Tafarn y Bull

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:50, 12 Mawrth 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd tafarn o'r enw 'Tafarn y Bull yn Y Bontnewydd ar ddechrau'r 19g.. Evan Williams oedd y tafarnwr ac yno y cyfarfu Cymdeithas yr Eryron, sef cymdeithas farddol a arweiniai gan Dafydd Ddu Eryri. Roedd William Williams, Bodaden, brawd Evan, ymysg yr aelodau mwyaf amlwg. Ni fu'n bosibl canfod union leoliad y dafarn hon, ac efallai yr oedd yn sefyll ychydig o lathenni y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai, neu efallai wrth Rhes Malsters ar ochr Uwchgwyrfai i Afon Gwyrfai.[1]

Cyfeioriadau

  1. North Wales Gazette, 27.5.1813, t.4