Afon Dwyfach
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Afon Dwyfach yn cyrraedd y môr ger Llanystumdwy ar ôl llifo trwy gwmwd Eifionydd o'i tharddle yn Uwchgwyrfai, ar lethrau mynydd Bwlch Mawr. Yr afon hon oedd yn troi Melin Pant-glas. Cyfansoddodd y bardd Robert ap Gwilym Ddu (Robert Williams 1766-1850) o'r Betws Fawr gywydd nodedig iawn ar lannau Afon Dwyfach. Ystyrir y cywydd hwnnw ymysg darnau gorau barddoniaeth Gymraeg diwedd y 18g a dechrau'r 19g. Meddaai'r bardd:
Uwch Hengwm a'i gychwyngell, Treiddio mae, trwodd y'mhell; Lli' ei don sy'n lledanu, Islaw i'r ddofn Seler Ddu; Dyli' ei braisg ar dal y bryn, Yw'r mur dewr ar wàr Derwyn. Cyrraedd mae cainc arall Oddi draw ei llaw i'r llall; O dir Nant cyll derwyllt don, Hoff enwog ddysglaer ffynnon...
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma