Ysgol Gynradd Bontnewydd
Ysgol gynradd ym mhentref Y Bontnewydd yw Ysgol Bontnewydd. Mae'n sefyll ar lan Isgwyrfai Afon Gwyrfai.
Sefydlwyd yr ysgol ym 1843, a gelwid hi bryd hynny yn Bontnewydd National School. Y prifathro cyntaf oedd John Prichard, mab William Prichard, Glan'rafon Bach, Llanwnda, a aeth wedyn yn gurad i Gapel Garmon. Ymysg y disgyblion cyntaf oedd Henry Howell Parry a'i frawd William Parry (Gwilym Droed-ddu). Aeth William ymlaen i fod yn ddisgybl-athro yn yr ysgol nes iddo gael ei dderbyn i Goleg Hyfforddi Athrawon Caernarfon.[1]
Yn ddiweddarach fe'i galwyd yn Bontnewydd Board School, a Bontnewydd Council School cyn cael ei galw yn briodol iawn yn Ysgol Gynradd Bontnewydd.[2]
Mae'r ysgol bresennol mewn adeilad diweddarach a godwyd ym 1976. Mae adeilad yr hen ysgol yn sefyll hyd heddiw, ac yn cael ei ddefnyddio fel neuadd bentref, ac fel cartref i Ysgol Feithrin Bontnewydd. Fe'i hagorwyd ar ei newydd wedd ym mis Tachwedd 1993.[3] Fe'i haddaswyd yn lle hen neuadd bren a losgwyd yn llwyr ychydig cyn hynny. Safai honno ar ochr Uwchgwyrfai i'r afon, gyferbyn â thai Pentref Uchaf. Mae tŷ annedd wedi ei godi ar safle'r hen neuadd erbyn hyn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma