Michael Wynne Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Michael Wynne Williams oedd perchennog olaf Chwarel Dorothea pan oedd yn gweithio. Wedi iddi gau ym 1970, roedd o'n awyddus i droi'r safle'n atyniad twristaidd yn null atyniad Ceudyllau Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog, ond ni wireddwyd ei gynlluniau.

Bu â diddordeb yn hanes a threftadaeth yr ardal, a gweithredodd fel Is-gadeirydd Cymdeithas Ddinesig Caernarfon.

Bu'n briod â Valerie Wynne Williams, rheolwr Theatr Ardudwy. Mae eu merch, Anna, bellach yn wraig i Bryn Fôn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma