Ysgolion Cynnar ym Mhlwyf Llanaelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ym 1833 cafwyd ymholiad swyddogol, ac adroddiad, gan y Llywodraeth, ar gyflwr addysg. Nodir yn hwnnw mai un ysgol oedd ym mhlwyf Llanaelhaearn a 18 bachgen a 6 geneth ynddi, gyda'u rhieni'n talu am eu hyfforddiant. Credir mai yn eglwys y plwyf y cynhelid hon ac mai addysg 'eglwysig' a roddid ynddi. Erbyn 1847 ac adroddiad manylach 'Y Llyfrau Gleision', mae'n ymddangos nad oedd unrhyw ysgol ddyddiol yn y plwyf, er bod 4 o ddisgyblion ysgol Sul Maesyneuadd yn mynychu ysgol ddyddiol yn rhywle - efallai Clynnog.

Fodd bynnag, erbyn 1851 nodwyd bod 17 o blant ardal yr Hendre ('Trefor' yn ddiweddarach) - rhwng 8 a 14 oed, yn cael addysg mewn ysgol a gynhelid rywle yn y plwyf gan un William Pritchard. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mewn ymholiad gan Esgob Bangor ym 1856, nodir bod oddeutu 40 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol, a chyfeirir hefyd bod 57 yn mynychu'r 'National daily School' yng Nghlynnog. Yn Yr Arweinydd (papur newydd a gyhoeddid ym Mhwllheli bryd hynny), nodwyd i wraig William Pritchard, 'Ysgolfeistr Llanaelhaearn', roi genedigaeth i fab ar ddydd Nadolig 1856.

Erbyn y 1860au gŵr o'r enw Richard Hughes, a aned ym 1831 yn fab ffarm Tynygors ar gyrion Llanaelhaearn, a gadwai ysgol wirfoddol yn y pentref. Daeth yn bostfeistr a chasglwr trethi'r plwyf, ond ei hynodrwydd pennaf ydoedd iddo brynu camera a dod yn un o ffotograffwyr cynharaf yr ardal. Mae rhai o'i luniau wedi'u diogelu yn Archifdy Caernarfon. Oddeutu'r un adeg bu Edward James (a adwaenid fel James Nefyn yn ddiweddarach), gweinidog gyda'r Annibynwyr, yn cynnal ysgol yn ei gartref yng Nghroeshigol, ym mhentref 'newydd' Trefor, ond ni pharhaodd yn hir.

Yna, ym 1871, flwyddyn wedi pasio Deddf Addysg Forster (a oedd i sicrhau addysg elfennol orfodol i blant 5 - 13 oed), dechreuodd Elias Hughes, mab ffarm Gallt Derw ger Pen Lôn Trefor, gynnal ysgol mewn 'coach-house' gyferbyn â phorth eglwys Aelhaearn. (Mae wedi diflannu ers blynyddoedd maith). Roedd ef, yn ôl pob sôn, yn dipyn gwell athro na'i ragflaenwyr, a deuai ychydig o blant o Drefor i fyny i'w ysgol. Sefydlwyd Bwrdd Ysgol Llanaelhaearn ym Mehefin 1871 gyda'r bwriad o fwrw ymlaen i sefydlu darpariaeth addysg gynradd barhaol yn y plwyf ac agorwyd Ysgol Llanaelhaearn]] (a gaeodd ysywaeth yn 2021) ar 28 Chwefror 1874.

Fodd bynnag, parhau heb ysgol sefydlog oedd pentref Trefor, a oedd yn llawer mwy o le na Llanaelhaearn erbyn hynny, ac achosodd hynny gwyno tost ymhlith y trigolion. Fodd bynnag, roedd capel bach Bethlehem yn wag erbyn hynny wedi i'r Annibynwyr godi capel newydd Maesyneuadd gerllaw, ac o 1875-77 bu Elias Hughes, Gallt Derw, yn cadw ysgol yno i blant Trefor. Yna, wedi cryn oedi, gweithredodd Y Cwmni Ithfaen Cymreig ar ei addewid i godi ysgol newydd i'r pentref ac fe'i hagorwyd ar 12 Awst 1878 gan ddechrau pennod newydd yn hanes addysg ym mro'r Eifl.[1]

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr uchod ar wybodaeth yn: Geraint Jones, 'Rhen Sgŵl (Cyhoeddiadau Bro'r Eifl, 1978), tt.9-16.