Tudur Goch ap Grono: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Tudur Goch ap Grono (neu Goronwy)''' yn un o briodorion (deiliaid tir) Gwely Wyrion Ystrwyth yn nhrefgordd [[Dinlle]], gan ei fod wedi ei enwi felly mewn stent (arolwg) o [[Uwchgwyrfai]] dyddiedig 13 Gorffennaf 1352.<ref>W Ogwen Williams, ''A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records'', (Caernarfon, 1956), t.248.</ref> | Roedd '''Tudur Goch ap Grono (neu Goronwy)''' yn un o briodorion (deiliaid tir) Gwely Wyrion Ystrwyth yn nhrefgordd [[Dinlle]], gan ei fod wedi ei enwi felly mewn stent (arolwg) o [[Uwchgwyrfai]] dyddiedig 13 Gorffennaf 1352.<ref>W Ogwen Williams, ''A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records'', (Caernarfon, 1956), t.248.</ref> | ||
Roedd o'n ddisgynydd i [[ | Roedd o'n ddisgynydd i [[Cilmin Droed-ddu|Gilmin Droed-ddu]], trwy [[Ystrwyth ab Ednywain]]. Ym 1352,<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.262.</ref> fe briododd â'i chweched chyfnither, Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy [[Morgeneu Ynad]]; daeth honno â thiroedd Glynllifon iddo. Roedd yn dad i [[Hwlcyn Llwyd]], y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng [[Glynllifon|Nglynllifon]]. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu [[Cwellyn]] a William.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 172</ref> | ||
Cafodd Tudur Goch ei eni tua 1310-20, a dywedir iddo arwain mintai gref, meddir, o 12000 o Gymry i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson dan y Brenin Iorwerth III ym mrwydr Crécy (1346) - er i haneswyr modern amcangyfrif mai tua 10-11000 oedd cyfanswm byddin Lloegr yno<ref>Wikipedia[https://en.wikipedia.org/wiki/Battle_of_Cr%C3%A9cy], adalwyd 19.07.2018</ref>; bu hefyd efo'r Tywysog Du ym 1356 mewn ymgyrch ym Mhoitiers, Ffrainc. Oherwydd ei deyrngarwch fe gafodd chwe "carucate" neu efallai 720 erw o dir ym [[Llys Baladeulyn|Maladeulyn]], [[Nantlle]], tir a gipiwyd oddi ar Tudur ap Einion gan Iorwerth I yn ystod rhyfeloedd 1282-4. <ref>W. Gilbert Williams, ''Glyniaid Glynllifon'' (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33</ref> ac fe gododd hwnnw gartref iddo fo ei hun, sef Plas Nantlle.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.26</ref> | |||
[[Delwedd:Brwydr Crécy.jpg|bawd|300px|de|Brwydr Crécy. Y Cymry yw'r milwyr gyda bwâu saethu hir ar y dde]] | [[Delwedd:Brwydr Crécy.jpg|bawd|300px|de|Brwydr Crécy. Y Cymry yw'r milwyr gyda bwâu saethu hir ar y dde]] | ||
Credir iddo godi plasty ar y tir hwn a ddaeth yn gartref cangen Nantlle o deulu Glynniaid ymhen canrifoedd.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.172.</ref> Mae'r tŷ presennol ar y safle, Tŷ Mawr, Nantlle, yn olynydd i dŷ Tudur Goch, a godwyd tua 1545.<ref>Gwefan Discovering Old Welsh Houses [http://discoveringoldwelshhouses.co.uk/library/Hhistory/cae%20014_HH_17_Ty-Mawr-Nanttle.pdf], adalwyd 19.07.2018</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Tirfeddianwyr]] | |||
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]] | |||
[[Categori:Milwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:41, 7 Ionawr 2021
Roedd Tudur Goch ap Grono (neu Goronwy) yn un o briodorion (deiliaid tir) Gwely Wyrion Ystrwyth yn nhrefgordd Dinlle, gan ei fod wedi ei enwi felly mewn stent (arolwg) o Uwchgwyrfai dyddiedig 13 Gorffennaf 1352.[1]
Roedd o'n ddisgynydd i Gilmin Droed-ddu, trwy Ystrwyth ab Ednywain. Ym 1352,[2] fe briododd â'i chweched chyfnither, Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy Morgeneu Ynad; daeth honno â thiroedd Glynllifon iddo. Roedd yn dad i Hwlcyn Llwyd, y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng Nglynllifon. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu Cwellyn a William.[3]
Cafodd Tudur Goch ei eni tua 1310-20, a dywedir iddo arwain mintai gref, meddir, o 12000 o Gymry i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson dan y Brenin Iorwerth III ym mrwydr Crécy (1346) - er i haneswyr modern amcangyfrif mai tua 10-11000 oedd cyfanswm byddin Lloegr yno[4]; bu hefyd efo'r Tywysog Du ym 1356 mewn ymgyrch ym Mhoitiers, Ffrainc. Oherwydd ei deyrngarwch fe gafodd chwe "carucate" neu efallai 720 erw o dir ym Maladeulyn, Nantlle, tir a gipiwyd oddi ar Tudur ap Einion gan Iorwerth I yn ystod rhyfeloedd 1282-4. [5] ac fe gododd hwnnw gartref iddo fo ei hun, sef Plas Nantlle.[6]
Credir iddo godi plasty ar y tir hwn a ddaeth yn gartref cangen Nantlle o deulu Glynniaid ymhen canrifoedd.[7] Mae'r tŷ presennol ar y safle, Tŷ Mawr, Nantlle, yn olynydd i dŷ Tudur Goch, a godwyd tua 1545.[8]
Cyfeiriadau
- ↑ W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956), t.248.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262.
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172
- ↑ Wikipedia[1], adalwyd 19.07.2018
- ↑ W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33
- ↑ Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.26
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.172.
- ↑ Gwefan Discovering Old Welsh Houses [2], adalwyd 19.07.2018