwyrfai]]<ref>Mapiau Degwm plwyfi Clynnog Fawr a Dolbenmaen, 1841</ref> ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]. Er bod rhai'n mynnu mai yn nhrefgordd [[Nancall]] y mae pen gogleddol y bont, mae'n sefyll yn gyfan gwbl yng nghwmwd Eifionydd, ond gan fod Nancall yn rhan o blwyf [[Clynnog Fawr]], fe'i cynhwysir yma. Mae'n croesi [[Afon Faig]]<ref> yr afon a enwir gan Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywydd enwog ''Anerch yr Awen neu Fyfyrdod y Bardd wrth Afon Dwyfach''</ref> sydd yn dirwyn o Gwm-yr-haf i ymuno ag [[Afon Dwyfach]] gerllaw'r Dafarn Faig. Dichon i'r bont gael ei chodi wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg tua dechrau'r 19g, a hyd heddiw mae'r A487 yn ei chroesi. Ychydig lathenni i'r dwyrain mae pont arall (y Bont Tafarn-faig wreiddiol mae'n debyg) sydd yn cario'r hen lôn o'r Dafarn-faig i [[Nasareth]] dros yr un afon.<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf, 1888.</ref> Bu farw Robert ap Gwilym Ddu ym 1850, sef 38 mlynedd cyn i’r map hwn ymddangos, ac mae’n bosib mai hon oedd y Bont Faig wreiddiol ac i’r llall gael ei galw yn Bont Tafarn-faig. Ymddengys mai ger yr hen bont wreiddiol yr oedd yr afon yn ''ewyngroch'' yng nghyfnod Robert ap Gwilym Ddu  - ''Yfwn fir o'r Afon Faig'' meddai.
 
Tua 1919 bu damwain angheuol yma.  Aethai Morris Henry Williams, 48 oed o Flaen-y-cae, Garndolbenmaen, i nôl glo i [[Gorsaf reilffordd Pant-glas|Stesion Pant-glas]] ond ar ei ffordd adref, ger y Dafarn Faig, neidiodd dau gi o ben y clawdd, fe’i taflwyd yntau o’r drol ac fe’i lladdwyd.  Roedd yn dad i 9 o blant: David, Maggie, Griffith, Eleanor, Rolant, John Llewelyn, Robert Gray, Jane Dora a Gracie. Ddeng mis ynghynt bu farw Jane Williams, y fam, o ganlyniad i’r ffliw mawr pan oedd Gracie, ei phlentyn ieuengaf, yn bymtheng mis oed. Parhaodd y teulu bach i ymgartrefu ym Mlaen-y-cae ac eithrio’r ddwy ieuengaf.  Tua thair oed oedd Jane Dora pan fu farw ei mam ac fe’i magwyd yng Nghartref Bontnewydd.  (Priododd David Davies o Chwilog yn ddiweddarach).  Mabwysiadwyd Gracie yn gyfreithlon gan wraig o Sir Fôn. Credir bod brawd Morris Henry Williams, sef David Williams, (dibriod), hefyd yn byw ym Mlaen-y-cae.<ref>Gwybodaeth a gafodd Marian Elias Roberts yn y 1970au gan un o'r plant, Eleanor Humphreys, Henbant Bach, Capel Uchaf.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:56, 14 Ionawr 2022

Mae Pont Tafarn-faig yn sefyll ar ffin fwyaf de-ddwyreiniol Uwchgwyrfai[1] ger ffermdy Tafarn-faig, ar gyrion uchaf plwyf Clynnog Fawr. Er bod rhai'n mynnu mai yn nhrefgordd Nancall y mae pen gogleddol y bont, mae'n sefyll yn gyfan gwbl yng nghwmwd Eifionydd, ond gan fod Nancall yn rhan o blwyf Clynnog Fawr, fe'i cynhwysir yma. Mae'n croesi Afon Faig[2] sydd yn dirwyn o Gwm-yr-haf i ymuno ag Afon Dwyfach gerllaw'r Dafarn Faig. Dichon i'r bont gael ei chodi wrth adeiladu'r ffordd dyrpeg tua dechrau'r 19g, a hyd heddiw mae'r A487 yn ei chroesi. Ychydig lathenni i'r dwyrain mae pont arall (y Bont Tafarn-faig wreiddiol mae'n debyg) sydd yn cario'r hen lôn o'r Dafarn-faig i Nasareth dros yr un afon.[3] Bu farw Robert ap Gwilym Ddu ym 1850, sef 38 mlynedd cyn i’r map hwn ymddangos, ac mae’n bosib mai hon oedd y Bont Faig wreiddiol ac i’r llall gael ei galw yn Bont Tafarn-faig. Ymddengys mai ger yr hen bont wreiddiol yr oedd yr afon yn ewyngroch yng nghyfnod Robert ap Gwilym Ddu - Yfwn fir o'r Afon Faig meddai.

Tua 1919 bu damwain angheuol yma. Aethai Morris Henry Williams, 48 oed o Flaen-y-cae, Garndolbenmaen, i nôl glo i Stesion Pant-glas ond ar ei ffordd adref, ger y Dafarn Faig, neidiodd dau gi o ben y clawdd, fe’i taflwyd yntau o’r drol ac fe’i lladdwyd. Roedd yn dad i 9 o blant: David, Maggie, Griffith, Eleanor, Rolant, John Llewelyn, Robert Gray, Jane Dora a Gracie. Ddeng mis ynghynt bu farw Jane Williams, y fam, o ganlyniad i’r ffliw mawr pan oedd Gracie, ei phlentyn ieuengaf, yn bymtheng mis oed. Parhaodd y teulu bach i ymgartrefu ym Mlaen-y-cae ac eithrio’r ddwy ieuengaf. Tua thair oed oedd Jane Dora pan fu farw ei mam ac fe’i magwyd yng Nghartref Bontnewydd. (Priododd David Davies o Chwilog yn ddiweddarach). Mabwysiadwyd Gracie yn gyfreithlon gan wraig o Sir Fôn. Credir bod brawd Morris Henry Williams, sef David Williams, (dibriod), hefyd yn byw ym Mlaen-y-cae.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Degwm plwyfi Clynnog Fawr a Dolbenmaen, 1841
  2. yr afon a enwir gan Robert ap Gwilym Ddu yn ei gywydd enwog Anerch yr Awen neu Fyfyrdod y Bardd wrth Afon Dwyfach
  3. Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. cyntaf, 1888.
  4. Gwybodaeth a gafodd Marian Elias Roberts yn y 1970au gan un o'r plant, Eleanor Humphreys, Henbant Bach, Capel Uchaf.