Bwlch Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Bwlch Mawr yn fryn ar gyrion Uwchgwyrfai uwchben Bwlchderwin a Chapel Uchaf. Ei uchder yw 509 metr neu 1670 troedfedd uwchben y môr. Mae'n ail o ran uchder ymysg y casgliad o fynyddoedd yn yr ardal; y copa uchaf yw'r Gurn Ddu sydd yn 522 metr o uchder. Dichon fod yr enw'n deillio o bresenoldeb pant neu fwlch rhwng y copa ei hun a thir uchel arall gerllaw (dim ond 5 troedfedd yn is), sydd yn creu bwlch amlwg iawn o bell.

Ar ochr ddwyreiniol Bwlch Mawr, uwchben Hengwm, ceir pant o'r enw Y Seler Ddu, sydd yn darddle Afon Dwyfach.

Ffurfiwyd y bryn o graig igneaidd o'r cyfnod Palaeosoig.

Gwaith mwyngloddio

Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos nifer o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau. Dichon mai dyma'r gweithfeydd ar dir Ystad Glynllifon y cyfeirir atynt mewn llythyrau at Arglwydd Newborough yng nghanol yr 1850au. Roedd dyn o'r enw Robert Wolseley, a oedd yn byw yn Nhwtil, Caernarfon, yn gweithio cloddfa fanganîs yno ym 1856[1]; a rhyw Mr Palmer hefyd wrthi mewn gwaith ger Plasnewydd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/25512
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/25778