Chwarel Dorothea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 5: Llinell 5:
Agorwyd y chwarel ar lethr a arweiniai at Lyn Nantlle, ac roedd ar dir a berthynai i ystad [[Pant Du]] a oedd ym meddiant teulu'r Garnons. Gelwir y chwarel yn ei dyddiau cynnar yn ''Cloddfa Turner'', pan gymerodd [[William Turner]], Parcia, Caernarfon a'i fab-yng-nghyfraith, John Morgan, feddiant o'r lle tua 1829. Newidiwyd enw'r chwarel i Dorothea yn fuan ar ôl cyfnod Turner a Morgan, ac enwir y lle ar ôl gwraig [[Richard Garnons]]. Daeth prydles Garnons i ben ym 1848, a chymerodd nifer o chwarelwyr unigol a phobl leol eraill gyfranddaliadau yn y chwarel Ymysg y rhain oedd [[John Jones, Tal-y-sarn]] a fu am sbel yn reolwr ar y chwarel. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr. Gwerthwyd y cyfranddaliadau hynny ym 1853 i John Williams a ddaeth yn y man i gael digon fel y gallai rheoli'r cwmni. Bu teulu Willims yny sefyllfa honno hyd nes i'r chwarel gau.  

Roedd y chwarel yn un o'r ddwy fwyaf yn y dyffryn ac yr odd ganddi bedwar twll anferth agored. Y ddau dwll cyntaf a agorwyd yma oedd yr ''Hen Dwll'' a ''Twll y Weirglodd'', a gwnaed hynny pan oedd y chwarel o dan reolaeth Thomas Turner ac Owen Parry o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]]. <ref> Yn y gyfrol o farddoniaeth ''Cerddi'r Ddrycin'' gan O. Madog Williams, Newtown Welsh Outlook Press, Ail Argraffiad 1937, (gyda rhagymadrodd gan T. Gwynn jones a gair gan R. Williams Parry) dyma'r cyflwyniad a geir i'r gerdd ''Ifan Jos'', tud 41:   ''Labrwr yn Chwarel Dorothea, lle mae tri thwll - Twll Coch, Twll Bach a Thwll Ffiar.''</ref>
Roedd y chwarel yn un o'r ddwy fwyaf yn y dyffryn ac yr odd ganddi bedwar twll anferth agored. Y ddau dwll cyntaf a agorwyd yma oedd yr ''Hen Dwll'' a ''Twll y Weirglodd'', a gwnaed hynny pan oedd y chwarel o dan reolaeth Thomas Turner ac Owen Parry o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]]. Yn y gyfrol o farddoniaeth ''Cerddi'r Ddrycin'' gan O. Madog Williams, <ref>Newtown Welsh Outlook Press, Ail Argraffiad 1937, (gyda rhagymadrodd gan T. Gwynn Jones a gair gan R. Williams Parry)</ref> dyma'r cyflwyniad a geir i'r gerdd ''Ifan Jos'', tud 41: ''Labrwr yn Chwarel Dorothea, lle mae tri thwll - Twll Coch, Twll Bach a Thwll Ffiar.''

Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi yn nyddiau cynnar John Williams, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Yn ei hanterth, ym 1882, cynhyrchwyd 16,598 tunnell gan 533 o ddynion. Prynwyd [[Chwarel Pen-y-bryn]] ym 1894; [[Chwarel 'South Dorothea']] ym 1921 a [[Chwarel Gallt-y-fedw]] ym 1933. Allforiwyd yr holl gynnyrch ar hyd [[Rheilffordd Nantlle]], ar y dechrau i borthladd Caernarfon, ac ar ôl adeiladu [[Cangen Nantlle]] o'r lein fawr, anfonwyd llawer mewn tryciau yn syth i gwsmeriaid ym Mhrydain.
Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi yn nyddiau cynnar John Williams, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Yn ei hanterth, ym 1882, cynhyrchwyd 16,598 tunnell gan 533 o ddynion. Prynwyd [[Chwarel Pen-y-bryn]] ym 1894; [[Chwarel South Dorothea]] ym 1921 a [[Chwarel Gallt-y-fedw]] ym 1933. Allforiwyd yr holl gynnyrch ar hyd [[Rheilffordd Nantlle]], ar y dechrau i borthladd Caernarfon, ac ar ôl adeiladu [[Cangen Nantlle]] o'r lein fawr, anfonwyd llawer mewn tryciau yn syth i gwsmeriaid ym Mhrydain.

Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan oedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn y galw am lechi ar gyfer tai. Roedd bwriad i'w throi'n atyniad twristaidd ar yr un linellau a chwareli mawr Blaenau Ffestiniog, ond ni wireddiwydy cynlluniau. Mae holl gofnodion mawl y chwarel wedi eu diogelu ac maent i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Mae'r catalog ar gael ar lein: [https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/DATRhagorol/RhestrEitem.aspx?iaith=cy&rhif_archif=12&rhif_rhiant=98564].
Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan oedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn y galw am lechi ar gyfer tai. [[William Pleming]] oedd y rheolwr olaf, ac erbyn hynny, [[Michael Wynne Williams]] oedd y perchennog.<ref>Gwybodaeth gan fab William Pleming</ref> Roedd bwriad i'w throi'n atyniad twristaidd ar yr un linellau a chwareli mawr Blaenau Ffestiniog, ond ni wireddwyd y cynlluniau. Mae holl gofnodion manwl y chwarel wedi eu diogelu ac maent i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Mae'r catalog ar gael ar lein: [https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/DATRhagorol/RhestrEitem.aspx?iaith=cy&rhif_archif=12&rhif_rhiant=98564].

Oherwydd ei chwant am dir newyd (roedd [[Chwarel Cilgwyn]] i'r gogledd a'r afon i'r de, ym 1899 aethpwyd ati gan y chwarel i wyro [[Afon Llyfnwy]] a llenwi llawer ar y llyn isaf, sef [[Llyn Nantlle Isaf]], er mwynennill mwy o dir arllwyso a chloddio.
Oherwydd ei chwant am dir newydd (roedd [[Chwarel Cilgwyn]] i'r gogledd a'r afon i'r de), ym 1899 aethpwyd ati gan y chwarel i wyro [[Afon Llyfnwy]] a llenwi llawer ar y llyn isaf, sef [[Llyn Nantlle Isaf]], er mwyn ennill mwy o dir arllwyso a chloddio.<ref>Seilir yr erthygl yn bennaf ar Dewi Tomos, ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), ''passim'' a Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), tt. 318-9.</ref>

{{eginyn}}
==Ymweliad myfyrwyr â Dorothea==

==Ffynhonellau==
[[Delwedd:P Lloyd cerdyn.jpg|bawd|250px|de|Y ''llechen bost"]]
[[Delwedd:P lloyd throtch.jpg|bawd|de|250px|Yr aderyn yn y llechen]]

Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
Nid yn anfynych ceid grwpiau o fyfyrwyr yn ymweld â chwareli llechi'r Dyffryn, er mwyn astudio'r ddaeareg. Un criw aeth yno oedd myfyrwyr o Brifysgol Bryste ym 1957, a'r hanesydd a daearyddwr Philip Lloyd yn eu mysg. Ymhen blynyddoedd, cofnododd ei brofiadau yn ''Y Casglwr'':
Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), tt. 318-9.
...A chawsom gyfle i gael cip ar y diwydiant llechi drwy ymweld â Chwarel Dorothea.  Erbyn hyn, gall twristiaid haf brynu cofroddion sy’n gysylltiedig â’r diwydiant llechi —  mewn siopau crefft neu wrth ymweld â mannau fel Chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog neu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, megis coasters i’w rhoi o dan fygiau...  Er nad fel twristiaid cyffredin y bu myfyrwyr o Adran Daeareg Prifysgol Bryste yn ymweld â Chwarel Dorothea ym 1957, cawsom yr un profiad o ryfeddu at sgiliau’r gweithwyr yn hollti’r llechfaen yn llechi toi a gwylio’r llafnau mecanyddol yn eu torri i’r mesuriadau gofynnol. Dwn i ddim a fydd ymwelwyr â Llechwedd a’r Amgueddfa Lechi yn cael cynnig esiamplau bach o lechi i’w hatgoffa o’r profiad. Ond dyna a gefais i (a phob aelod arall o’r dosbarth, mae’n debyg). Fe’i trysoraf hyd heddiw, nid yn unig i gofio am y dwylo medrus yn trin cŷn a gordd, ond hefyd i werthfawrogi’r gwasanaeth arbennig a gefais gan y Post Brenhinol yn ddiweddarach....  Teimlwn ei bod yn bryd imi anfon neges adref at fy rhieni.... Ond beth am ddefnyddiau ysgrifennu? Roedd gen i ddigon o bapur ond dim amlenni. Felly, beth am brynu cerdyn post...?  Tua 5 modfedd wrth 3 modfedd yw mesuriadau cerdyn post. Dyna union faint fy esiampl o gynnyrch Chwarel Dorothea! Wrth edrych arno, cefais weledigaeth: beth am droi’r llechen yn gerdyn post? Euthum ati ar fy union i sgrafellu’r neges ar un ochr a'r cyfeiriad ar y llall... Yna i mewn â mi i swyddfa bost. Beth fyddai ymateb y swyddog i’m cais anghyffredin? Cynigais y ‘cerdyn post’ iddo i’w bwyso a'i brisio, yna ei dderbyn ’nol ganddo fel pe bai’n trin eitemau fel hyn bob dydd.
Mae’n debyg bod arbenigwyr yn medru adnabod cynnyrch ardaloedd chwarelyddol y Gogledd yn ôl y gwahaniaethau yn eu lliw. Ond weithiau ceir nam yn y lliw oherwydd amhurion. A nam felly oedd ar ddarn arall o lechen a godais oddi ar y llawr yn Chwarel Dorothea. Yn fy nychymyg, fe’i gwelais yn debyg i aderyn yn gafael yn dynn mewn brigyn... Wedi dal yr aderyn, roedd rhaid rhoi enw arno. Yn ystod y tymor dilynol cynhaliwyd wythnos ‘rag’ y Brifysgol... Ymhlith campau'r flwyddyn honno roedd ymgyrch i blastro’r ddinas gyda labeli glud yn dwyn y gair cyfrin ‘Throtch’. Y bwriad oedd gorfodi’r dinasyddion i geisio dyfalu beth oedd ei ystyr (os ystyr), mae’n debyg. A dyna’r enw a roddais i’m haderyn dychmygol llechog...
Cawsom ni’r myfyrwyr ein tywys o gwmpas Chwarel Dorothea gan y rheolwr croesawgar ym 1957. Doeddwn i ddim yn ei adnabod ar y pryd. Ond daeth Mr William Pleming yn berthynas pell imi drwy briodas yn ddiweddarach, a chefais gyfle i’w hysbysu am hanes y “cerdyn post’ a aeth yn ddiogel i ‘Bargoed, Glam., South Wales’ ac am yr aderyn dychmygol.<ref>Philip Lloyd, ''Chwarel a Chofroddion: Hanes Myfyriwr Mentrus'' (''Y Casglwr'', rhif 103, Nadolig 2011), t.3</ref>
 
{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}

[[Categori:Chwareli llechi]]
[[Categori:Chwareli llechi]]
[[Categori: Diwydiant a Masnach]]
[[Categori: Diwydiant a Masnach]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:33, 30 Mai 2021

Chwarel lechi oedd Chwarel Dorothea yn Nhal-y-sarn, (SH 499532).

Roedd y chwarel hon yn un o'r safleoedd mwyaf llwyddiannus yng Ngwynedd yn ei chyfnod. Dorothea oedd un o'r prif gyflogwyr yn Nyffryn Nantlle hefyd, a gellir deall ei phwysigrwydd ym mywyd bro Tal-y-sarn ar un cyfnod.

Agorwyd y chwarel ar lethr a arweiniai at Lyn Nantlle, ac roedd ar dir a berthynai i ystad Pant Du a oedd ym meddiant teulu'r Garnons. Gelwir y chwarel yn ei dyddiau cynnar yn Cloddfa Turner, pan gymerodd William Turner, Parcia, Caernarfon a'i fab-yng-nghyfraith, John Morgan, feddiant o'r lle tua 1829. Newidiwyd enw'r chwarel i Dorothea yn fuan ar ôl cyfnod Turner a Morgan, ac enwir y lle ar ôl gwraig Richard Garnons. Daeth prydles Garnons i ben ym 1848, a chymerodd nifer o chwarelwyr unigol a phobl leol eraill gyfranddaliadau yn y chwarel Ymysg y rhain oedd John Jones, Tal-y-sarn a fu am sbel yn reolwr ar y chwarel. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr. Gwerthwyd y cyfranddaliadau hynny ym 1853 i John Williams a ddaeth yn y man i gael digon fel y gallai rheoli'r cwmni. Bu teulu Willims yny sefyllfa honno hyd nes i'r chwarel gau.

Roedd y chwarel yn un o'r ddwy fwyaf yn y dyffryn ac yr odd ganddi bedwar twll anferth agored. Y ddau dwll cyntaf a agorwyd yma oedd yr Hen Dwll a Twll y Weirglodd, a gwnaed hynny pan oedd y chwarel o dan reolaeth Thomas Turner ac Owen Parry o Ben-y-groes. Yn y gyfrol o farddoniaeth Cerddi'r Ddrycin gan O. Madog Williams, [1] dyma'r cyflwyniad a geir i'r gerdd Ifan Jos, tud 41: Labrwr yn Chwarel Dorothea, lle mae tri thwll - Twll Coch, Twll Bach a Thwll Ffiar.

Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi yn nyddiau cynnar John Williams, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Yn ei hanterth, ym 1882, cynhyrchwyd 16,598 tunnell gan 533 o ddynion. Prynwyd Chwarel Pen-y-bryn ym 1894; Chwarel South Dorothea ym 1921 a Chwarel Gallt-y-fedw ym 1933. Allforiwyd yr holl gynnyrch ar hyd Rheilffordd Nantlle, ar y dechrau i borthladd Caernarfon, ac ar ôl adeiladu Cangen Nantlle o'r lein fawr, anfonwyd llawer mewn tryciau yn syth i gwsmeriaid ym Mhrydain.

Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan oedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn y galw am lechi ar gyfer tai. William Pleming oedd y rheolwr olaf, ac erbyn hynny, Michael Wynne Williams oedd y perchennog.[2] Roedd bwriad i'w throi'n atyniad twristaidd ar yr un linellau a chwareli mawr Blaenau Ffestiniog, ond ni wireddwyd y cynlluniau. Mae holl gofnodion manwl y chwarel wedi eu diogelu ac maent i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Mae'r catalog ar gael ar lein: [1].

Oherwydd ei chwant am dir newydd (roedd Chwarel Cilgwyn i'r gogledd a'r afon i'r de), ym 1899 aethpwyd ati gan y chwarel i wyro Afon Llyfnwy a llenwi llawer ar y llyn isaf, sef Llyn Nantlle Isaf, er mwyn ennill mwy o dir arllwyso a chloddio.[3]

Ymweliad myfyrwyr â Dorothea

Y llechen bost"
Yr aderyn yn y llechen

Nid yn anfynych ceid grwpiau o fyfyrwyr yn ymweld â chwareli llechi'r Dyffryn, er mwyn astudio'r ddaeareg. Un criw aeth yno oedd myfyrwyr o Brifysgol Bryste ym 1957, a'r hanesydd a daearyddwr Philip Lloyd yn eu mysg. Ymhen blynyddoedd, cofnododd ei brofiadau yn Y Casglwr:

...A chawsom gyfle i gael cip ar y diwydiant llechi drwy ymweld â Chwarel Dorothea.  Erbyn hyn, gall twristiaid haf brynu cofroddion sy’n gysylltiedig â’r diwydiant llechi —   mewn siopau crefft neu wrth ymweld â mannau fel Chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog neu Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, megis coasters i’w rhoi o dan fygiau...  Er nad fel twristiaid cyffredin y bu myfyrwyr o Adran Daeareg Prifysgol Bryste yn ymweld â Chwarel Dorothea ym 1957, cawsom yr un profiad o ryfeddu at sgiliau’r gweithwyr yn hollti’r llechfaen yn llechi toi a gwylio’r llafnau mecanyddol yn eu torri i’r mesuriadau gofynnol. Dwn i ddim a fydd ymwelwyr â Llechwedd a’r Amgueddfa Lechi yn cael cynnig esiamplau bach o lechi i’w hatgoffa o’r profiad. Ond dyna a gefais i (a phob aelod arall o’r dosbarth, mae’n debyg). Fe’i trysoraf hyd heddiw, nid yn unig i gofio am y dwylo medrus yn trin cŷn a gordd, ond hefyd i werthfawrogi’r gwasanaeth arbennig a gefais gan y Post Brenhinol yn ddiweddarach....  Teimlwn ei bod yn bryd imi anfon neges adref at fy rhieni.... Ond beth am ddefnyddiau ysgrifennu? Roedd gen i ddigon o bapur ond dim amlenni. Felly, beth am brynu cerdyn post...?  Tua 5 modfedd wrth 3 modfedd yw mesuriadau cerdyn post. Dyna union faint fy esiampl o gynnyrch Chwarel Dorothea! Wrth edrych arno, cefais weledigaeth: beth am droi’r llechen yn gerdyn post? Euthum ati ar fy union i sgrafellu’r neges ar un ochr a'r cyfeiriad ar y llall... Yna i mewn â mi i swyddfa bost. Beth fyddai ymateb y swyddog i’m cais anghyffredin? Cynigais y ‘cerdyn post’ iddo i’w bwyso a'i brisio, yna ei dderbyn ’nol ganddo fel pe bai’n trin eitemau fel hyn bob dydd. 
Mae’n debyg bod arbenigwyr yn medru adnabod cynnyrch ardaloedd chwarelyddol y Gogledd yn ôl y gwahaniaethau yn eu lliw. Ond weithiau ceir nam yn y lliw oherwydd amhurion. A nam felly oedd ar ddarn arall o lechen a godais oddi ar y llawr yn Chwarel Dorothea. Yn fy nychymyg, fe’i gwelais yn debyg i aderyn yn gafael yn dynn mewn brigyn... Wedi dal yr aderyn, roedd rhaid rhoi enw arno. Yn ystod y tymor dilynol cynhaliwyd wythnos ‘rag’ y Brifysgol... Ymhlith campau'r flwyddyn honno roedd ymgyrch i blastro’r ddinas gyda labeli glud yn dwyn y gair cyfrin ‘Throtch’. Y bwriad oedd gorfodi’r dinasyddion i geisio dyfalu beth oedd ei ystyr (os ystyr), mae’n debyg. A dyna’r enw a roddais i’m haderyn dychmygol llechog...
Cawsom ni’r myfyrwyr ein tywys o gwmpas Chwarel Dorothea gan y rheolwr croesawgar ym 1957. Doeddwn i ddim yn ei adnabod ar y pryd. Ond daeth Mr William Pleming yn berthynas pell imi drwy briodas yn ddiweddarach, a chefais gyfle i’w hysbysu am hanes y “cerdyn post’ a aeth yn ddiogel i ‘Bargoed, Glam., South Wales’ ac am yr aderyn dychmygol.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Newtown Welsh Outlook Press, Ail Argraffiad 1937, (gyda rhagymadrodd gan T. Gwynn Jones a gair gan R. Williams Parry)
  2. Gwybodaeth gan fab William Pleming
  3. Seilir yr erthygl yn bennaf ar Dewi Tomos, Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), passim a Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), tt. 318-9.
  4. Philip Lloyd, Chwarel a Chofroddion: Hanes Myfyriwr Mentrus (Y Casglwr, rhif 103, Nadolig 2011), t.3