Capel Tal-y-sarn (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Addoldy Methodistaidd ym mhentref Talysarn yw '''Capel Talysarn (MC)'''. ===Agoriad=== Agorwyd y Capel ym mis Awst 1821<ref>Hobley, W. ''Hanes Methodis...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 18 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Addoldy Methodistaidd ym mhentref | Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn oedd '''Capel Tal-y-sarn (MC)'''.<ref>Prif ffynhonell ar gyfer yr erthygl wreiddiol yma yw Hobley, W. ''Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog'' (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 187-211</ref>. Gelwir yr adeilad presennol yn gyffredinol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll. Mae wedi cael ei restru'n raddfa 2 gan CADW oherwydd ei ''splendidly sumptuous interior''.<ref>Gwefan Coflein, [https://www.coflein.gov.uk/en/site/7012/details/tal-y-sarn-welsh-calvinistic-methodist-chapelcapel-mawr-ffordd-nantlle-tal-y-sarn], cyrchwyd 5.4.2020</ref> | ||
==Agoriad a'r capel cyntaf== | |||
Agorwyd y | Agorwyd y capel ei hun ym mis Awst 1821. Hon oedd yr ail gangen i gael ei ffurfio allan o [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|gapel Llanllyfni]]. Cyn adeiladu'r capel ei hun, cafwyd pregethu ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth trafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd bellach, mae'r safle dan domen rwbel anferth. | ||
Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau [[Dyffryn Nantlle]]. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Cryfhaodd yr achos, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn yn cael eu cynnal, a sefydlwyd Cymdeithas y Rechabiaid yno ym 1841. Ym 1840, cafwyd diwygiad ymysg merched y capel. | |||
== | ==Yr ail gapel== | ||
Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio'n uwch i fyny'r dyffryn, ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog [[John Jones, Tal-y-sarn]] a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger chwarel [[Cloddfa'r Coed]] yn fwy diogel ac yn llai tebygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i hagorwyd 23 Mehefin 1852 ar gost o £700, gyda lle i 350 eistedd. Maint y capel oedd 42' wrth 42'. | |||
Noda [[William Hobley]] fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun englyn ynddo. Teimlai'r beirniad, [[Eben Fardd]], nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol: | |||
::::::''Wele ein capel newydd - hylaw'' | |||
::::::::''Helaeth a chelfydd.'' | |||
:::::::''Tŷ mawl i'r Oen, Teml rydd'' | |||
:::::::''Dwyfol feddyg Tŷ Dafydd''."'' | |||
:::::::::::::William Hughes, Tŷn y werglodd | |||
::::::''Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn'' | |||
::::::::''a chynnal ddysgeidiaeth,'' | |||
:::::::''A lle'r addoli ddaeth'' | |||
:::::::''Digon i'r holl gymdogaeth''."'' | |||
:::::::::::::William Owen, Hafodlas | |||
Yn ystod y 1850au a'r 1860au, er gwaethaf creu nifer o ganghennau a aeth yn eglwysi annibynnol o'r Capel Mawr, tyfodd yr aelodaeth o 168 ym 1854 i 284 ym 1860, wedi Diwygiad 1859. Bu peth lleihad oherwydd y canghennau newydd yn ystod yr 1860au, ond roedd yr aelodaeth yn parhau i fod yn 220 erbyn 1868. | |||
==Canghennau== | |||
Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal [[Y Fron]] i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw [[Capel Cesarea (MC), Y Fron|Cesarea]], ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Gwnaed yr un peth yn y [[Cilgwyn]] trwy sefydlu ysgol yno mewn tŷ, ac adroddir am yr ysgol Sul yno yn y [[Llyfrau Gleision]] ym 1847 - er i Hobley awgrymu mai 1849 oedd dyddiad sefydlu'r ysgol.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.191</ref> Yn y man aeth [[Capel Cilgwyn (A)]] yn gapel i'r Annibynwyr. Ym 1857, sefydlwyd cangen fel ysgol Sul, [[Capel Baladeulyn (MC), Nantlle|Baladeulyn]] yn y pentref a elwir heddiw yn Nantlle, ac ym 1862 aeth Baladeulyn yn achos ar wahân. Ym 1863, ffurfiwyd cangen-ysgol yn [[Tan'rallt|Nhan'rallt]], ac fe agorodd [[Capel Tan'rallt (MC)]] fel eglwys ar wahân ym 1882, pan aeth 43 o aelodau'r Capel Mawr yn aelodau Tan'rallt. | |||
Yr oedd y canghennau hyn ar gyrion dalgylch y Capel Mawr, ac roedd yn gwneud pob synnwyr i'r pentrefi gwahanol gael eu capeli eu hunain gan gymaint oedd y galw. Teimlid, fodd bynnag, fod angen capel arall yn nes at ben [[Pen-y-groes]] i'r pentref, ac fe sefydlwyd cangen-eglwys yng [[Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn|nghapel newydd Hyfrydle]]. | |||
Ym 1873, sefydlwyd ysgol Sul i blant tlawd mewn ystafell yng Nghefncoed, ac roedd tua 30 o blant yn ei mynychu. | |||
==Ysgol ddyddiol y capel== | |||
Roedd goruwchystafell yn y capel ar gyfer cyfarfodydd, ac yno fe gynhaliwyd ysgol ddyddiol am flwyddyn nes agor [[Ysgol Tal-y-sarn|ysgol bwrdd]] yn y pentref. Digwyddodd hyn yn ystod 1856-7, gyda'r Parch. D.D. Jones, Bangor, yn athro, a phwyllgor a benodwyd gan yr eglwys yn ei rhedeg. Fodd bynnag, nid oedd y cyfleusterau'n dderbyniol ar gyfer ennill grant gan y Llywodraeth at gynnal yr ysgol. Cynhelid ysgol nos hefyd gan yr athro a hynny ar gyfer oedolion. | |||
==Blaenoriaid== | |||
Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn [[Llanllyfni]] yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, yn flaenor. | |||
==John Jones Talysarn== | |||
Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes [[John Jones, Tal-y-sarn]], gan mai yma y gwnaeth y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth i'r capel yn y lle cyntaf ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr. | |||
==Y trydydd capel== | |||
Teimlid erbyn canol yr 1870au fod y capel wedi mynd yn rhy fach, ac fe'i ehangwyd, trwy ddefnyddio rhai o'r waliau a'r sylfeini i godi capel newydd, ac fe wnaed cryn dipyn i sicrhau ei fod yn gapel hardd a chyfleus. Costiodd y capel newydd £3046 i gyd, ac yr oedd yno seddau i 700. Owen Morris Roberts o Borthmadog oedd y pensaer.<ref>Gwefan Coflein, [https://www.coflein.gov.uk/en/site/7012/details/tal-y-sarn-welsh-calvinistic-methodist-chapelcapel-mawr-ffordd-nantlle-tal-y-sarn], cyrchwyd 5.4.2020</ref> Dyma un o gapeli mwyaf Arfon felly. Fe'i hagorwyd yn swyddogol 11 Chwefror 1878 pan fu'r Cyfarfod Misol yn cyfarfod yno. | |||
Ym 1899 adeiladwyd mans ar gyfer y gweinidog, ac ym 1901 gosodwyd organ fawr yn y capel. | |||
Yn sicr, bu i godi capel newydd ddwyn ffrwyth ac, yn fuan wedi ei agor, roedd 306 o aelodau yno, nifer a gynyddodd i 365 erbyn 1900. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Crefydd]] | [[Categori:Crefydd]] | ||
[[Categori:Capeli]] | [[Categori:Capeli]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:03, 21 Rhagfyr 2021
Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn oedd Capel Tal-y-sarn (MC).[1]. Gelwir yr adeilad presennol yn gyffredinol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll. Mae wedi cael ei restru'n raddfa 2 gan CADW oherwydd ei splendidly sumptuous interior.[2]
Agoriad a'r capel cyntaf
Agorwyd y capel ei hun ym mis Awst 1821. Hon oedd yr ail gangen i gael ei ffurfio allan o gapel Llanllyfni. Cyn adeiladu'r capel ei hun, cafwyd pregethu ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth trafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd bellach, mae'r safle dan domen rwbel anferth.
Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau Dyffryn Nantlle. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Cryfhaodd yr achos, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn yn cael eu cynnal, a sefydlwyd Cymdeithas y Rechabiaid yno ym 1841. Ym 1840, cafwyd diwygiad ymysg merched y capel.
Yr ail gapel
Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio'n uwch i fyny'r dyffryn, ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog John Jones, Tal-y-sarn a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger chwarel Cloddfa'r Coed yn fwy diogel ac yn llai tebygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i hagorwyd 23 Mehefin 1852 ar gost o £700, gyda lle i 350 eistedd. Maint y capel oedd 42' wrth 42'.
Noda William Hobley fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun englyn ynddo. Teimlai'r beirniad, Eben Fardd, nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol:
- Wele ein capel newydd - hylaw
- Helaeth a chelfydd.
- Tŷ mawl i'r Oen, Teml rydd
- Dwyfol feddyg Tŷ Dafydd."
- William Hughes, Tŷn y werglodd
- Wele ein capel newydd - hylaw
- Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn
- a chynnal ddysgeidiaeth,
- A lle'r addoli ddaeth
- Digon i'r holl gymdogaeth."
- William Owen, Hafodlas
- Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn
Yn ystod y 1850au a'r 1860au, er gwaethaf creu nifer o ganghennau a aeth yn eglwysi annibynnol o'r Capel Mawr, tyfodd yr aelodaeth o 168 ym 1854 i 284 ym 1860, wedi Diwygiad 1859. Bu peth lleihad oherwydd y canghennau newydd yn ystod yr 1860au, ond roedd yr aelodaeth yn parhau i fod yn 220 erbyn 1868.
Canghennau
Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal Y Fron i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw Cesarea, ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Gwnaed yr un peth yn y Cilgwyn trwy sefydlu ysgol yno mewn tŷ, ac adroddir am yr ysgol Sul yno yn y Llyfrau Gleision ym 1847 - er i Hobley awgrymu mai 1849 oedd dyddiad sefydlu'r ysgol.[3] Yn y man aeth Capel Cilgwyn (A) yn gapel i'r Annibynwyr. Ym 1857, sefydlwyd cangen fel ysgol Sul, Baladeulyn yn y pentref a elwir heddiw yn Nantlle, ac ym 1862 aeth Baladeulyn yn achos ar wahân. Ym 1863, ffurfiwyd cangen-ysgol yn Nhan'rallt, ac fe agorodd Capel Tan'rallt (MC) fel eglwys ar wahân ym 1882, pan aeth 43 o aelodau'r Capel Mawr yn aelodau Tan'rallt.
Yr oedd y canghennau hyn ar gyrion dalgylch y Capel Mawr, ac roedd yn gwneud pob synnwyr i'r pentrefi gwahanol gael eu capeli eu hunain gan gymaint oedd y galw. Teimlid, fodd bynnag, fod angen capel arall yn nes at ben Pen-y-groes i'r pentref, ac fe sefydlwyd cangen-eglwys yng nghapel newydd Hyfrydle.
Ym 1873, sefydlwyd ysgol Sul i blant tlawd mewn ystafell yng Nghefncoed, ac roedd tua 30 o blant yn ei mynychu.
Ysgol ddyddiol y capel
Roedd goruwchystafell yn y capel ar gyfer cyfarfodydd, ac yno fe gynhaliwyd ysgol ddyddiol am flwyddyn nes agor ysgol bwrdd yn y pentref. Digwyddodd hyn yn ystod 1856-7, gyda'r Parch. D.D. Jones, Bangor, yn athro, a phwyllgor a benodwyd gan yr eglwys yn ei rhedeg. Fodd bynnag, nid oedd y cyfleusterau'n dderbyniol ar gyfer ennill grant gan y Llywodraeth at gynnal yr ysgol. Cynhelid ysgol nos hefyd gan yr athro a hynny ar gyfer oedolion.
Blaenoriaid
Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn Llanllyfni yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, yn flaenor.
John Jones Talysarn
Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes John Jones, Tal-y-sarn, gan mai yma y gwnaeth y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth i'r capel yn y lle cyntaf ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr.
Y trydydd capel
Teimlid erbyn canol yr 1870au fod y capel wedi mynd yn rhy fach, ac fe'i ehangwyd, trwy ddefnyddio rhai o'r waliau a'r sylfeini i godi capel newydd, ac fe wnaed cryn dipyn i sicrhau ei fod yn gapel hardd a chyfleus. Costiodd y capel newydd £3046 i gyd, ac yr oedd yno seddau i 700. Owen Morris Roberts o Borthmadog oedd y pensaer.[4] Dyma un o gapeli mwyaf Arfon felly. Fe'i hagorwyd yn swyddogol 11 Chwefror 1878 pan fu'r Cyfarfod Misol yn cyfarfod yno.
Ym 1899 adeiladwyd mans ar gyfer y gweinidog, ac ym 1901 gosodwyd organ fawr yn y capel.
Yn sicr, bu i godi capel newydd ddwyn ffrwyth ac, yn fuan wedi ei agor, roedd 306 o aelodau yno, nifer a gynyddodd i 365 erbyn 1900.
Cyfeiriadau
- ↑ Prif ffynhonell ar gyfer yr erthygl wreiddiol yma yw Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) tt. 187-211
- ↑ Gwefan Coflein, [1], cyrchwyd 5.4.2020
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.191
- ↑ Gwefan Coflein, [2], cyrchwyd 5.4.2020