Hwlcyn Llwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Hwlcin Llwyd i Hwlcyn Llwyd
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Hwlcyn Llwyd'''
'''Hwlcyn Llwyd''' (marw 1403) oedd y cyntaf o'i [[Teulu Glynllifon|deulu]] y gallwn fod yn sicr iddo fyw ym mhlasty [[Glynllifon]]. Roedd yn fab i [[Tudur Goch]] o [[Plas Nantlle|Blas Nantlle]] a'i wraig Morfudd ferch Hywel, ei chweched cyfnither ac aeres Glynllifon. Ni wnaeth Hwlcyn ochri gydag Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel am annibyniaeth yn erbyn y Saeson, ond yn hytrach bwriodd ei goelbren gyda Brenin Lloegr. Cafodd y swyddogaeth, dan William de Tranmere, uchel swyddog y brenin, o warchod Castell Caernarfon rhag Glyndŵr ac yno y bu farw ym 1403.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.262</ref>
 
Priododd â Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Ynys Môn, a chafwyd nifer o blant: Meredydd, Nest, Alswn, Tudur a Gwenhwyfar ac o leiaf un ferch arall, y bu i'r cwbl ohonynt briodi. Tudur a sefydlodd deulu Brynbychan, Nantlle.
 
Yr oedd Hwlcyn yn frawd i Gruffydd ap Tudur Goch, sylfaenydd teulu [[Cwellyn]]. Ni ddylid ei gymysgu gyda Hwlcyn Llwyd arall, a oedd yn delynor a gymerodd rhan yn nwy Eisteddfod Caerwys yn y 16g.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori:Milwyr]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:54, 2 Ionawr 2022

Hwlcyn Llwyd (marw 1403) oedd y cyntaf o'i deulu y gallwn fod yn sicr iddo fyw ym mhlasty Glynllifon. Roedd yn fab i Tudur Goch o Blas Nantlle a'i wraig Morfudd ferch Hywel, ei chweched cyfnither ac aeres Glynllifon. Ni wnaeth Hwlcyn ochri gydag Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel am annibyniaeth yn erbyn y Saeson, ond yn hytrach bwriodd ei goelbren gyda Brenin Lloegr. Cafodd y swyddogaeth, dan William de Tranmere, uchel swyddog y brenin, o warchod Castell Caernarfon rhag Glyndŵr ac yno y bu farw ym 1403.[1]

Priododd â Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Ynys Môn, a chafwyd nifer o blant: Meredydd, Nest, Alswn, Tudur a Gwenhwyfar ac o leiaf un ferch arall, y bu i'r cwbl ohonynt briodi. Tudur a sefydlodd deulu Brynbychan, Nantlle.

Yr oedd Hwlcyn yn frawd i Gruffydd ap Tudur Goch, sylfaenydd teulu Cwellyn. Ni ddylid ei gymysgu gyda Hwlcyn Llwyd arall, a oedd yn delynor a gymerodd rhan yn nwy Eisteddfod Caerwys yn y 16g.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262