Capel Tai Duon (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Ruins of Tai Duon Calvinistic Methodist Chapel - geograph.org.uk - 256731.jpg|bawd|350px|de|Adfail Capel Tai Duon, 2006; llun:Eric Jones, Comins Creu]]
[[Delwedd:Ruins of Tai Duon Calvinistic Methodist Chapel - geograph.org.uk - 256731.jpg|bawd|350px|de|Adfail Capel Tai Duon, 2006; llun:Eric Jones, Comins Creu]]


Mae '''Capel Tai Duon''', hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd, wedi hen gau ond mae'n dal yn sefyll wrth [[Mynwent Tai Duon|fynwent Tai Duon]] ger [[Pant-glas]]. Caiff ei enw o fferm Tai Duon sydd rhyw ddau lled cae o'r capel, a dichon mai ar dir a oedd yn perthyn i fferm Tai Duon y codwyd y capel yn y lle cyntaf. Saif ar yr hen ffordd gefn rhwng Tafarn-faig a [[Nasareth]]. Perthynai'r capel i [[Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd]] a pheidiodd â chael ei defnyddio'n helaeth wedi i [[Capel Libanus (MC), Pant-glas|Gapel Libanus]] agor mewn man mwy cyfleus yn y pentref. Mae map Ordnans 1888 yn nodi nad oedd yn cael ei ddefnyddio hyd yn oed yr adeg hynny. Bu ymgyrch diweddar i gadw ac adfer yr adeilad er gwaethaf cais i'w dymchwel, fel modd o sicrhau cysgodfan i bobl sydd yn mynychu'r fynwent ar gyfer angladdau, gan fod y fynwent heb ei chau'n llwyr.
Mae gwreiddiau'r achos Methodistaidd yn '''Tai Duon''' yn mynd yn ôl i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; oddeutu 1808 dechreuwyd cynnal Ysgol Sul  mewn ffermdy o'r enw Cwmbrân. Symudodd yr ysgol oddi yno i sawl man, megis Bryn Marsli, Tan-y-ffordd a Phant-glas, cyn ymsefydlu yn Tai Duon. Roedd Tai Duon yn dŷ o well safon na chartrefi cyntaf yr Ysgol Sul; roedd y rheini'n adeiladau bach a thywyll iawn heb hyd yn oed feinciau i'r addolwyr eistedd arnynt. Arferai'r hen flaenor hynod, Owen Owens, Cors-y-wlad, [[Clynnog Fawr]], a aned ym 1800 (cyhoeddwyd cofiant iddo gan Henry Hughes, Bryncir), ddweud y cofiai'r Ysgol Sul hon yn gyfarfod mewn cwt mochyn o bob dim - anodd credu bod hynny'n llythrennol wir rhywsut! Roedd nifer o ffermwyr lleol a chrefftwyr megis Richard Humphrey (gwehydd) a Thomas Pritchard (teiliwr) yn gofalu am Ysgol Sul Tai Duon yn ei blynyddoedd cynnar. Ymhen rhyw ddeg mlynedd ar hugain wedi dechrau'r achos, adeiladwyd Ysgoldy yno ym 1838 a sefydlwyd eglwys ym 1854 pryd yr adeiladwyd capel bychan at wasanaeth y gynulleidfa.<ref>Goronwy P. Owen, ''Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd'', (Cyhoeddwyd gan Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), t.205.</ref>
 
Mae '''Capel Tai Duon''', hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd, wedi hen gau ond mae'n dal i sefyll wrth [[Mynwent Tai Duon|fynwent Tai Duon]] ger [[Pant-glas]]. Nid yw fferm Tai Duon ond rhyw led dau gae o'r capel, a dichon mai ar dir a oedd yn perthyn i fferm Tai Duon y codwyd y capel yn y lle cyntaf. Saif ar yr hen ffordd gefn rhwng Tafarn-faig a [[Nasareth]]. Perthynai'r capel i [[Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd]] a pheidiodd â chael ei ddefnyddio'n helaeth wedi i [[Capel Libanus (MC), Pant-glas|Gapel Libanus]] agor mewn man mwy cyfleus yn y pentref. Mae map Ordnans 1888 yn nodi nad oedd yn cael ei ddefnyddio hyd yn oed yr adeg hynny. Bu ymgyrch ddiweddar i gadw ac adfer yr adeilad er gwaethaf cais i'w ddymchwel, a hynny er mwyn sicrhau cysgodfan i bobl sydd yn dod i'r fynwent ar gyfer angladdau, gan nad yw'r fynwent wedi ei chau'n llwyr.


Mae [[Mynwent Tai Duon|mynwent]] y capel yn hen, a'r gofrestr gladdu sydd ar gael yn dyddio o 1885.<ref>Gwefan Y Ffôr [http://www.yffor.com/cemeteries.html], cyrchwyd 16.3.2020</ref>
Mae [[Mynwent Tai Duon|mynwent]] y capel yn hen, a'r gofrestr gladdu sydd ar gael yn dyddio o 1885.<ref>Gwefan Y Ffôr [http://www.yffor.com/cemeteries.html], cyrchwyd 16.3.2020</ref>


{{eginyn}}
 


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau]]
{{cyfeiriadau]]


  [[Categori:Capeli]]
  [[Categori:Capeli]]
[[Categori:Mynwentydd]]
[[Categori:Mynwentydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:31, 19 Ebrill 2021

Adfail Capel Tai Duon, 2006; llun:Eric Jones, Comins Creu

Mae gwreiddiau'r achos Methodistaidd yn Tai Duon yn mynd yn ôl i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; oddeutu 1808 dechreuwyd cynnal Ysgol Sul mewn ffermdy o'r enw Cwmbrân. Symudodd yr ysgol oddi yno i sawl man, megis Bryn Marsli, Tan-y-ffordd a Phant-glas, cyn ymsefydlu yn Tai Duon. Roedd Tai Duon yn dŷ o well safon na chartrefi cyntaf yr Ysgol Sul; roedd y rheini'n adeiladau bach a thywyll iawn heb hyd yn oed feinciau i'r addolwyr eistedd arnynt. Arferai'r hen flaenor hynod, Owen Owens, Cors-y-wlad, Clynnog Fawr, a aned ym 1800 (cyhoeddwyd cofiant iddo gan Henry Hughes, Bryncir), ddweud y cofiai'r Ysgol Sul hon yn gyfarfod mewn cwt mochyn o bob dim - anodd credu bod hynny'n llythrennol wir rhywsut! Roedd nifer o ffermwyr lleol a chrefftwyr megis Richard Humphrey (gwehydd) a Thomas Pritchard (teiliwr) yn gofalu am Ysgol Sul Tai Duon yn ei blynyddoedd cynnar. Ymhen rhyw ddeg mlynedd ar hugain wedi dechrau'r achos, adeiladwyd Ysgoldy yno ym 1838 a sefydlwyd eglwys ym 1854 pryd yr adeiladwyd capel bychan at wasanaeth y gynulleidfa.[1]

Mae Capel Tai Duon, hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd, wedi hen gau ond mae'n dal i sefyll wrth fynwent Tai Duon ger Pant-glas. Nid yw fferm Tai Duon ond rhyw led dau gae o'r capel, a dichon mai ar dir a oedd yn perthyn i fferm Tai Duon y codwyd y capel yn y lle cyntaf. Saif ar yr hen ffordd gefn rhwng Tafarn-faig a Nasareth. Perthynai'r capel i Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd a pheidiodd â chael ei ddefnyddio'n helaeth wedi i Gapel Libanus agor mewn man mwy cyfleus yn y pentref. Mae map Ordnans 1888 yn nodi nad oedd yn cael ei ddefnyddio hyd yn oed yr adeg hynny. Bu ymgyrch ddiweddar i gadw ac adfer yr adeilad er gwaethaf cais i'w ddymchwel, a hynny er mwyn sicrhau cysgodfan i bobl sydd yn dod i'r fynwent ar gyfer angladdau, gan nad yw'r fynwent wedi ei chau'n llwyr.

Mae mynwent y capel yn hen, a'r gofrestr gladdu sydd ar gael yn dyddio o 1885.[2]


Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau]]

  1. Goronwy P. Owen, Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd, (Cyhoeddwyd gan Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), t.205.
  2. Gwefan Y Ffôr [1], cyrchwyd 16.3.2020